Swyddi ar lein
Swyddog Gorfodaeth Sifil
£24,790 - £25,183 y flwyddyn | Dros dro
- Cyfeirnod personel:
- 24-28011
- Teitl swydd:
- Swyddog Gorfodaeth Sifil
- Adran:
- Amgylchedd
- Gwasanaeth:
- Trafnidiaeth a Chefn Gwlad
- Dyddiad cau:
- 19/02/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro chwe mis | 37 Awr
- Cyflog:
- £24,790 - £25,183 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- GS3
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Ceri Hughes Thomas ar 01286 679367 / cerihughesthomas@gwynedd.llyw.cymru
Ystyried secondiad ar gyfer y swydd yma
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD MERCHER 19/02/2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu i weithio gyda phobl ar bob lefel ac ymdrin â’r cyhoedd yn foesgar.
Unigolyn brwdfrydig yn fodlon gwisgo crys y Cyngor, gan gynnwys penwisg, a chamera corff pob amser ar ddyletswydd.
Agwedd aeddfed ac ymarweddiad dymunol ond pendant.
Mae gonestrwydd a chywirdeb yn holl bwysig.
Ffit a heini.
Trwydded yrru lawn.
Gonestrwydd, hunan hyder, pendant a hyblyg.
Gallu i dderbyn cyfrifoldebau ac i gyfathrebu’n effeithiol.
Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
Ymroddedig i gyflwyno gwasanaeth da i’r cwsmer a wastad yn edrych am ffyrdd i wella’r gwasanaeth.
Person sydd yn fodlon mynd y filltir ychwanegol i gael maen i’r wal.
Person sydd yn cyfleu brwdfrydedd ynglŷn â’r gwaith.
Person sydd yn gallu delio yn broffesiynol a sensitif gyda phobl o bob lefel, a’r gallu i arwain a darbwyllo pobl.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Profiad o ddelio gyda’r cyhoedd.
Dymunol
Profiad o weithio yn y maes gorfodaeth traffig.
Profiad perthnasol
Hanfodol
Sgiliau cyfathrebu da iawn yn ysgrifenedig ac ar lafar yn yr Iaith Gymraeg a Saesneg.
Profiad o weithio yn effeithiol fel rhan o dîm.
Dymunol
Profiad o ddelio gyda chanllawiau ymarfer da, canllawiau / rheolau / safonau cenedlaethol a deddfwriaethau yn ymwneud a’r maes gwaith.
Sgiliau gwych mewn rheoli pobl a Gwybodaeth eang am reolaeth gorchmynion a’r pwnc Gorfodaeth Parcio Sifil.
Profiad o ddelio â phobl.
Profiad a dealltwriaeth o ganllawiau a deddfwriaeth berthnasol i faes gwaith yr Uned.
Profiad o gyd-gordio gwaith mewn modd trefnus.
Profiad o baratoi adroddiadau drwy ddefnydd o systemau technoleg gwybodaeth.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Sgiliau cyfathrebu da.
Gallu ymdrin â phobl a delio gyda sefyllfaoedd anodd yn ddoeth.
Llaw ysgrifen eglur a chymryd cofnodion cywir.
Dymunol
Gwybodaeth eang o’r cynllun Gorfodaeth Parcio Sifil.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Sylfaen
Gallu cynnal sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yng nghyd-destun pob dydd y swydd gan ddefnyddio geirfa benodol sy'n codi'n rheolaidd er mwyn cyflwyno gwybodaeth. Gallu cyflwyno gwybodaeth syml drwy gyfwng y Gymraeg a’r Saesneg sydd wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i gwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Sylfaen
Gallu llenwi ffurflen syml a llunio llythyr neu neges ebost byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg drwy ddefnyddio cyfres o frawddegau allweddol i gyfleu gwybodaeth syml.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Hyrwyddo gweithredu gwasanaethau parcio’r Cyngor yn llyfn ac yn effeithiol yn unol â Deddf Traffig Ffordd 1991, Deddf Rheoliadau Traffig Ffordd 1984 a Deddf Rheoli Traffig 2004, darparu gwasanaeth gorfodaeth parcio effeithiol er mwyn cael y lleiaf posibl o barcio anghyfreithlon a gwella diogelwch y ffordd drwy gyflwyno Rhybuddion Talu Cosb.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer a cherbyd – Cyfrifoldeb am holl offer, cherbyd, a gwisg personol sydd yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau dydd i ddydd y swydd.
•Sicrhau fod y cyfarpar yn gweithio yn iawn.
Prif ddyletswyddau
•Cyfrannu’n effeithiol at strategaeth rheoli parcio’r Cyngor drwy orfodi rheoliadau aros / parcio ar ac oddi ar y stryd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor.
•Patrolio parcio ar ac oddi ar y stryd, naill ai’n unigol neu fel rhan o dîm. Bydd patrolau ar droed ond efallai y bydd angen defnyddio cerbydau.
•Cyflwyno Rhybuddion Talu Cosb gan ddefnyddio cyfrifiadur llaw yn unol â’r cyfarwyddiadau, gweithdrefnau a Gorchmynion Rheoli Traffig perthnasol sy’n weithredol ar hyn o bryd er mwyn sicrhau cyfarfod â’r gofynion parcio cyfreithiol.
