Swyddi ar lein
Peiriannydd Cynnal a Chadw Strwythurau
£36,124 - £37,938 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-28116
- Teitl swydd:
- Peiriannydd Cynnal a Chadw Strwythurau
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Twnelau a Technoleg
- Dyddiad cau:
- 27/03/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £36,124 - £37,938 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S4
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Peiriannydd Cynnal a Chadw Strwythurau
CYFLOG: S4 (SCP 26-28) (£36,124 – £37,938)
LLEOLIAD: un o’r swyddfeydd isod:
Bangor, Conwy, Halkyn, Dolgellau, Newtown, Llandrindod Wells neu/or Aberaeron
(Trefn gweithio hybrid o gartref ar gael)
Cynorthwyo'r Uwch Beiriannydd Cynnal a Chadw Strwythurau i reoli archwiliad strwythurau Cefnffyrdd a'r rhaglenni cynnal a chadw strwythurau priffyrdd arferol ar gyfer oddeutu 2400 o strwythurau. Cymryd rôl arweiniol i sicrhau y cyflawnir gofynion llwyddiannus Llawlyfr cynnal a chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a CS 450 yn llwyddiannus.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Chris Head ar 01352 782132.
Rhagwelir cynnal cyfweliadau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 27/03/2025.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Saesneg yn hanfodol a Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu gweithio dan bwysau. Gallu ysgogi staff ar bob lefel.
Sgiliau trefnu da
Yn gallu cymell chi eich hun, yn frwdfrydig ac yn ymroddedig
Yn gallu gweithio a chyfrannu’n effeithiol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol
Yn gallu gweithio gydag ychydig o oruchwyliaeth
Arddangos mentergarwch personol a’r gallu i ddelio â phobl ar bob lefel mewn modd cwrtais a phroffesiynol
Sgiliau rhyngbersonol da
Yn gallu blaenoriaethu a gweithio dan bwysau ac yn gallu delio â therfynau amser gwaith
Dymunol
Gallu arwain a rheoli staff iau
Sgiliau datrys problemau
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
HNC mewn pwnc peirianneg a phum mlynedd o brofiad yn y diwydiant NEU radd mewn pwnc Peirianneg
Dymunol
Gradd mewn Peirianneg Sifil/Strwythurol
EngTech neu I Eng neu gymhwyster proffesiynol cyffelyb
National Sector Scheme 31 mewn Archwilio Strwythurau Priffyrdd
Cymhwyster City & Guilds, neu gyfwerth, mewn Archwiliadau Diogelwch Priffyrdd
Hyfforddiant Gofod Cyfyng
Cymhwyster Iechyd a Diogelwch
Cymhwyster TG
Gallu arddangos Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o ddylunio, archwilio neu gynnal a chadw strwythurau priffyrdd.
Dymunol
Profiad o reoli cyllidebau
Goruchwylio contractwyr, yn cynnwys prisiadau a chymeradwyo taliadau
Profiad o wneud defnydd gweithredol o systemau rheoli data.
Profiad o ddefnyddio amrywiaeth o raglenni caledwedd a meddalwedd TG.
Profiad o reoli tîm.
Profiad o ddarparu gwasanaethau i ISO 9001 neu systemau rheoli eraill.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Sgiliau TG, defnyddio rhaglenni Microsoft Office gan gynnwys Word ac Excel
Gwybodaeth o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a gweithredu technegau rheoli risg.
Trwydded yrru gyfredol
Dymunol
Profiad o weithio o fewn deddfwriaeth berthnasol. Adnabod blaenoriaethau o fewn rhaglenni gwaith.
Tystiolaeth o sgiliau trefnu a’r gallu i weithio gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth a’r gallu i flaenoriaethu llwythi gwaith sy’n cystadlu.
Sgiliau cyfathrebu datblygedig iawn, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Y gallu i ddangos sgiliau rhyngbersonol o’r safon uchaf a’r gallu i ysgogi tîm.
Y gallu i reoli newid ac i fynd â datblygiadau newydd yn eu blaen yn llwyddiannus.
Profiad o gasglu ac asesu data.
Profiad o ddylunio a chynnal a chadw strwythurau priffyrdd megis Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (WGTRMM), y Llawlyfr Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd (DMRB), system Rheoli Gwaith Cynnal a Chadw Arferol Asiantaethau Priffyrdd (RMMS).
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Cynorthwyo’r Uwch Beiriannydd Cynnal a Chadw Strwythurau i reoli'r rhaglen archwilio pontydd Cefnffyrdd ar gyfer oddeutu 2400 o strwythurau, dan arweiniad y Rheolwr Strwythurau, i sicrhau darpariaeth lwyddiannus o ofynion penodol Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a CS 450 o ran cost, amser ac ansawdd.
•Cynorthwyo’r Uwch Beiriannydd Cynnal a Chadw Strwythurau i reoli’r rhaglen cynnal a chadw priffyrdd arferol ar gyfer oddeutu 2400 o strwythurau, datblygu arbenigedd i sicrhau y caiff effeithlonrwydd y gweithrediadau cynnal a chadw ei uchafu.Ymgymryd â rôl arweiniol a bod yn arloesol wrth ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw ac adolygu cyffredinol yn yr Uned Rheoli Pontydd.
•Rheoli staff iau.
•Datblygu arbenigedd personol a bod yn actif o ran gweithrediad y gweithdrefnau a systemau rheoli prosiect (e.e. systemau PRINCE2, ACGChC a LlC) fydd yn sicrhau bod yr Uned yn cyflawni gwerth am arian.
•Rheoli timau prosiect hyblyg, o fewn yr Uned a’r Gwasanaeth yn gyffredinol, a rhoi arweiniad i aelodau iau’r timau.
