NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Y gallu i weithio o fewn amserlen dynn ac ymateb i gyfarwyddiadau yn drwyadl ac amserol. Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac ar liwt ei hun fel bo’r gofyn.
DYMUNOL
Profiad o reoli ymgynghorwyr a chontractwyr
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• HNC/HNC neu gymhwyster cymharol mewn maes yn ymwneud a systemau trydanol a mecanyddol mewn adeiladwaith.
• Trwydded yrru llawn
DYMUNOL
• Gradd neu gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig mewn maes systemau trydanol a mecanyddol adeiladwaith.
• Cymhwyster cydnabyddedig men rheoli systemau dŵr/ Legionella
• Aelodaeth o gyrff proffesiynol perthnasol.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• 5 mlynedd o brofiad yn y maes gwaith cylchol a chydymffurfiaeth
• Profiad o drefnu a rheoli cytundebau cylchol (e.e. cytundebau gwasanaethu bwyleri, profion trydanol ayb.)
DYMUNOL
Profiad o ddadansoddi data / adroddiadau technegol a mewnbynnu i systemau rheoli asedau.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Dealltwriaeth ac y gallu I ddefnyddio systemau cyfriiadurol
• Gwybodaeth am systemau cyfrifiadurol rheoli asedau ag yn gyffyrddus yn ei defnydd.
• Dealltwriaeth dda o ddeddfwriaeth a rheolau yn ymwneud a gwaith trydanol a mecanyddol
• Dealltwriaeth dda a chlir o ddeddfwriaeth a rheolau Iechyd a Diogelwch
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)