•Cadw nodiadau llyfr poced yn gywir, yn gydwybodol ac yn gyson gyda thystiolaeth ffotograffig o fod Rhybudd Talu Cosb a gyflwynir a digwyddiadau cysylltiedig eraill.
•Bod yn bresennol mewn gwrandawiadau dyfarnu fel tyst ar ran y Cyngor yn ôl y gofyn gallai hynny olygu cyflwyno adroddiadau ysgrifenedig.
•I wisgo camera corff fel rhan o’r wisg bersonol i gofnodi unrhyw ddigwyddiad / digwyddiadau bygythiol neu dreisgar gan lawr lwytho'r wybodaeth yn ddyddiol gan adrodd ar ddigwyddiad difrifol yn syth i’r Rheolwr Llinell.
•Adrodd yn ôl i’r Arweinydd Tîm Gorfodaeth Sifil ar unrhyw gerbydau yr amheuir eu bod wedi eu gadael.
•Gwirio fod arwyddion parcio, llinellau a rhybuddion yn gywir ac yn bresennol a bod Rhybuddion Talu Cosb sy’n cael eu cyflwyno’n cydymffurfio gyda’r arwyddion perthnasol.
•Adrodd yn ôl i’r Arweinydd Tîm Gorfodaeth Sifil ar unrhyw arwyddion neu linellau anghywir, wedi’u difrodi neu sydd ar goll.
•Cynorthwyo gyda chynnal peiriannau talu ac arddangos ar ac oddi ar y stryd gan adrodd yn ôl ar unrhyw ddiffygion i’r Arweinydd Tîm Gorfodaeth Sifil.
•Sicrhau y cydymffurfir â’r holl weithdrefnau Iechyd a Diogelwch ac adrodd yn ôl i’r Arweinydd Tîm Gorfodaeth Sifil ar unrhyw ddiffygion mewn meysydd parcio neu ardaloedd parcio ar y stryd.
•Ymateb i ymholiadau oddi wrth a chynnig cymorth i’r cyhoedd.
•Pan fo angen cynghori ar bolisi a gweithdrefnau’r Cyngor mewn perthynas â pharcio a rhoi cyngor ar sut i gyflwyno cwyn / sylwadau swyddogol i’r Cyngor.
•Gweithredu radio ddwy ffordd er mwyn cadw cyswllt rheolaidd gyda’r Arweinydd Tîm Gorfodaeth Sifil gan sicrhau fod y gweithdrefnau radio cywir yn cael eu dilyn pob amser.
•Adrodd yn ôl a chofnodi tystiolaeth o weithgareddau anghyfreithlon.
•Cadw edrychiad personol gweddus a phroffesiynol, gan sicrhau fod y wisg sy’n cael ei wisgo ar ddyletswydd yn lân ac yn dwt bob amser.
•Bod yn gyfrifol am gadw, gofalu a chynnal yr offer personol a geir gan y Cyngor, gan gynnwys cyfrifiaduron llaw, camerâu, offer cyfathrebu a ble bo’n berthnasol, cerbydau’r Cyngor.
•Monitro’ch gwaith eich hunain a nodi’r ymarfer gorau er mwyn gwella’r gwasanaeth a datblygu trwy Fuddsoddi mewn pobl.
•Cynorthwyo’r Rheolwr Gorfodaeth Parcio gydag unrhyw ddyletswyddau eraill o fewn cymhwysedd deilydd y swydd.
•Gofyniad ac ymrwymiad i weithio at ac ennill ardystiad Tystysgrif Cynorthwydd Parcio NVQ Lefel 2 fewn 2 flynedd o gychwyn y swydd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Dyddiad Adolygu / Hawl i Amrywio
Bydd angen bod yn hyblyg er mwyn manteisio i’r eithaf ar sgiliau ac arbenigedd penodol deilydd y swydd er budd pawb. Disgrifiad yw hwn o’r swydd fel y mae ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei adolygu gyda deilydd y swydd a’i ddiweddaru neu ei newid fel bo’r gofyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd yn rhaid i ddeilydd y swydd fod yn weithiwr tîm effeithiol a hefyd allu gweithio ar ei liwt ei hunan a rheoli amser yn effeithiol. Yn unigolyn hynod o ysgogol, rhaid i chi allu delio gyda sefyllfaoedd anodd ac ymfflamychol yn dawel gan ganolbwyntio ar y cwsmer, bydd gofyn bod yn ddoeth ac yn ddiplomyddol bob amser.
Amodau Gwaith
Mae’n rhaid iddo / iddi fod yn gorfforol ffit ac mae gofyn gwisgo’r wisg lawn a ddarperir bob amser yn ystod oriau’r gwaith, sydd yn 37 awr yr wythnos dros 5 diwrnod ar sail rota, gan gynnwys Sadyrnau a Suliau. Bydd amser dechrau a gorffen rhwng 06:00 awr 22:00 awr ac efallai y bydd yn gofyn gweithio tu allan i’r amseroedd hyn yn ôl y gofyn.
Amgylchiadau arbennig
Bydd gofyn i ddeilydd y swydd weithio ar Sadyrnau fel rhan o wythnos waith arferol ac ar Suliau ar rota. Ar gyfnodau brig ac ar benwythnosau gŵyl y banc efallai y bydd gofyn i chi weithio oriau ychwanegol neu newid patrwm shifft er mwyn sicrhau bod digon o swyddogion ar gael i gynnal lefel dderbyniol o orfodaeth.