Pwrpas y swydd
•Cydlynu gwaith perthnasol ym mhob agwedd o’r gwaith sydd yn gysylltiedig â chynnal asesiadau o anghenion tai gwahanol ddeiliadau fel rhan o’r prosiectau ynghlwm a’r Cynllun Gweithredu Tai a gwaith strategol y Cyngor.
•Adnabod cyfleoedd ar gyfer meincnodi dangosyddion craidd a chysylltu â swyddogion mewnol i sicrhau bod data cywir yn cael ei ddefnyddio. Cynnig a chynhyrchu cynlluniau gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy’n cael eu hamlygu.
•Sefydlu a chynnal sustemau ar gyfer dal data ar anghenion tai yng Ngwynedd ac adrodd ar y canlyniadau, gan gyfrannu at strategaethau a chynlluniau gweithredu’r Adran a’r Cyngor.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Arwain ar sefydlu trefniadau casglu a dadansoddi data anghneion tai yn gyffredinol (ac anghenion cymorth tai) er mwyn ymateb i’r galw amdanynt - nid yn unig o fewn yr Adran a’r Cyngor ond hefyd yn allanol, gan gynnwys gwybodaeth am lefel a dwysedd yr angen, y math o eiddo neu gefnogaeth sydd eu hangen ac ym mha ardaloedd.
•Bwydo gwybodaeth anghenion lletya ac anghenion cymorth i fewn i strategaethau craidd y Gwasanaeth Tai gan gynnwys Asesiad Marchnad Dai Leol, Prospectws Tai, Cynllun Ailgartrefu Cyflym, Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai, Strategaeth Tai, Strategaeth Digartrefedd a’r Cynllun Gweithredu Tai.
•Cyflawni comisiwn Anghenion Lletya Pobl Hŷn ar ran Adran Oedolion y Cyngor.
•Ymateb i geisiadau am wybodaeth anghenion tai a ddaw o amryw ffynhonnell.
•Dehongli data a chyflwyno gwybodaeth i ystod eang o gynilleidfaoedd gan gynnwys swyddogion, uwch reolwyr y Cyngor, Cynghorwyr, Pwyllgorau, partneriaid, y cyhoedd.
•Olrhain a mapio’r patrymau angenrheidiol yn ymwneud a’r ddarpariaeth o lety sydd ar gael ac sydd ei angen trwy’r sir.
•Cynllunio a chyflawni comisiynau ymchwil yn unol â briffiau penodol a osodwyd ynghyd â nodau strategol y Cyngor.
•Cynnal ymchwil sylfaenol ac eilaidd ac ysgrifennu adroddiadau ymchwil ar gyfer uwch swyddogion, gan gynnwys argymhellion polisi yn ôl yr angen.
•Gweithio gydag Unedau Gwasanaeth oddi fewn i’r Adran Tai ac Eiddo a thu hwnt i adnabod ffynonellau data anghenion tai y gellir eu defnyddio i fwydo i fewn i gynlluniau’r Adran a’r Cyngor.
•Cyfrannu at gyfathrebu corfforaethol trwy baratoi briffiau, dadansoddiadau, cyflwyniadau ac adroddiadau cysylltiedig â’r sefyllfa dai yng Ngwynedd i ystod eang o gynilleidfaoedd
•Cynnal asesiadau o anghenion tai yn gyffredinol, ond hefyd yn benodol ar gyfer:
1.Pobl hŷn
2.Pobl sy’n ddigartref neu’n wynebu digartrefedd
3.Pobl gydag anghenion arbennig/angen cartrefi wedi’i addasu
4.Pobl ifanc
5.Pobl sydd angen llety efo cefnogaeth
6.Pobl a all fod yn fregus am resymau eraill
•Datblygu a meithrin rhwydweithiau proffesiynol a defnyddio cysylltiadau yn effeithiol i gyflawni canlyniadau i gynulleidfaoedd amrywiol gan gynnwys cydweithwyr, partneriaid a rhanddeiliaid
•Gweithredu fel pwynt cyswllt yr Adran ar gyfer gwybodaeth sydd yn bwydo i fewn i’r Asesiad Marchnad Dai Leol.
•Cynnal adolygiadau cyson o’r ddarpariaeth a’r cyflenwad o dai fesul daliadaeth ac adnabod lleoliadau o fewn y sir lle nad yw’r cyflenwad yn cwrdd a’r angen.
•Datblygu prosiectau yn unol ag anghenion yr Adran Tai ac Eiddo neu gyfarwyddyd statudol.
•Cyfrannu at gynhyrchu cynlluniau’r Uned Comisiynu yn ôl y galw er mwyn cyd-fynd â chyfarwyddyd statudol a chyfeiriad strategol yr Adran Tai ac Eiddo.
•Cymryd rhan a chynorthwyo mewn rhaglenni hyfforddiant a datblygu staff yr Uned.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd gofyn i’r swyddog weithio oriau anghymdeithasol er mwyn cyflawni eu rol.