Swyddi ar lein
Rheolwr Gofal Cofrestredig ( Tai a Chefnogaeth)
£39,186 - £41,418 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27559-H2
- Teitl swydd:
- Rheolwr Gofal Cofrestredig ( Tai a Chefnogaeth)
- Adran:
- Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Gwasanaeth:
- Anableddau Dysgu
- Dyddiad cau:
- 02/10/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £39,186 - £41,418 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS2
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Llio Leadbitter neu Llinos Parry ar 07799768283 / 07771555724
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 02/10/24
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
.
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Sgiliau ardderchog o ddelio gyda phobl, o ran dangos parch, hiwmor ac empathi.
Proffesiynoldeb amlwg ac yn berson sydd yn ennyn parch ac ymddiredaeth eraillDYMUNOL
-CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cymwyster Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Gofal
Cymdeithasol (Rheolaeth Breswyl Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon (QCF)NEU
NVQ 4 Gofal/Rheolaeth RMA/CSS/CQSW/DIPSW/Nyrs Cofrestredig
Neu ymrwymiad i gwblhau’r Lefel 5 QCF o fewn 6 mis o gael y swydd. Byddai methiant i gwblhau’r cymwyster o fewn y 6 mis yn golygu y byddai yna adolygiad o barhad y gyflogaeth, allay arwain at ddiswyddo.DYMUNOL
-PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o waith rheolaethol
Dealltwriaeth eang o waith gofal a/neu Iechyd
O leaif 2 flynedd o brofiad yn y maes gofalDYMUNOL
Profiad o gyd-weithio gyda gwahanol asiantaethau
Profiad o fod wedi gweithio mewn sefyllfaoedd anodd o ran delio gyda phobl bregus neu sefyllfaoedd anoddSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Mae’r isod wedi ei grynhoi o Fframwaith Cymwyseddau’r Cyngor – gwel isod y cymwyseddau rheoli yn benodol.
Sgiliau ardderchog yn arwain a rheoli pobl, gan gynnwys:-
•Ysgogi ac annog tim ac unigolion
•Rhoi cyfeiriad ac adborth
•Creu awyrgylch o barch
•Trosglwyddo cyfeiriad a gweledigaeth yn effeithiol i unigolion a thimau
•Dirprwyo gwaith yn effeithiol
Sgiliau rheoli adnoddau ardderchog, gan gynnwys rheolaeth am gyllideb, rheolaeth staff a rheolaeth offer/safleoedd
Sgiliau datblygu a rheoli perfformiad, gan gynnwys:-
•Gwella perfformiad drwy ddatblygiad ef ei hun a phobl eraill
•Gwella perfformiad drwy fesur, monitro ac arfarnu
•Gweithredu canlyniadau er mwyn gwelliant parhaus
•Annog gwelliant parhaus ymysg eraill
•Creu cynlluniau busnes sy’n adlewyrchu’r cyfeiriad a targedau gwella
Sgiliau datrys problemau, drwy:-
•Wneud penderfyniadau y gellir eu hamddiffyn
•Ymateb yn effeithiol i flaenoriaethau’r gwasanaeth neu adran
•Gwenud i bethau ddigwydd
•Grymuso aelodau o’r tim
•Gallu i wneud penderfyniadau anodd all fod yn amhoblogaidd
Sgiliau cyfarthrebu adderchog
Ymwybyddiaeth da iawn o’r cyd-destun ac yn barod i sichrau bod y wybodaeth a’r cyd-destun hyn yn gyfredol
Sgiliau hunan reoli o’r safon uchaf, drwy arddangos y canlynol:-
•Ymddygiad rhagweithiol
•Derbyn cyfrifoldeb dros eich gweithredoedd
•Rhoi sefydlogrwydd mewn adegau o newid
•Dangos gonestrwydd
•Emosiynol ymwybodol
Sgiliau ardderchog o ran trefniadau gwaith ee gwaith swyddfa – fydd yn cynnwys defnydd o TG megis Excel, Word, Ebost, ayybDYMUNOL
-ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Gweithredu fel Rheolwr Gofal Cofrestredig yn unol a gofynion y Ddeddf Safonau Gofal 2000 a gofynion y Cyngor. Arwain a rheoli gwasanaeth sydd yn cynnig gofal o’r radd flaenaf i ddefnyddwyr gwasanaeth gan roi y defnyddwyr yn ganolig i bob agwedd o’r gwaith. Sicrhau diwylliant o barch.
