Pwrpas y swydd
•Cyfrannu at weithredu polisïau’r Cyngor yn effeithiol ran gwarchod y cyhoedd a busnesau cyfreithlon drwy hyrwyddo safonau uchel o gydymffurfiaeth gyda rheoliadau gwarchod y cyhoedd ac ymarfer da.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer - Cyfrifoldeb o ddydd i ddydd am sicrhau cyflwr derbynniol a diogelwch amrywiaeth o offer gan gynnwys offer amddiffynnol personol.
•Arian – Cyfrifoldeb am arian, er enghraifft, wrth brynu samplau.
Prif ddyletswyddau
•Gorfodaeth deddfwriaeth sy’n disgyn islaw cylch gwaith yr Uned lle fo gan ddeiliad y swydd yr awdurdodiad a chymwysterau priodol, trwy gyfrwng archwiliadau, ymchwiliadau a thrwy roi cyngor i fusnesau ac awdurdodau eraill.
•Yn benodol, bydd deiliad y swydd fel arfer yn ymgymryd â gwaith yn y meysydd iechyd cyhoeddus canlynol:
a)Trwyddedu meysydd carafanau a gwersylla a sefydliadau anifeiliaid
b)Gorfodaeth iechyd a diogelwch yn y gweithle
•Cynnal archwiliadau eiddo a phrosesau trwyddedig, a gweithgareddau i sefydlu cydymffurfiaeth a deddfwriaeth gyfredol.
•Cwblhau archwiliadau, a chadw cofnodion o gydymffurfiaeth a safonau perthnasol.
•Ymchwilio i gwynion ac achosion o dor amodau trwydded yn unol a thargedau sydd wedi eu gosod gan y gwasanaeth.
•Ymgynghori gyda’r Gwasanaeth Cynllunio a’r Parc Cenedlaethol ar faterion Cynllunio meysydd carafanau a Gwersylla.
•Lle fo angen, cymryd camau gorfodaeth statudol i ddelio gyda diffyg cydymffurfiaeth sylweddol, yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth swyddog gwarchod y cyhoedd a chymeradwyaeth gan Reolwr Gwarchod y Cyhoedd lle fo’n ymarferol bosib.
•Gorfodi deddfwriaethau mewn perthynas â thrwyddedau a hawlenni sydd yn berthnasol i ddyletswyddau penodol y swydd - megis meysydd carafannau a gwersylla; triniaethau harddwch a thyllu croen; sefydliadau anifeiliaid; a hawlenni ac amrywiol drwyddedau eraill.
•I gynorthwyo gyda mentrau cynghori ac addysgu busnesau.
•Ymateb yn gyflym ac mewn modd priodol i argyfwng, yn unol â chyfyngiadau awdurdodiad y deiliad.
•Cynrychioli’r Cyngor fel tyst arbenigol mewn llysoedd barn.
•Cydweithio yn agos gydag adrannau ac Asiantaethau perthnasol.
•Cydymffurfio gyda gweithdrefnau a chanllawiau cyllidol y Cyngor gan gyfeirio’n arbennig at unrhyw ffioedd a dderbynnir.
•Cofnodi gwaith drwy’r dull(iau) sy’n ofynnol ac o fewn yr amserlen ddynodedig.
•Dirprwyo ar gyfer swyddogion eraill lle fo amgylchiadau yn mynnu hynny.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
•Ar brydiau bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynnal archwiliad mewn amgylchedd budur / annymunol.
•O bryd i’w gilydd bydd angen i ddeiliad y swydd weithio yn ystod oriau anghymdeithasol.
•Gall fo angen i’r deilydd gynllunio, gweithredu ac arolygu prosiectau ar gyfer cynnal neu wella iechyd a lles trigolion Gwynedd.
•Mynychu cyfarfodydd rhanbarthol neu genedlaethol parthed materion trwyddedu yn achlysurol ar ran yr Awdurdod.