Nodweddion personol
Hanfodol
•Y gallu i drosi polisi i gyd-destun lleol a dylanwadu ar ran-ddeiliaid allweddol o ran yr agenda Oed Gyfeillgar a Heneiddio’n Dda
•Y gallu i feddwl yn greadigol a dod o hyd i atebion arloesol i greu gwelliannau mewn gwasanaethau i bobl hŷn.
•Cymeriad diplomyddol ac amyneddgar sy’n dangos sgiliau gwrando, cyfathrebu a chyflwyno rhagorol ac sydd a’r gallu i feithrin perthnasau effeithiol wrth ymgysylltu ag ystod o wahanol bobl, grwpiau a sefydliadau.
•Y gallu i ddadansoddi a rheoli blaenoriaethau sy'n gwrthdaro, gweithio yn unol â therfynau amser, targedau a blaenoriaethu tasgau.
•Gweithio'n annibynnol ar eich liwt eich hun, gan ddefnyddio disgresiwn a gwneud penderfyniadau bob dydd i ddatrys problemau a dylanwadu ar ganlyniadau cadarnhaol.
•Y ddealltwriaeth o sut i weithio gyda grwpiau cymunedol ac unigolion ar sail cryfderau ac asedau a chyd-gynhyrchu atebion cynaliadwy gyda hwy.
•Ymateb yn sensitif ac yn gyfrinachol mewn modd cwrtais a phroffesiynol i sylwadau, ymholiadau neu gwynion a ddaw i law gan amrywiaeth o ffynonellau ac mewn amrywiaeth o fformatau
•Ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth a pharodrwydd i herio gwahaniaethu yn ei holl ffurfiau.
•Bod â thrwydded yrru lawn
•Deall yr hyblygrwydd sydd ei angen yn y rôl oherwydd anghenion y gwasanaeth ac, o ganlyniad, y gallai'r rôl gynnwys gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Gradd neu gymhwyster cyfatebol
Dymunol
•Cymhwyster ECDL neu gymhwyster cyfwerth yn nefnydd TGCh
•Cymhwyster cydnabyddedig mewn rheoli prosiect
•Cymhwyster ychwanegol mewn marchnata a/neu gyfathrebu
•Cymhwyster mewn gwerthuso prosiectau
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad blaenorol o:
•Ymgysylltu gydag unigolion a grwpiau yn ogystal â chynrychiolwyr o gymunedau lleol, y sector statudol a'r trydydd sector.
•Hwyluso a datblygu prosiectau, mentrau, cynlluniau neu bolisi a cheisio am grantiau o amrywiol ffynonellau
•Cydlynu gweithgareddau a/neu gyfarfodydd aml asiantaethol
•Monitro effeithiolrwydd prosiectau neu fentrau ac ysgrifennu adroddiadau ar sail y canfyddiadau
•Trefnu gweithgareddau, digwyddiadau a chyfarfodydd i ymgysylltu â grwpiau cymunedol
•Cyd-gynhyrchu gwasanaethau, cynllunio a chyflawni canlyniadau y cytunwyd arnynt gydag unigolion a grwpiau.
•Gweithio ar draws sectorau a swyddogaethau i ddatblygu a gwreiddio polisi yn ymarferol.
•Gweithio ym maes pobl hyn neu mewn amgylchedd gofal cymdeithasol, iechyd neu drydydd sector
Dymunol
-
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Sgiliau cyfathrebu ardderchog, ar lefel 1 i 1, mewn grwpiau, yn gyhoeddus ac mewn gweithdai
•Sgiliau TG rhagorol TG yn enwedig Microsoft Office a Teams ynghyd â dealltwriaeth gadarn o’r cyfryngau cymdeithasol fel arf cyfathrebu ac ymgysylltu
•Sgiliau mewn cynhyrchu a chyflwyno deunyddiau ar feddalwedd fel CANVA.
•Sgiliau dehongli, dadansoddi a gwerthuso data a gwybodaeth i ddarparu sylfaen dystiolaeth gadarn i gyfiawnhau cynigion, argymhellion a chreu adroddiadau.
•Sgiliau meithrin perthnasoedd positif rhwng pobol gyda gwahanol anghenion a diddordebau
•Sgiliau gweithio’n rhyngasiantaethol, gan allu cyd weithio a dysgu gan arbenigwyr mewn gwahanol feysydd.
•Sgiliau negodi a chyfaddawdu rhwng gwahanol bartïon sy’n disgwyl pethau gwahanol gennych
•Sgiliau ymgysylltu a hwyluso
•Sgiliau trefnu ardderchog sy’n sicrhau bod eraill yn glir am amserlen, amcanion a phwrpas unrhyw weithgaredd.
•Gwybodaeth am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2016, a’r 5 ffordd tuag at Lesiant (Iechyd Cyhoeddus Cymru).
•Gwybodaeth fanwl am agenda Heneiddio'n Dda Llywodraeth Cymru gan gynnwys yr agwedd o Bontio’r Cenedlaethau
Dymunol
•Adnabyddiaeth o faes pobl hŷn.
•Gwybodaeth am y 3ydd sector, y mentrau cymdeithasol, a’r amrywiol ffynonellau cefnogaeth lleol sydd ar gael i gefnogi pobl hyn
•Sgiliau hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
•Gwybodaeth o feysydd gwaith y Cyngor a’i bartneriaid sy’n cael effaith ar ansawdd bywyd pob hyn yng Ngwynedd
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)