Pwrpas y swydd
•Arwain y Cwmni i gyflawni ei Bwrpas a Gweledigaeth trwy ddatblygu a chynnal gwasanaethau a chyfleusterau sy’n cefnogi ac ysgogi pobl Gwynedd i fyw bywydau iach
•Sicrhau hyfywdra’r Cwmni drwy ddatblygu Strategaeth a Chynlluniau Busnes sydd yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-Yn gyfrifol am bob aelod o staff
-Yn gyfrifol am gyllid, rheolaeth gyllidol a hyfywdra ariannol y Cwmni
-Yn gyfrifol am ddefnydd priodol ac effeithiol o offer ac adeiladau
Prif ddyletswyddau
DATBLYGIAD STRATEGOL:
•Datblygu a gweithredu cynllun busnes y Cwmni, gan sicrhau ei fod yn hyfyw, ac yn atgyfnerthu a chyfrannu’n effeithiol at flaenoriaethau strategol Cwmni Byw’n Iach.
•Arwain ar adnabod cyfleoedd masnachol newydd i’r Cwmni
•Arwain ar ddatblygiad y Cwmni i sicrhau gwasanaethau modern, addas i bwrpas a chynaliadwy sydd hefyd yn fasnachol hyfyw
•Arwain ar gydweithio rhwng partneriaid a budd-ddeiliaid er mwyn cyfrannu ac ychwanegu at bwrpas y Cwmni
•Cyfrifol am berfformiad y Cwmni gan sicrhau fod trefniadau rheolaethol priodol mewn lle
ARWAIN A RHEOLI:
•I ddatblygu diwylliant sy’n adlewyrchu ein gweledigaeth, gwerthoedd, blaenoriaethau a’n ymrwymiad i gynnig gwasanaethau dwyieithog
•I ysgogi, annog, a grymuso staff trwy gyfleu gweledigaeth yn effeithiol a gan felly sicrhau cyfraniad llawn y gweithlu i gyflawni amcanion y busnes
•I greu’r amgylchiadau sy’n caniatáu i staff ddatblygu, arloesi a mentro gan ganolbwyntio ar gyflawni pwrpas craidd y busnes
DEFNYDDWYR A CHWSMERIAID:
•Sicrhau fod anghenion cwsmeriaid yn ganolog i wasanaethau ac i ddatblygiadau’r Cwmni
•Cyfrifol am iechyd a diogelwch cwsmeriaid a sicrhau fod trefniadau a pholisïau diogelu priodol mewn lle
•I arwain ar gynhyrchu rhaglenni hyrwyddo byw’n iach o fewn y gymuned
LLYWODRAETHU:
•Cydweithio’n agos gydag aelodau’r Bwrdd i sicrhau trefniadau llywodraethu effeithiol
•I gynghori’r Bwrdd ar ddatblygiadau sy’n berthnasol i waith y cwmni
• I sicrhau fod trefniadau rheoli risg priodol mewn lle o fewn y Cwmni
•I weithredu fel Ysgrifennydd y Cwmni
ARALL:
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cwmni.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cwmni yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cwmni. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cwmni yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cwmni.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau arbennig
-Bydd angen gweithio tu allan i oriau swyddfa arferol yn achlysurol, er mwyn cyflawni’r swydd.