Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•I sicrhau fod lles corfforol ac emosiynol y tenantiaid yn cael eu cyfarch trwy weithredu eu cynlluniau bywyd unigol.
•I sicrhau bod amgylchedd cyfforddus a glan yn cael ei gynnal yn y cartref. Dylid gwneud wrth ddilyn canllawiau a pholisïau’r Cyngor sydd yn cael ei arwain gan y tenantiaid yw hyn.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
I ddeall fod y cyfrifoldeb tuag at y tenantiaid am les, arian a gofal personol yn gyfrifoldeb deiliad y swydd; ac i sicrhau’r safon uchaf o ofal tuag at y tenantiaid bob tro. Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb moesol i hyrwyddo’r gwasanaeth mewn ffurf bositif bob amser.
Prif ddyletswyddau
•I sicrhau bod urddas ac annibyniaeth y tenantiaid yn cael eu parchu drwy ymarfer gofal da ac yn unol á Safonau a Rheolaethau Safonol Cenedlaethol (e.e. AGGCC).
•I fod yn gyfrifol am gynnal natur y gwasanaeth sydd ei angen ar bob tenant yn ddyddiol.
•I gynorthwyo’r tenant i greu a chynnal cartref cyffyrddus, gan ddefnyddio Adnoddau cymunedol sydd ar gael.
•I gynorthwyo tenantiaid i ddatblygu eu sgiliau cadw ty a bywyd cymdeithasol e.e. siopa, coginio, bwyta’n iach, smwddio ayyb, penderfynu ar gyllid, golchi dillad a sefydlu rhwydwaith cymdeithasol.
•Bod yn sensitif i anghenion y tenantiaid a pharchu hawliau’r unigolion bob amser.
•I gadw cyfrinachedd ym mhob rhan o’r gwaith.
•Bod yn rhan o’r broses o gynllunio, paratoi, gweithredu ac adolygu Cynllun Bywyd yr unigolyn.
•I hybu amgylchedd diogel i’r tenantiaid.
•Bod yn gyfrifol am ddyletswyddau penodol fel y cyfarwyddir gan Reolwr Llinellol yn unol a’r Cynlluniau Bywyd a lle yn berthnasol mynychu cyfarfodydd adolygiad, cynadleddau achos, a chyfrannu adroddiadau ar y tenantiaid yn ysgrifenedig neu ar lafar pan mae’r galw.
•I ymgymryd a’r dasg o dderbyn a rhannu meddyginiaeth yn unol á Pholisi’r Cyngor ar weinyddiaeth a rheolaeth ar feddyginiaeth.
•I ymgymryd á phob dyletswydd sydd yn cynnwys gofal ty, gofal personol a bywyd pob dydd y tenantiaid i’r safon maent wedi arfer iddo.
•Ble bynnag mae yn bosibl i hyrwyddo a chynnwys y tenantiaid i baratoi bwydydd iach a maethlon / byrbrydau a diodydd pan fo’r angen.
•I fynychu yn rheolaidd gyrsiau hyfforddi a chwblhau QCF lefel 2 yn bennaf i sicrhau cysondeb ymwybyddiaeth gyson ynglŷn á threfniadau gofal.
•I fynychu cyfarfodydd yn unol ag arweiniad y Rheolwr Llinellol.
•I fynychu o leiaf 4 cyfarfod tîm y flwyddyn (Hanfodol).
•Bydd yn rhaid darllen pob Asesiadau Risg sydd yn berthnasol i’r lleoliad gwaith; eu deall, llofnodi a dyddio.
•Mae yn rhaid darllen Llyfryn Staff, ei ddeall, llofnodi a’i ddyddio wrth ddechrau eich cyflogaeth.
•Bod yn gyfarwydd o sut i weithredu polisïau’r Cyngor, dulliau a chanllawiau sydd yn ymwneud ag ymarfer dda a materion sydd yn ymwneud á Gofal ac Iechyd.
•I ymgymryd ag unrhyw dasgau sydd yn addas a rhesymol i’r swydd yn unol a’r Rheolwr Llinellol ac sydd er lles a datblygiad y tenantiaid.
Amgylchiadau arbennig
Mae’r Gwasanaeth Llety a Gofal yn paratoi gwasanaeth 24 awr mewn cytundeb gydag anghenion asesiad y tenantiaid.
•Yn unol ag anghenion y tenantiaid a’r gwasanaethau dydd sydd yn bodoli.
•Mae gwaith dyddiol y tŷ yn cychwyn am 7:00 y bore neu 7:30yb ac yn gorffen am 10:30 yr hwyr sydd hefyd yn gallu cynnwys shifftiau sydd wedi rhannu. Mae yn hanfodol bod staff yn gallu cychwyn am 7:00yb a phryd bynnag bydd y shifft yn cychwyn ar ôl hynny fod ar gael i weithio hyd at 11:00yh lle mae’r shifft ‘cysgu i mewn’ yn dod i rym.
•Gwaith Penwythnos - I weithio mwyafrif o 3 allan o rota o 4 wythnos; sydd yn ddibynnol ar strwythur y rota.
•Cysgu i Mewn - Bydd yn ofynnol i chi gysgu i mewn am leiafrif o 2 gysgu i mewn allan o rota 4 wythnos.
•Gallwch fod yn gweithio ar Gwyl Banc, Gwyliau Cyhoeddus, Nadolig a’r Pasg.
•I fod yn ymwybodol na all y gwasanaeth ddisgyn yn fyr o’i nod yn ystod amser o angen pan mae sefyllfaoedd yn codi e.e.:-
(a) Amgylchedd (e.e. eira, llifogydd ayyb etc).
(b) Iechyd (e.e. lefelau uchel o salwch).
•Yn ystod sefyllfaoedd o’r fath bydd disgwyliad arnoch i aros yn y tŷ hyd nes y bydd y sefyllfa wedi cael ei datrys.
•Oherwydd natur y gwasanaeth fe fydd yna sefyllfaoedd heb eu rhagweld lle bydd angen i staff aros yn y man gwaith hyd nes y bydd yna staff eraill i gymryd eu lle.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin