Swyddi ar lein
Syrfewr Adeiladau
£36,124 - £37,938 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-28087
- Teitl swydd:
- Syrfewr Adeiladau
- Adran:
- Priffyrdd, Peirianneg ac YGC
- Gwasanaeth:
- YGC
- Dyddiad cau:
- 20/03/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £36,124 - £37,938 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S4
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Buddion o weithio i YGC
Dyma rhai o’r buddion mwyaf poblogaidd o weithio i YGC:
- Gweithio o adref - mae’r opsiwn i weithio o adref ar gael i ran fwyaf, yn ddibynnol ar gytundeb. Gweithiwch o adref trwy’r wythnos, neu rhai diwrnodiau o adref a rhai yn y swyddfa. Mae’r bydd yma gydag amodau - cysylltwch am fwy o fanylion.
- Cynllun ‘Super’ Flecsi - gweithiwch eich oriau cytundebol unrhyw adeg rhwng 7yb a 10yh, oddi fewn yr wythnos 7 diwrnod. Mae’r bydd yma gydag amodau, a hefyd yn ddibynnol ar gytundeb - cysylltwch am fwy o fanylion.
- Yr opsiwn i weithio rhan amser, ac/neu rannu swydd.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Cynllun Beicio i Waith, ymysg nifer o fuddion eraill.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gareth Wright ar (01758) 704045
Rhagwelir cynnal cyfweliadau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 20/03/2025
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
•Y gallu i gyfathrebu yn effeithiol gyda diplomyddiaeth a sgiliau rhyngbersonol.
•Bod gyda gogwydd cwsmeriaid wrth ddarparu gwasanaethau'r Cyngor.
•Brwdfrydig gyda lefel uchel o hunain gymhelliant.
•Unigolyn gofalus a cywrain ei gwaith.
•Unigolyn sydd gyda’r gallu i flaenoriaethu gwaith yn ôl gofynion arian ac amser.
•Y gallu i arwain ac i ysgogi aelodau o dîm amlddisgyblaethol.
•Gyda thrwydded yrru ddilys.
Dymunol
•Yn ymrwymedig i sustemau Datblygiad Proffesiynol Parhaus a Sicrwydd Ansawdd.
•Cydymffurfio gyda gofynion CRB.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
•HND / HNC / NVQ Lefel 4 mewn maes perthnasol.
•Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.
Dymunol
Cymhwyster i lefel gradd mewn pwnc perthnasol neu gymhwyster proffesiynol
Profiad perthnasol
Hanfodol
•Profiad mewn darparu prosiectau adeiladol ar amser, o fewn cyllideb ac i safon a gytunwyd gyda’r isafswm o oruchwyliaeth.
•Profiad o weithio gyda nifer o fudd-ddeiliaid / arbenigwyr / ymgynghorwyr.
•Profiad o ddylunio ac adeiladu prosiectau canolig a’r gallu i weithio tuag at a datblygu cytundebau adeiladu.
•Profiad o weithio mewn sefyllfa amlddisgyblaethol.
Dymunol
•Profiad o weithio gyda methodoleg rheoli prosiecau
•Profiad o hyfforddi a /neu fentora
•Profiad fel Arweinydd Tîm Prosiect.
•Profiad o reoli pobol
•Profiad o weithio ar brosiectau awdurdodau lleol.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth berthnasol (yn cynnwys Iechyd a Diogelwch), codau ymarfer, rheoliadau, safonau ac amodau cytundebau.
•Dealltwriaeth o swyddogaeth client / ymgynghoriaeth / contractwr.
•Sgiliau trefnydd, rhyngbersonol a rheolaeth ariannol da.
•Y gallu i weithio ar fwy nac un prosiect ar y tro.
•Y gallu i addasu i newidiadau cost, anghenion client, cyrff statudol, ac ail-amseru'r gwaith yn unol â hynny.
•Y gallu i ddylunio, monitro a darparu adborth.
•Y gallu i ddefnyddio CAD.
•Gallu defnyddio NBS Contract Administrator.
•Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r datblygiadau mewn caffaeliad adeiladu a rheoli cytundebau.
•Y gallu i baratoi adroddiadau, rhaglenni gwaith a chyllido.
Dymunol
•Dealltwriaeth o Systemau Rheolaethol yn ymwneud ac Ansawdd, Amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch
•Gwybodaeth a dealltwriaeth o weithrediad Gwasanaethau Awdurdodau Lleol.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Sylfaen
Gallu cynnal sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yng nghyd-destun pob dydd y swydd gan ddefnyddio geirfa benodol sy'n codi'n rheolaidd er mwyn cyflwyno gwybodaeth. Gallu cyflwyno gwybodaeth syml drwy gyfwng y Gymraeg a’r Saesneg sydd wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i gwestiynau.
