Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•I groesawu’r cyhoedd, i oruchwylio’r amgueddfa a chynorthwyo gyda ymholiadau ymwelwyr.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
Dyletswyddau’r Oriel ac Amgueddfa -
•Rhoi croeso cynnes i bob ymwelwydd
•Goruchwylio’r amgueddfa, tra hefyd yn trefnu i agor a chau yr adeilad yn ôl yr amserlen.
•Hyrwyddo gwaith yr amgueddfa gan ymdrin ag ymholiadau llafar, ymholiadau ffôn gan ymwelwyr a thywys grwpiau o bryd i’w gilydd.
•Cynorthwyo i gludo arddangosfeydd amrywiol.
•Dyletswyddau eraill cyfatebol yn ôl cyfarwyddyd y rheolwr llinell.
•Cyfrifoldeb am hunanddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth gyda rheolau Iechyd a Diogelwch.
•Lleolir y swydd yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ond gellir o dro i dro ail leoli i gynorthwyo yn sefydliadau eraill y Gwasanaeth.
Dyletswyddau achlysurol ynghlwm â’r Ganolfan Groeso -
•Ymdrin ag ymateb i ymholiadau cyffredinol a dderbyniwyd dros y cownter unai’n uniongyrchol neu trwy gyfarwyddo’r cyhoedd at y system cyfrifadurol a/neu’r linc ffôn i Ganolfan Ymwelwyr Caernarfon.
•Cynnig cyngor am weithgareddau, atyniadau a digwyddiadau yn Fangor a’r ardal neu eu cyfeirio at y Pwynt Gwybodaeth a’r system cyfrifadurol. Cyfeirio ymholiadau cymhleth i Ganolfan Groeso Caernarfon.
•Cadw’r Pwynt Gwybodaeth yn daclus ac ail lenwi’r cyflenwyr pamffledi ac ail archebu pamffledi yn ôl yr angen
•Holi am a derbyn gwybodaeth gan atyniadau/darparwyr/busnesau lleol am weithgareddau a digwyddiadau yn yr ardal
•Cynorthwyo gyda’r gwaith o hyrwyddo Gwynedd fel cyrchfan i ymwelwyr.
•Cofnodi nifer o ymholiadau twristiaeth.
Cyffredinol -
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Swydd wrth gefn / achlysurol yw hon felly ni fydd oriau penodol i’r swydd.