Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cynorthwyo pobl bregus sydd yn dioddef o Iechyd Meddwl i gyfarch eu nghenion tai, ac rhoi cefnogaeth buan i unigolion trwy weithredu mewn modd ataliol er mwyn lleihau y risg o ddigartrefedd.
• Cyd-weithio yn agos gyda’r Chydlynydd Camdrin Sylwedd ac Iechyd Meddwl.
• Gweithio oddi mewn fframwaith aml-asiantaethol i sichau fod unigolion yn derbyn yr ystod llawn o gefnogaeth.
• Cyd-lynu anghenion cymorth tai unigolion efo anghenion iechyd meddwl a chydlynu eu cynlluniau cefnogaeth.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• -
Prif Ddyletswyddau.
• Darparu gwasanaeth ble fo’r cwsmer yn ganolbwynt - i’r bobl hynny sydd yn ddigartref neu o dan fygythiad o fod yn ddigartref sydd hefyd yn dioddef o Iechyd Meddwl.
• Cyd-lynu gwasanaethau cymorth tai i gleientiaid sydd gydag anghenion iechyd meddwl; gan gynnwys darparu cymorth uniongyrchol ac hefyd cyd-lynu gyda asiantaethau eraill a all ddarparu cymorth ategol.
• Cynnal ymweliadau yn yr ysbyty, cartref neu hostel mechnïaeth y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol pan a phryd bo angen.
• Gweithio gyda chleientiaid i wella sgiliau a goresgyn rhwystrau fel eu bod yn gallu symud ymlaen yn llwyddiannus i dai annibynnol, gan gynnwys aros yn eu heiddo eu hunain heb gymorth.
• Cefnogi’r cleient fel eu bod yn medru teimlo'n ddiogel, nodi unrhyw problemau a dod o hyd i ddatrysiadau addas.
• Defnyddio asesiad cryfder ac anghenion er mwyn adnabod y pecyn Cymorth priodol sydd ei angen i diwallu dyheadau a nodau y cleientiaid. Bydd hyn yn cynnwys darparu cymorth priodol a chynlluniau gweithredu, eu hadolygu'n rheolaidd a monitro cynnydd gan ddefnyddio offer priodol fel Ysgol Newid, Seren Canlyniad.
• Nodi pa anghenion cymorth y gellir eu diwallu gan asiantaethau eraill (e.e., budd-daliadau, tai, cymorth tenantiaeth, llesiant, addysg, swyddi, apwyntiadau iechyd corfforol a meddyliol, gweithgareddau llesiant)a gwneud atgyfeiriadau perthnasol, gan ddatblygu cysylltiadau gwaith achos gyda’r ddarpwr priodol.
• Dyfalbarhau i ysgogi cleientiaid mewn modd gadarnhaol pan nad ydynt yn ymgysylltu a’r gwasanaeth. Annog cleientiaid i ddatblygu eu sgiliau bywyd ymarferol sydd eu hangen ar gyfer byw mewn tai yn annibynnol. (e.e., cyllidebu, talu biliau, cynllunio prydau bwyd, siopa, coginio, llywio budd-daliadau).
• Bod yn sensitif i anghenion pobl (e.e. diwylliant, crefydd, cefndir, credoau personol, oedran, profiadau personol ac ati) wrth darparu cefnogaeth.
• Delio gyda cleientiaid mewn ffordd ddiduedd gan beidio â’u barnu.
• Cynnal asesiad cefnogaeth o amgylchiadau tai'r cleientiaid i adnabod y problemau/trafferthion.
• Edrych ar atebion posib i gleientiaid i ddatrys eu problem tai, gan sicrhau fod eu hanghenion a’u dymuniadau yn cael eu hystyried.
• Cymell cleientiaid i fod yn ragweithiol ac i ddod o hyd i atebion a chymryd cyfrifoldeb am eu canlyniad tai.
• Cynnal a mynychu cyfarfodydd perthnasol a chynadleddau achos gydag adrannau eraill o’r Cyngor neu asiantaethau allanol fel bo’r angen, (fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaeth Iechyd Meddwl, SMS, yr Heddlu, GISDA, Nacro, DIP a’r Gwasanaeth Prawf).