•Mae’r swydd yn rhan o Adran sydd yn arwain ar faterion ataliol iechyd o fewn y Cyngor ac yn sgil hyn bydd disgwyl i’r Rheolwr sicrhau eu bod yn cyfrannu yn llawn i’r agenda hyn drwy weithio gyda rheolwyr eraill o fewn yr Adran. Bydd hyn yn cynnwys cyfrannu at drafodaethau sydd yn ysgogi gwelliant mewn iechyd o fewn y boblogaeth.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am reoli staff a chyllid gwasanaeth yn effeithiol. Cyfrifoldeb i sicrhau fod adnoddau, offer a chyfarpar a ddefnyddir mewn cyflwr da ac addas i bwrpas. Cyfrifoldeb dros gofal preswylwyr ynghyd a’u adnoddau hwy ble’n briodol (arian parod, meddyginiaeth, eiddo a gofynion personol).
Prif ddyletswyddau
•Darparu awyrgylch gynnes, diogel a deniadol i’r tenantiaid.
•Datblygu a chynnal gwasanaeth cefnogol arloesol o safon uchel i oedolion gyda nam dysgu a/neu nam ar y synhwyrau
•Hyrwyddo annibyniaeth a galluogi defnyddwyr gwasanaeth drwy weithredu ethos o gymorth drwy Gefnogaeth Weithredol, Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol a Thechnegau Ymyrraeth Isel.
•Bod yn gyfrifol ac yn atebol am reolaeth dydd i ddydd y gwasanaeth gan sicrhau fod yr holl weithgaredd yn cyfarfod y ddeddfwriaeth perthnasol, polisïau a chanllawiau Cyngor Gwynedd ac fod y safonau sy’n ddisgwyliedig gan Ddeddf Safonau 2000 yn cael eu cyfarch.
•Rheoli cyllideb y gwasanaeth yn effeithiol gan gydymffurfio a Rheoliadau Ariannol Cyngor Gwynedd.
•Sicrhau fod holl weithgaredd o fewn y Gwasanaeth yn cydymffurfio a gofynion Deddfau Iechyd a Diogelwch a chydweithio gyda swyddogion perthnasol a rheolwyr eraill yr Adran i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r gofynion perthnasol.
•Sicrhau fod unrhyw adeilad, dodrefn, offer a chyfarpar o fewn y gwasanaeth mewn cyflwr da ac addas ac ar y cyd gyda’r swyddog perthnasol o’r Gwasanaethau Tai (CCG & Cynefin), sicrhau fod Rhaglen Datblygu ar gyfer y gwasanaeth yn cael ei adolygu’n flynyddol. Sicrhau bod unrhyw broblemau yn cael eu adrodd i’r Rheolwr Sirol.
•Sicrhau bod meddyginiaeth o dan ofalaeth y gwasanaeth yn cael ei warchod yn addas ac yn dilyn y Cod Meddyginiaeth a gofynion y Ddeddf Gofal.
•Adolygu’n flynyddol datganiad o bwrpas y gwasanaeth a’r holl ddogfennaeth berthnasol sydd ar gael i’r cyhoedd ac yn ofynnol dan y Deddf Safonau Gofal 2000. Bydd hyn o dan arweiniad y Pennaeth Adran fel y Person Cyfrifol o dan y Ddeddf Gofal.
•Sicrhau fod gweinyddiaeth y gwasanaeth yn drefnus ac yn gyfredol. Hyn i gynnwys cynhyrchu asesiadau risg, ffeiliau’r staff a defnyddwyr gwasanaeth gan gynnwys cofnod o cynlluniau datblygu a sesiynau goruchwyliaeth gyda staff. Bydd angen yn ogystal sicrhau bod gwybodaeth reolaethol yn cael ei gynhyrchu a’i fonitro o fewn canllawiau’r Adran.
•Sicrhau fod trefn gyfathrebu effeithiol yn gweithredu o fewn y gwasanaeth i alluogi fod gwybodaeth berthnasol ar gael i holl staff y gwasanaeth, beth bynnag yw eu patrwm gwaith ac fod trefn ffurfiol i rannu gwybodaeth rhwng pob shifft neu patrwm gwaith.
•Datblygu, monitro ac adolygu’r gwasanaethau o fewn y gwasanaeth er mwyn sicrhau fod y defnyddwyr yn derbyn gwasanaeth sydd yn cyfarfod eu anghenion asesedig.
