Swyddi ar lein
Rheolwr Uned Arolygu a Chyflenwol
£60,855 - £63,965 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27449
- Teitl swydd:
- Rheolwr Uned Arolygu a Chyflenwol
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Darparu ac Arolygu
- Dyddiad cau:
- 01/08/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £60,855 - £63,965 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- UR3
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Rheolwr Uned Arolygu a Chyflewnol
CYFLOG: UR3 (£60,855 - £63,965)
Gweithio'n Hybrid
LLEOLIAD - un o’r swyddfeydd canlynol
Bangor/Conwy/Helygain/Llandrindod
Rydym yn chwilio am uwch reolwr profiadol i ymuno ag Uwch Dîm Rheoli'r Asiantaeth i gefnogi'r Pennaeth Gwasanaeth ac i roi cyngor a mewnbwn i gyfeiriad strategol cyffredinol yr Asiantaeth. Byddwch yn arwain tîm amlddisgyblaethol o 57 o staff gan reoli’r swyddogaethau canlynol ar ran yr Asiantaeth ac yn unol â Chytundeb Asiantaeth Reoli Llywodraeth Cymru (WGMAA):
- Tîm Cyflawni Prosiectau Cyfalaf - Rheoli swyddogaethau cyflenwi cyfalaf yr Asiantaeth ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru. Bod yn gyfrifol am oruchwylio darpariaeth a chydlynu holl brosiectau cyfalaf amlddisgyblaethol yr Asiantaeth o'r dylunio hyd at y cyfnod adeiladu.
- Timau Arolygu - Rheoli Archwilio Priffyrdd, Strwythurau ac Asedau Geotechnegol.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076. Dyddiad Cau: 10.00am, DYDD Iau, 1af Awst 2024 Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd |
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Sgiliau arwain tîm a dirprwyo.
Sgiliau penderfynu a negodi.
Gallu'ch ysgogi eich hun, yn frwdfrydig ac yn ymroddedig.
Sgiliau rhyngbersonol wedi’u datblygu’n dda.DYMUNOL
Arloesol, yn meddu ar weledigaeth a'r gallu i feddwl am syniadau.
Sgiliau datrys problemauCYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd Peirianneg Sifil neu bwnc perthnasol.
Peiriannydd Sifil Siartredig neu brofiad perthnasol sylweddol a thystiolaeth glir y bydd statws siartredig yn cael ei gyflawni o fewn 12 mis i’r penodiad
Aelod corfforaethol o gorff proffesiynol perthnasol.DYMUNOL
Cymwysterau rheoli
Hyfforddiant Iechyd a DiogelwchPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o reoli timau amlasiantaethol ar lefel uwch, gan gynnwys datblygu a rheoli cyllidebau perthnasol.
Profiad rheoli prosiect ar lefel uwch.
Profiad sylweddol o reoli adnoddau.
Profiad mewn gweinyddu contractau ar lefel uwch gyda gwybodaeth lefel uchel o weithdrefnau contract NEC3.
Profiad o reoli risg.
DYMUNOLProfiad mewn gwahanol feysydd rheoli asedau sy’n gysylltiedig â phriffyrdd gan gynnwys rheoli prosiect, rheoli archwilio cyflwr asedau, rheoli risg, rheoli digwyddiadau a rheoli prosiectau amlddisgyblaethol.
Profiad o gyfundrefnau archwilio a llunio rhestrau eiddo seilwaith priffyrdd.
Profiad lefel uwch o ymdrin â’r ystod lawn o fudd-ddeiliaid cefnffyrdd gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Aelodau etholedig, y cyhoedd, y wasg a’r cyfryngau.SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gwybodaeth eang o reoli asedau seilwaith archwilio cefnffyrdd gan gynnwys ffyrdd deuol cyflymder uchel, strwythurau priffyrdd, systemau draenio ac asedau geodechnegol.
Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gan gynnwys rheoliadau CDM.
Y gallu profedig o reoli prosiect a rheoli cyllid.
Sgiliau rheoli wedi’u profi.
Sgiliau caffael a gweinyddu contractau profedig.
Sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno da.
Yn gwbl wybodus o TG.
Trwydded yrru gyfredolDYMUNOL
Gwybodaeth eang a dealltwriaeth o beirianneg priffyrdd, deddfwriaeth priffyrdd a gweinyddiaeth priffyrdd.
Gwybodaeth eang o systemau rheoli priffyrdd llywodraeth ganolog ac awdurdodau lleol, y safonau technegol a’r gweithdrefnau.
Gwybodaeth a dealltwriaeth eang o systemau rheoli asedau Llywodraeth Cymru.ANGHENION IEITHYDDOL
DYMUNOL
Gwrando a Siarad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.
Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.
Darllen a Deall
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu’n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddirrhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
Rheoli’r swyddogaethau â ganlyn yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru ar ran yr Asiant.
