Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cynorthwyo i gydlynu a gweithredu ar y gwaith o dderbyn a phrosesu ceisiadau cynllunio, achosion gorfodaeth ac apeliadau, ceisiadau am wasanaeth, hysbysiadau a cheisiadau am drwyddedau, darparu gwasanaeth pridiannau tir a gweinyddu’r chwiliadau a chofrestr pridiannau tir,
• Derbyn ffioedd, sganio a digideiddio gwybodaeth a’r holl ddyletswyddau cysylltiedig.
• Gwneud defnydd effeithiol o’r systemau a ddefnyddir yn unol â gofynion y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd.
• Sicrhau y darperir gwasanaeth o safon uchel ac yn unol â pholisïau a strategaethau corfforaethol y Cyngor.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyllid – Prosesu ffioedd a dderbynnir gan y Gwasanaeth yn unol a chanllawiau ariannol yr awdurdod a
threfniadau gwaith y Gwasanaeth.
• Offer – Cyfrifoldeb am offer personol ac offer arbenigol sy’n angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth.
Prif Ddyletswyddau.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
• Cydlynu a gweithredu ar y gwaith o gofrestru a phrosesu ceisiadau cynllunio, achosion gorfodaeth cynllunio ac apeliadau, cofrestru a prosesu ceisiadau am wasanaeth, hysbysiadau a cheisiadau am drwyddedau, gweithredu a gweinyddu’r chwiliadau a chofrestr pridiannau tir a’r gofrestr tir comin.
• Derbyn ac ymdrin â ffioedd y gwasanaeth.
• Prosesu arian a dderbynnir gan y gwasanaeth yn unol â chanllawiau’r awdurdod.
• Mewnfwydo gwybodaeth i systemau cyfrifiadurol y gwasanaeth a phrosesu’r wybodaeth fel bo’r angen ynghyd a sganio, plotio, a chofrestru.
• Cydlynu, chydgordio, ac ymateb i ymholiadau pridiannau tir.
• Ymgymryd â gwaith ymchwil a chasglu gwybodaeth ar gyfer anghenion y Gwasanaeth a chyrff allanol.
• Cynnig cyngor dechreuol i ddefnyddwyr y gwasanaeth ar faterion cynllunio, gwarchod y cyhoedd, a pridiannau tir.
• Cyfrifoldeb am gynnal cofrestrau'r gwasanaeth e.e. ardaloedd cadwraeth, adeiladau rhestredig, cadwraethol a choed o fewn yr ardal, pridiannau tir, tir comin, a chynllunio.
• Dirprwyo dros y Swyddog Cefnogol fel bo angen.
• Ymdrin â gwaith cefnogol arall ar gyfer y Gwasanaeth megis ymdrin â phost, costau teithio, gweinyddu apeliadau, ffeilio a phrosesu anfonebau pan fo angen.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Angen gweithio oriau anghymdeithasol ar achlysuron arbennig. Fod yn hyblyg i symud lleodiad dros dro pe bai’r angen yn codi.