Darllen a Deall - Sylfaen
Darllen a deall negeseuon syml a thaflenni gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg sy'n ymwneud â'r swydd, a deall adroddiadau byr a syml ar bwnc cyfarwydd.
Ysgrifennu - Sylfaen
Gallu llenwi ffurflen syml a llunio llythyr neu neges ebost byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg drwy ddefnyddio cyfres o frawddegau allweddol i gyfleu gwybodaeth syml.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Rheoli neu gynorthwyo ar brosiectau, o dan arweiniad Prif Syrfëwr Adeiladau / Rheolwr Gwasanaeth, er mwyn sicrhau y llwyddir i ddarparu yn unol â gofynion penodol y brîff a gafwyd gan y Cleient o ran cost, amser ac ansawdd.
•Datblygu arbenigedd personol penodol ar faterion technegol a dylunio.
•Defnyddio technegau a systemau rheoli prosiect (e.e. PRINCE2, Llawlyfr Rheoli Prosiect y Cyngor ayb) a fydd yn sicrhau fod yr Ymgynghoriaeth yn ymrwymo'n llawn i fodloni anghenion y Cwsmer o ran gwerth am arian wrth weithredu ar sail fasnachol ac yn addasu eu hun i weithredu’n effeithiol.
•Rheoli timau prosiect hyblyg, yn yr Uned ac yn y Gwasanaeth cyfan, a bod yn rhan o, a darparu, cefnogaeth i aelodau’r tîm.
•Arwain neu gynorthwyo gyda rheolaeth ariannol o brosiectau a chyflwyno adborth ariannol i’r Prif Syrfewr Adeiladau/Rheolwr Gwasanaeth ar faterion ynghylch prosiectau yn ôl y gofyn.
•Perfformio dyletswyddau Arolygwr ar brosiectau adeiladu o dan arweiniad Uwch Syrfëwr Adeiladau / Prif Syrfewr Adeiladau/ Rheolwr Gwasanaeth.
•Arwain/cynorthwyo i ddatrys materion cytundebol gyda chyrff megis contractwyr ac ymgynghorwyr
•Bod yn ymwybodol o, a gweithredu ar, y gweithdrefnau newydd a gyflwynwyd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yn ogystal â datblygiadau cenedlaethol.
•Bod yn ymwybodol o holl fentrau’r Llywodraeth / yr Undeb Ewropeaidd a’u goblygiadau
•Bodloni gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch a’r amgylchedd
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Datblygu a chynnal gwybodaeth gyfoes o: -
•Yr ymarfer gorau cyfredol gyda dylunio
•Dulliau o gaffael ar gyfer prosiectau
•Safonau a datblygiadau technegol (gan gynnwys systemau cyfrifiadurol a ddefnyddir ar hyn o bryd), a cyfrifoldebau proffesiynol a statudol (gan gynnwys e.e. y rhai o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, Rheoliadau priodol e.e. Rheoliadau CDM, Rheoliadau Adeiladu) a'u defnydd perthnasol ar gyfer y gwaith a'r dyletswyddau a wneir.
•Rheoli, arolygu a mentora staff iau.
•Dirprwyo ar gyfer Rheolwr uniongyrchol yn ei h / absenoldeb.
•Sicrhau fod yr Ymgynghoriaeth yn cyfarfod â gofynion y Cyngor a’r Gyfadran.
• Arwain/cynorthwyo gyda rheoli prosiectau’n ariannol a dychwelyd cardiau dyddiadur staff i'r swyddfa weinyddol ar y dydd Llun yr wythnos ganlynol.
••Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn ymwybodol o ofynion Iechyd a Diogelwch a chydweithio gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch a Sicrwydd Ansawdd y Gyfadran er mwyn sicrhau fod yr Uned yn cydymffurfio â’r gofynion perthnasol.
••Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Goruchwylio staff eilaidd.
•Sicrhau y caiff holl daflenni amser a chymeradwyaeth staff eu cwblhau yn unol â gweithdrefnau YGC.
Prif ddyletswyddau
•Archwilio, adolygu ac asesu cyflwr adeiladau
•Datblygu a chynnal perthynas ymarferol a phroffesiynol gyda’r prif gleientiaid, megis gwasanaethau eraill y Gyfadran, y swyddfeydd ardal, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyfadrannau ac Awdurdodau eraill.
