Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cefnogi unigolion ag anableddau dysgu i fyw bywydau llawn yn y modd maent eisiau ei fyw, cefnogi i ddatblygu sgiliau a sicrhau cyfleoedd i fod yn rhan o’u cymuned.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Sicrhau defnydd priodol o offer arbenigol yn cynnwys adrodd ar ddiffygion a dilyn protocolau ymarfer a hyfforddiant arbenigol yn ôl yr angen
•Sicrhau defnydd priodol o eiddo unigolion e.e. meddyginiaeth ac arian.
Prif ddyletswyddau
PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOL:
CEFNOGI’R UNIGOLION SY’N DEFNYDDIO’R GWASANAETH
•Gweithio i gwrdd ag amcanion llesiant yr unigolion yr ydych yn eu cefnogi, a sicrhau a pharchu hawliau a grymuso llais yr unigolyn
•Dilyn ethos Cefnogaeth Gweithgar (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Active support <https://www.bild.org.uk/wp-content/uploads/2020/06/What-is-Active-Support.pdf>) a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Positive Behaviour Support <https://www.youtube.com/watch?v=epjud2Of610>), sydd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio gydag unigolion a hyrwyddo eu hannibyniaeth.
•Cynorthwyo gyda gofal personol mewn modd urddasol a pharchus.
•Cyfrannu at, adnabod cyfleoedd i addasu a dilyn Cynlluniau Gofal Personol yr unigolion ac annog cymryd risgiau cadarnhaol a gwybodus.
•Cyfrannu at y broses asesu, monitro, cynllunio a gweithredu yn unol ag anghenion yr unigolyn
•Profi ffyrdd newydd o gefnogi ag atebion creadigol sy’n tynnu ar gryfderau.
CYFATHREBU A PHERTHNASAU
•Cydweithio a chyfathrebu gyda gweithwyr proffesiynol a theuluoedd/gofalwyr a chwilio am ddatrysiadau i allu helpu. Cyfrannu i drafodaethau aml disgyblaethol
CANLLAWIAU A PHOLISÏAU
•Gweithredu yn unol â gofynion y ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014 a chanllawiau a pholisïau’r gwasanaeth a Chyngor Gwynedd (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru <https://socialcare.wales/hub/sswbact>).
•Ymrwymo i gòd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Còd Ymarfer <https://socialcare.wales/dealing-with-concerns/codes-of-practice-and-guidance>).
HYFFORDDIANT A GORUCHWYLIAETH
•Manteisio ar y cyfle i dderbyn goruchwyliaeth a mentora gan staff profiadol.
•Gwerthuso a dilyn rhaglenni Dysgu a Datblygu Cyngor Gwynedd sy’n angenrheidiol ar gyfer datblygiad proffesiynol .
•Ymrwymo i gwblhau cymwysterau proffesiynol pan fo angen.
DIOGELU
•Dilyn polisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol i adnabod, cofnodi, adrodd a chymryd rhan mewn protocolau diogelu oedolion bregus.
•Mentora staff newydd yn eu datblygiad
•Yn gymwys i allu asesu ac archebu man offer i unigolion
•Cyfrifoldeb dros weinyddu, dosbarthu a rhoi meddyginiaeth yn unol â pholisi
•Yn gallu ymgymryd â thasgau iechyd syml
•Cynnal asesiad manwl ag adnabod newidiadau mewn iechyd a llesiant
•Ymateb yn briodol ac yn sydyn i sefyllfaoedd o argyfwng
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Rhaid i deilydd y swydd fod yn gallu ymgymryd â thasgau symud a thrin sy’n gallu cynnwys cadeiriau olwyn a hoistiau.
•Canllaw cyffredinol yw’r swydd ddisgrifiad yma yn unig. Efallai y bydd angen i’r holl weithwyr cefnogol ymgymryd â dyletswyddau sydd heb eu hamlinellu uchod ar gais Rheolwr y Tîm neu’r rheolwr llinell.
•Disgwyliad i weithio ar draws safleoedd eraill y gwasanaeth os yw’n angenrheidiol.