Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cynorthwyo gyda goruchwylio traethau. Cyflwyno gwybodaeth a chyngor i’r cyhoedd ar faterion diogelwch. Hysbysu’r cyhoedd ynglŷn ag amseroedd llanw a thywydd. Gorfodi is-ddeddfau lleol a sicrhau bod defnyddwyr yr arfordir yn cydymffurfio â deddfau a pholisïau cyfredol. Darparu Cymorth Cyntaf sylfaenol fel y gofyn, ac i alw cymorth y gwasanaethau brys yn unol â'r gofyn. Cwblhau unrhyw dasgau cynnal a chadw yn unol â’r gofyn.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am holl offer diogelwch y traeth gan hysbysu'r Swyddog Morwrol Traethau ar unwaith o unrhyw ddiffygion. Cyfrifoldeb am offer a chelfi a ddefnyddir i gwblhau tasgau dyddiol a’r wisg a ddarperir.
Prif ddyletswyddau
•Cynghori'r Cyhoedd ar faterion diogelwch
•Cynorthwyo gyda goruchwylio’r traeth o ddydd i ddydd
•Cyflwyno taflenni diogelwch, neu daflenni eraill i ddefnyddwyr y traeth
•Sicrhau fod y traeth yn rhydd o unrhyw beryglon ac ysbwriel gan sicrhau fod y Rheolwr Llinell yn ymwybodol o unrhyw beryglon ar unwaith
•Gwirio holl offer diogelwch y traeth a'r harbwr cyfagos yn ddyddiol
•Ymgynghori gyda’r swyddog Morwrol Traethau a’r Harbwr Feistr yn ddyddiol. Cynorthwyo fel bo angen
•Cynghori'r cyhoedd ar yr is-ddeddfau a pholisïau lleol
•Sicrhau fod y ffurflenni gwybodaeth a monitro adnoddau priodol yn cael eu cwblhau ar ddiwedd pob dydd
•Cynorthwyo'r gwasanaethau argyfwng yn ôl y galw
•Cynorthwyo swyddogion yr harbwr gyda gwaith cynnal a chadw dyddiol fel bo angen
•Cynorthwyo er sicrhau fod cychod ar y môr yn cydymffurfio a IRPCS/ Is ddeddfau, a pholisïau, gan Hysbysu'r Swyddog Morwrol Traethau o unrhyw ddigwyddiadau
•Casglu ysbwriel a sicrhau glendid y traeth a thiroedd cyfagos yn ddyddiol
•Glanhau cerbydau'r Uned Forwrol yn ddyddiol
•Sicrhau bod gofynion gwobrau traeth yn cael eu cyrraedd yn ddyddiol
•Sicrhau bod y cyhoedd yn cydymffurfio ac Is-ddeddfau a gwaharddiadau cŵn, a dosbarthu bagiau baw cŵn fel y bydd angen
•Diweddaru gwybodaeth yn yr hysbysfyrddau fel y bydd angen, e.e. tablau llanw, canlyniadau ansawdd dwr a.y.b.
•Cwblhau unrhyw dasgau cynnal a chadw fel y gofyn.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Ar ddyletswydd pob penwythnos, Gŵyl y Banc, a rhai nosweithiau.
•Rota gwaith wedi ei drefnu yn unol â chyfarwyddyd/cytundeb y Rheolwr Llinell leol.
•Fe ddisgwylir i'r Cymhorthydd Traeth fod yn hyblyg yn unol â gofynion y swydd. Fe fydd un diwrnod i ffwrdd pob wythnos yn cael ei drefnu drwy'r Rheolwr Llinell
•Bydd oriau gwaith yn 37 awr ar gyfartaledd ond fe fydd yr oriau a weithir yn ddibynnol ar y tywydd.