•Paratoi amcangyfrifon o gostau, cynnal asesiadau risg, cynllunio anghenion staff ar gyfer prosiectau, cynhyrchu rhaglenni a rhagolygon gwariant. Monitro’r cynnydd gwirioneddol yn erbyn y rhagolygon a chymryd y camau adferol angenrheidiol.
•Cynllunio i sicrhau bod yr Uned yn perfformio ar ei gorau ac y cyflawnir prif dargedau.
•Bod yn rhyngweithiol wrth ddatblygu a monitro’r Cynllun Busnes er mwyn sicrhau perfformiad optimaidd yr uned ac y cyrhaeddir y targedau allweddol
•Gweithredu fel arolygydd ar gyfer gwaith ar safleoedd adeiladu yn ôl y gofyn ac ysgwyddo cyfrifoldebau a dyletswyddau dirprwyedig
•Cynorthwyo i ddatblygu a chynnal dogfennau model contract
•ymgymryd â'r dyletswyddau sy'n ofynnol dan Reoliadau CDM gan gynnwys rôly Dylunydd pan fo angen..
•Bod yn rhan o dîm y Dylunydd/CDM-C a chynorthwyo gyda’i dyletswyddau o dan Reoliadau CDM gan gynnwys cyfrannu i gynlluniau iechyd a diogelwch cyn tender ayyb
•Arwain/cynorthwyo gyda rheoli prosiectau, o dan yr Uwch Syrfëwr Adeiladau/Prif Syrfewr Adeiladau/Rheolwr Gwasanaeth a bod yn rheolwr prosiect ar gynlluniau.
•Rheoli amryw/nifer lluosog o brosiectau ar unrhyw adeg gan rheoli cytundebau gyda ymgynghorwyr a Chontractwyr
•Cyflwyno bidiau am waith i cleiantiaid
•I gynrychioli’r gwasanaeth fel arweinydd tîm prosiect ar brosiectau detholedig, ac i reoli prosiectau adeiladu man waith cyfalaf a chynnal a chadw sylweddol.
•Dilyn trefn cynllun gwaith RIBA, er mwyn cwblhau prosiectau o fewn cyllid, ar amser ac i’r cynnwys ac ansawdd gofynnol yn unol â pholisïau ac amcanion yr awdurdod ac ymarferiadau proffesiynol gorau.
•Paratoi dyluniadau, dogfennau cytundeb, manylion a rhestr gwaith.
•Gweinyddu cytundebau ac ymweld â safleoedd fel bo’r angen i archwilio cynnydd a safon gwaith.
•Cynnal astudiaethau dichonoldeb, casglu data, ymchwiliadau rhagarweiniol, asesiadau technegol, a gweithdrefnau dylunio, gweinyddol, ansawdd ac ariannol ar gyfer gwaith a wneir ar ran y Cleient.
•Sicrhau fod prosiectau’n cydymffurfio â rheoliadau a deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol
•Arolygu rheolaeth ariannol, weinyddol a thechnegol gwaith adeiladu, ymchwilio, asesu neu gynnal a wneir ar ran y Cleient. Cynorthwyo i ddatrys materion cytundebol ar ran cleientiaid
•Datblygu arbenigedd mewn dylunio mewn perthynas â systemau a meddalwedd cyfrifiadurol. Cydlynu gyda swyddog technoleg gwybodaeth y Gyfadran
•Cydlynu gyda gwasanaethau eraill, cyfadrannau eraill, Aelodau'r Cyngor, ymgymerwyr statudol, awdurdodau eraill, sefydliadau allanol ac unigolion ynghylch pob agwedd o'r gwaith.
•Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu staff iau.
•Rheoli, goruchwylio ac arwain gwaith a datblygiad staff fel rhan o dîm prosiect.
•Adrodd i, a derbyn cyfarwyddiadau gan, staff uwch
•Dyletswyddau gweinyddol a phroffesiynol eraill yn unol â statws y swydd.
•Rhestr ddangosol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod â rôl yn y broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd ac ysgwyddo cyfrifoldebau eraill perthnasol i natur ac i raddfa’r swydd ar gais gan Bennaeth / Rheolwr y Gwasanaeth neu’r Cyfarwyddwr Strategol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Rheoli eich gwariant eich hunan ar brosiectau
•Y gallu i weithio dan bwysau, ysgogi staff a sicrhau llwyddiant yr Ymgynghoriaeth
•Bydd gofyn gweithio y tu allan i oriau swyddfa pan gynhelir Ymchwiliadau Cyhoeddus, ymgynghoriadau, arddangosfeydd, cyfarfodydd y Cyngor neu pan elwir allan i achos argyfwng