Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn greiddiol i bopeth a wnawn.
•Mae'r tîm yn gweithio mewn amgylchiadau er mwyn:
•Atal plentyn rhag mynd i ofal oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol.
•Dychwelyd plentyn adref o fewn yr 8 wythnos gyntaf o fynd i ofal.
•Dychwelyd plentyn adref os yw hi'n ddiogel gwneud hynny.
•Mother/Baby/Residential/Step down
•Drwy ddarparu ymyrraeth ddwys am gyfnod o amser, mae'r tîm yn gweithio gyda theuluoedd drwy gyfnodau o argyfyngau er mwyn sefydlogi'r sefyllfa a lleihau risg. Mae gwaith ymchwil wedi dangos mai'r berthynas gyda'r teulu yw'r ffactor mwyaf dylanwadol i gyfrannu at lwyddiant. Mae angen i'r gweithiwr fod yn onest, yn dibynadwy ac yn agored. Hefyd, mae angen i'r gweithiwr ddyfalbarhau er gwaethaf unrhyw rwystrau a allai godi. Am y rhesymau hyn, cedwir baich achos unigol yn isel er mwyn darparu ymyrraeth ddwys, adeiladu perthynas gadarnhaol, sicrhau cefnogaeth effeithiol a llunio’r ymyrraeth mwyaf addas ar gyfer y teulu
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifiadur, ffon symudol, car pwl
Prif ddyletswyddau
Dyletswyddau Cyffredinol
•Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
•Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol
•Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun.
•Cymryd rhan weithredol mewn goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd gan weithiwr cymdeithasol cofrestredig neu therapydd galwedigaethol cofrestredig (yn dibynnu ar rôl a thasgau) a cheisio cyngor a chefnogaeth ar feysydd gwaith y tu hwnt i ffiniau gwaith disgwyliedig.
•Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano a gweithio o fewn ffiniau'r rôl.
•Cydweithio â chydweithwyr amlddisgyblaethol dan arweiniad eich rheolwr llinell/gweithiwr cymdeithasol cofrestredig
•Paratoi a chyflwynoadroddiadau a chofnodion o dan oruchwyliaeth y rheolwr llinell/gweithiwr cymdeithasol cofrestredig gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson ac yn cael ei rhannu’n ddiogel ac yn briodol.
•Cefnogi a grymuso pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
•Grymuso pobl i gael llais a’u cefnogi i gael mynediad at wasanaethau eirioli.
•Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill.
•Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso dan oruchwyliaeth gweithiwr cymdeithasol cofrestredig.
•Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol.
•Paratoi, cynhyrchu a gweithredu cynlluniau dan oruchwyliaeth gweithiwr cymdeithasol cofrestredig/therapydd galwedigaethol cofrestredig (yn dibynnu ar rôl a thasgau).
•Nodi Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru ac adrodd yn briodol.
•Ymgymryd â'r cymhwyster lefel 4 perthnasol fel y nodir yn Fframwaith Cymwysterau GCC a rhaglenni lefel 3 a 4 eraill yn ôl y gofyn.
Dyletswyddau Lleol
•Cefnogi Plant a’i teuluoedd i gymryd rhan weithredol mewn gwneud penderfyniadau am ofal a chefnogaeth yn eu bywyd.
•Cydweithio gyda plant a’u gofalwyr i adnabod ‘Beth sy’n bwysig iddynt’ a dod o hyd i ffyrdd i gwrdd ag amcanion personol.
•Gweithio mewn ffordd sy'n grymuso ac yn ysgogi'r plant a theuluoedd, drwy ddefnyddio agwedd gadarnhaol gyda'r teulu cyfan. I adeiladu ar sgiliau a chryfderau'r rhiant, y plant â'r teulu estynedig i ddatblygu gwytnwch, hunan-ddibyniaeth a chymryd camau'n annibynnol.
•Cydweithio gydag plant, pobl ifanc a’u gofalwyr i gynllunio a darparu amrediad o ymyraethau neu gwasanaethau sydd eu hangen i gwrdd ag eu amcanion personol a diogelu.
•Llunio pecyn ymyrraeth yn seiliedig ar ystod o ymyraethau yn seiliedig ar ymchwil. Bydd angen defnyddio disgresiwn a chreadigrwydd i addasu pecynnau yn unol ag anghenion penodol yr unigolion. Ni fydd o reidrwydd pecyn ymyrraeth sy’n addas i bwrpas heb blethu gyda amryw o ymyraethau eraill oherwydd cymhlethdod achosion.
•Arwain ar gynllun ymyrraeth sydd wedi ei deilwra ar gyfer anghenion plant a’i gofalwyr.
•Asesu a chynnal adolygiadau o gynnydd, cryfderau, a risg gydag teuluoedd yn rheolaidd, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau eraill yn rhan o’r adolygiadau.
•Gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth.
•Cytuno gyda rhieni a theuluoedd ac asiantaethau eraill ar nodau a phwrpas y gwaith o fewn polisïau a gweithdrefnau diogelu
•Cofnodi gwybodaeth a pharatoi adroddiadau yn unol â gofynion y gyfundrefn. I gymryd rhan mewn achosion llys gan gynnwys rhoi tystiolaeth a pharatoi adroddiadau.
•Hybu grymuso llais plant a’i cefnogi i gael cefnogaeth adfocatiaeth
•Gweithio mewn partneriaeth gyda phroffesiynau eraill ac asiantaethau i hybu amcanion y teulu gan rhoi’r plant yn ganolog.
•Dod o hyd i ddatrysiadau i oresgyn rhwystrau. Adrodd ar rwystrau na ellir eu goresgyn yn lleol i’r arweinydd.
•Darparu gwybodaeth a chyngor i blant a’u gofalwyr am y cymorth sydd ar gael gan y gwasanaeth a hefyd eu cyfeirio (gyda chaniatâd) at y gwasanaethau cefnogol ehangach sydd ar gael yn y gymuned gan grwpiau a mudiadau lleol a chenedlaethol.
•Cyflwyno delwedd broffesiynol a gweithio mewn modd hyblyg.
•Ymarfer mewn modd sy’n egwyddorol yn unol â chod ymarfer proffesiynol ar gyfer gofal cymdeithasol.
•Cymryd rhan weithredol mewn cyfarfodydd tîm a chyfarfodydd eraill perthnasol yn ôl yr angen er mwyn cyfrannu at ddatblygiad y gwasanaeth.
Dyletswyddau eraill
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio o fewn fframwaith hyblyg i fodloni gofynion y gwasanaeth y tu allan i'r oriau 9 tan 5 arferol pan fo angen.