•Sicrhau fod Cynllun pob defnyddiwr yn gyfredol ac yn cael eu adolygu ac fod pob cofnod sydd yn gysylltiedig a phob defnyddiwr unigol yn gyfredol. Dylai’r cynlluniau hyn sicrhau bod gofynion y person yn ganolig gyda dull gweithio o Cynlluniau Person yn Ganolig yn cael eu defnyddio (PCP).
•Sicrhau fod Rheolwr Sirol a/neu Person Cyfrifol yn ymwybodol o unrhyw faterion a all effeithio ar ansawdd y gwasanaeth a ddarperir.
RHEOLAETH A DATBLYGIAD STAFF
•Arwain ar recriwtio a phenodi staff addas ar gyfer y gwasanaeth.
•Arwain ar y broses o anwytho staff newydd i’r gwasanaeth gan gefnogi trefniadau adrannol ble’n addas.
•Sicrhau fod goruchwyliaeth a datblygiad staff yn bodoli yn unol â polisïau a chanllawiau’r Cyngor ac fod pob aelod staff yn cael eu werthuso’n flynyddol.
•Sicrhau fod staff wedi derbyn cyflwyniad ffurfiol fydd yn cynnwys hyfforddiant perthnasol a’u bod yn cael eu cynghori a’u harwain i weithio mewn modd sydd yn parchu pob defnyddiwr fel unigolyn ac yn creu awyrgylch gartrefol a chroesawgar oddi fewn y cartref.
•Sicrhau gweithredu ar faterion sydd ddim yn cyrraedd safon, unai yn adolygu trefniadau gwaith, dilyn paneli medrusrwydd neu dilyn y drefn disgyblu gydag staff.
•Sicrhau bod trefn rheoli absenoldebau yn cael eu dilyn, a bod y staff yn cael eu cefnogi gan ddilyn canllawiau’r Cyngor. Hefyd i sicrhau bod mesuriadau mewn lle i sicrhau nad yw’r absenoldebau yn cael effaith anffafriol ar y gwasanaeth a gynhigir a’r cyllid.
•Sicrhau hunan ddatblygiad, gan fynychu hyfforddiant. Cefnogi dysgu trwy’r gwasanaeth.
SAFONNAU GOFAL
•Cyd weithio gyda’r arolygaeth gan ymateb i unrhyw argymhelliad oddi mewn i’r amser penodedig
•Sicrhau bod anghenion y defnyddwyr yn cael eu cwrdd, yn unol a’r Cynllun Gofal ac hefyd sicrhau bod y Cynllun yn cael eu adolygu yn rheolaidd.
•Cefnogi ac hyrwyddo derbyn adborth gan y defnyddwyr yn annibynnol, ac mewn grŵp
•Rheoli ansawdd gwasanaeth, defnyddio’r gwybodaeth penodol i ddatblygu cynllun gwelliant/datblygol i’r gwasanaeth, ac hyn ar amylder gofynnol y Gwasanaeth.
•Cyd weithio gyda teuluoedd a ffrindiau fel rhan o’r broses o ddarpariaeth gofal, ar ddymuniad y defnyddiwr gwasanaeth
•Sicrhau bod gofynion Iechyd y defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu cwrdd.
• Datblygu a sicrhau bod y drefn rheoli a dosbarthu meddyginiaeth yn cyd fynd a cod ymarfer y Cyngor, cyd- weithio gyda’r fferyllydd a’r Bwrdd Iechyd Lleol .
•Datblygu perthynas effeithiol gyda’r meddygon lleol, nyrsys cymunedol ayb er mwyn sicrhau cwrdd ag anghenion iechyd y defnyddwyr gwasanaeth
•Sicrhau y safon orau bosib bob amser i’r defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd ag ymwelwyr. Pe bod risg yn codi, gweithredu arno yn brydlon ac adolygu fel y bo angen.
•Cofrestri gyda’r Cyngor Gofal yn unol a’r canllawiau Cenedlaethol.
CYFFREDINOL
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Mewn argyfwng, neu oherwydd ymchwiliad, gall yr angen i fod yn gweithio oriau anghymdeithasol fod ei angen. Yn ogystal, bydd disgwyl i ddeilydd y swydd fod yn rhaglennu nifer o ymweliadau/archwiliadau o’r gwasanaeth drwy ar adegau weithio unai dros y penwythnos neu gyda’r nos.