• Ceisio cael gwared â’r rhwystrau i gael atebion effeithiol i gleientiaid a thynnu cymorth gan staff eraill o’r Cyngor neu asiantaethau allanol fel bo’r angen.
• Darparu cyngor a chymorth ar opsiynau tai realistig a’u cyfeirio a’u harwain i asiantaethau eraill fel bo’r angen.
• Sicrhau fod cleientiaid yn cael eu symud o lety dros dro i lety addas arall cyn gynted â phosib
• Adnabod unrhyw anghenion cefnogi i’r cleientiaid a chyd-gysylltu gyda gweithwyr cefnogol priodol.
• Cyflwyno archebion swyddogol a phrosesu anfonebau i’w talu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor.
• Sicrhau fod cleientiaid wedi cofrestru am Dai Cymdeithasol ar y gofrestr tai cyffredin a chyd-gysylltu gyda’r Tîm Opsiynau Tai i sicrhau fod yr wybodaeth yn gyfredol
• Sicrhau fod asesiadau risg a Care Plans (Iechyd Meddwl) wedi eu derbyn gan bartneriaid cyfiawnder troseddol, Iechyd Meddwl a SMS er mwyn asesu addasrwydd eiddo dros dro a pharhaol
• Cwblhau a diweddaru asesiadau risg pan fo’n angenrheidiol
• Rhannu'r holl wybodaeth berthnasol parthed iechyd a diogelwch gyda darparwyr tai a chefnogaeth er mwyn sicrhau llety priodol
• Datblygu perthynas weithio agos gyda’r Gwasanaethau Cyfiawnder Iechyd Meddwl, SMS a Dechrau Newydd a phartneriaid eraill fel Adferiad, Nacro, Tai Gogledd Cymru, Gwas Prawf ayyb.
• Cynrychioli’r Cyngor ac, pan fo angen, cymryd arweiniad mewn cyfarfodydd aml asiantaethol a chynadleddau achos.
• Mynychu cyfarfodydd amlasiantaethol i drafod cleientiaid a rhoi Cyngor ar addasrwydd llety ayyb.
• Trafod Cleientiaid risg uchel a chynghori ar addasrwydd yr eiddo.
• Cyd-gysylltu â phrosiectau Tai a Chefnogaeth a hosteli’r Cyngor, i drafod addasrwydd eiddo a chynlluniau symud ymlaen.
• Mynychu Cyfarfodydd Tîm a chyfrannu at ddatblygiad a gwella’r gwasanaeth.
• Defnydd effeithiol o systemau TG i gofnodi gwybodaeth i ddibenion ystadegol
• Darparu gwybodaeth ystadegol ac adroddiadau fel bo’r angen
• Mynychu cyrsiau ar ddeddfwriaeth ddigartrefedd ac unrhyw gyrsiau perthnasol eraill sy’n ymwneud â maes tai, chefnogaeth tai ac iechyd meddwl sy’n cyfrannu at ddatblygiad personol yn y swydd.
• Yn rhagweithiol yn myfyrio ac adolygu arferion gwaith eich hun ac adnabod meysydd i’w gwella a / neu hyfforddiant - ar y cyd gyda’r rheolwr llinell.
• Sicrhau cydymffurfio gydag unrhyw drefniadau rheoli risg a nodwyd mewn asesiadau risg sy’n berthnasol i’r gwaith
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Efallai y bydd angen i ddeilydd y swydd weithio oriau anghymdeithasol, fel bo’r angen.
• Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o dan Ddeddf Adleoli Troseddwyr 1974. Felly, os yw eich cais yn llwyddiannus bydd angen i chi ofyn i’r Swyddfa Ddatgeliad Cofnod Troseddol am ddatgeliad. Bydd y Cyngor yn darparu’r ffurflen berthnasol ac yn talu’r ffi. Mae rhagor o wybodaeth am y broses ar gael o wneud cais.