•Cynorthwyo â rheolaeth ariannol darparu’r gwasanaeth a rhoi adborth ariannol i’r Uwch Beiriannydd Cynnal a Chadw Strwythurau a'r Rheolwr Pontydd ar faterion darparu yn gyson.
•Cynorthwyo’r Uwch Beiriannydd Cynnal a Chadw Strwythurau i reoli rôl y noddwr prosiect o ran comisiynu a rheoli contractwyr ac ymgynghorwyr.Cynorthwyo i ddatrys materion cytundebol gyda sefydliadau megis contractwyr ac ymgynghorwyr.
•Bod yn ymwybodol o, a gweithredu gweithdrefnau newydd a gyflwynwyd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau ACGChC ynghyd â datblygiadau cenedlaethol.
Cyflawni gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Yr holl offer, cerbydau a systemau sy’n berthnasol i’r dyletswyddau
•Rheoli staff ar ran Technegwyr Cynnal a Chadw Strwythurau
•Cynorthwyo wrth reoli Archwiliadau a chyllidebau cynnal a chadw perthnasol.
•Caffael a chynnal y wybodaeth fwyaf diweddar ynglŷn â’r:-
1.arferion gorau cyfredol o ran materion archwilio a chynnal a chadw
2.dull caffael contractwyr ac ymgynghorwyr allanol sydd ei angen i gyflawni gofynion darparu’r gwasanaeth
3.safonau a datblygiadau technegol (gan gynnwys systemau cyfrifiadurol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd) a chyfrifoldebau proffesiynol a statudol (yn cynnwys e.e. y rheini o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1982, Rheoliadau Cynefinoedd 1994 a Rheoliadau addas e.e.rheoliadau CDM) a sut i’w cymhwyso’n berthnasol â’r gwaith a’r swyddogaethau a gynhelir.
•goruchwylio staff eilaidd.
•dirprwyo i’r rheolwr yn ei h/absenoldeb.
•sicrhau bod yr ACGChC yn diwallu gofynion Llywodraeth Cymru.
•cynorthwyo’r Uwch Beiriannydd Cynnal a Chadw Strwythurau i reoli’n ariannol y rhaglenni archwilio a’r ddarpariaeth gwasanaeth cynnal a chadw o fewn cyllidebau sydd ar gael.
•Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn ymwybodol o ofynion Iechyd a Diogelwch a chydweithio gyda Rheolwr Sicrwydd Ansawdd ac Iechyd a Diogelwch yr Asiant er mwyn sicrhau bod yr Uned yn cydymffurfio â'r gofynion perthnasol.
Prif ddyletswyddau
•Datblygu a chynnal perthynas ymarferol a phroffesiynol gyda chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Darparwyr Gwasanaeth Awdurdodau Partner ACGChC, Contractwyr ac Ymgynghorwyr allanol (fframwaith ac heb fod ar y fframwaith).
•cynorthwyo i baratoi amcangyfrifon costau, cynnal asesiadau risg, cynllunio gofynion staff archwilio, cynhyrchu rhaglenni a rhagolygon gwariant.Monitro cynnydd gwirioneddol yn erbyn y rhagolygon a chymryd camau adferol angenrheidiol.
•cynnal archwiliadau Strwythurau’r Briffordd a rheoli gwaith cynnal a chadw arferol strwythurau
•cynorthwyo i fonitro amcanion strategol yr Asiantaeth i sicrhau bod yr Uned yn perfformio ar ei gorau ac y cyflawnir prif dargedau.
•gweithredu fel Goruchwyliwr ar gyfer swyddogaethau Cynnal a Chadw arferol ble bo angen.
•ymgymryd â chyfrifoldebau ACGChC fel y’u nodir gan Reoliadau CDM.
•arolygu goruchwyliaeth gwaith ariannol, gweinyddol a rheolaeth dechnegol gweithgareddau cynnal a chadw strwythurau’r briffordd.
•datblygu arbenigedd o ran systemau a meddalwedd cyfrifiadurol yn ymwneud â chynnal a chadw e.e. IRIS LlC a chynorthwyo’r Uwch Beiriannydd Cynnal a Chadw Strwythurau â’r materion hyn yn yr Uned i uchafu perfformiad yr Uned Rheoli Pontydd.
•cysylltu gydag awdurdodau eraill gan gynnwys LlC, ymgymerwyr statudol, awdurdodau eraill, ac unigolion sy’n ymwneud â holl agweddau darparu’r gwasanaeth.
•goruchwylio ac arwain gwaith a datblygiad staff eilaidd.
•adrodd wrth, a derbyn cyfarwyddiadau gan staff uwch, a dyletswyddau gweinyddol a phroffesiynol eraill sy’n gymesur ag awdurdod y swydd.
•Rhestr enghreifftiol yn unig yw hon.Disgwylir i ddeilydd y swydd fod â rôl yn y broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd, a chyflawni dyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd ar gais y Pennaeth Gwasanaeth / y Rheolwr neu’r Cyfarwyddwr Strategol.
•Cyfrifol am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle gan gynnwys gweithgareddau ar y safle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau arbennig
•yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith pan fo cyfyngiadau arwynebedd ffordd a rhaglen yn gofyn e.e. cau twneli a ffyrdd gyda'r nos ac ar benwythnosau.Mae'n bosib y bydd rhaid gweithio ar benwythnosau pan fo mynediad at bont rheilffordd ar gael er enghraifft.
•gallu rheoli staff a’r gwasanaeth mewn o fewn cyfyngiadau ariannol a chyfreithiol
•gallu gweithio dan bwysau, ysgogi staff a sicrhau llwyddiant ACGChC.