- Bod yn gyfrifol am oruchwylio cyflawniad a chydlynu holl brosiectau cyfalaf amlddisgyblaethol yr Asiant, o ddylunio i'r cam adeiladu, gan gynnwys cymryd cyfrifoldeb dros gaffael contractau adeiladu / gwasanaethau a'r swyddogaethau gweinyddol ar gyfer Cadwyn Gyflenwi'r AsianT.
- Rheolaeth Archwilio Asedau, gan gynnwys:
• Rheolaeth Archwilio Strwythurau;
• Rheolaeth Archwilio Amgylcheddol;
• Rheolaeth Archwilio Geodechnegol;
• Rheolaeth Archwilio Priffyrdd;3. Rheoli Gweithredol sy’n gysylltiedig â Digwyddiadau:
• Ymgymryd â rôl Comander Aur neu Arian ar ran yr Asiant.
4. Bod yn aelod o Dîm Uwch Reolwyr yr Asiantaeth a chynorthwyo gyda Rheolaeth a Chyfeiriad Strategol yr Asiant.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Rheoli Timau Cyflawni a Rheoli Archwilio'r Asiant gan gynnwys yr holl staff ac adnoddau cysylltiedig.
• Rheoli darparwyr gwasanaeth allanol (darparwyr gwasanaeth LlC, saith Awdurdod Partner ac ymgynghorwyr (4) a chontractwyr (18) sector preifat).
• Gweithredu a rheoli cronfeydd data a systemau rheolaeth archwilio asedau.
• Rheoli Storfa Llunio Data Asedau Llywodraeth Cymru a Chronfa Ddata Rheoli Prosiect Black Pearl.
• Rheoli’r holl gyllidebau cyfalaf perthnasol (tua £25m y flwyddyn).
• Gliniadur (£2,000), Ffôn symudol (£200), PPE (£500)
Prif Ddyletswyddau.Fel aelod o Dîm Uwch Reolwyr yr Asiant ymgymryd â swyddogaethau rheoli strategol o ran rheolaeth gyffredinol yr Asiant.
Bod yn gyfrifol am gynllunio hirdymor a chynllunio strategol yn gysylltiedig â chyflwyno rhaglenni cyfalaf a rheoli archwilio asedau yn unol â gofynion LlC.Rheoli Rhaglen
Goruchwylio a chydlynu'r broses o adnabod, hyrwyddo a blaenoriaethu rhaglenni blynyddol a rhaglenni pum mlynedd yr Asiant.
Rheoli Tîm Noddwyr Cyflawni Prosiect Cyfalaf yr Asiant i ddatblygu a chyflawni rhaglen gyffredinol yr Asiant o brosiectau cyfalaf ar draws y rhwydwaith Cefnffyrdd yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru (LlC).#Galluogi cyflawni’r rhaglenni o brosiectau drwy gaffael a gweinyddu dylunio, adeiladu a gwasanaethu cadwyni cyflenwi.
Adrodd am unrhyw gynnydd yn erbyn rhaglen yn uniongyrchol i Bennaeth Gwasanaeth yr Asiant.
Rheolaeth Gaffael
• Arwain ar sefydlu Cadwyni Cyflenwi addas, gan gynnwys holl fframweithiau i gyflwyno Strategaeth Gaffael Gwaith Cyfalaf yr Asiant, yn unol â Rheoliadau Ariannol Cyngor Gwynedd a gofynion caffael LlC.
• Rheoli Prosiectau Cyfalaf yr Asiant (£25M y flwyddyn), tua 450 prosiect unigol y flwyddyn, yn amrywio o £2k i £10m.
• Negodi a chytuno ar strwythur ffioedd a gwerth ar gyfer pob darpariaeth gwasanaeth ymgynghori mewnol gydag uwch reolwyr ymgynghorol.
• Sicrhau bod holl waith caffael ACGCC yn cydymffurfio gyda pholisi Llywodraeth Cymru.
*
Adnabod a diffinio'n glir beth yw gofynion system rheoli prosiect yr Asiant.
Dylunio, datblygu a gweithredu prosiect rheoli Microsoft SharePoint a K2 Black Pearl a systemau cronfa ddata a chronfa ddata gysylltiedig, gan gynnwys rhaglen i Gymru Gyfan ar ran LlC.
Rheoli materion system hyfforddi a datblygu staff ar gyfer yr Asiant a saith darparwr gwasanaeth Awdurdod Partner a chadwyni cyflenwi'r sector preifat.
Gwella systemau a chymhwysedd staff yn barhaus er mwyn cyflawni amcanion arfer gorau a diwallu anghenion yr WGMA.
Rheoli Prosiectau
Ymgymryd â rôl oruchwylio a chydlynu ar gyfer gweinyddu holl gontractau’r Asiant a sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion costau, amser ac ansawdd, gan gynnwys:
• Rheoli Traciwr Prosiect yr Asiant ar gyfer holl brosiectau’r Asiant, gyda phwyslais penodol ar sicrhau cyflawniad boddhaol
• Rheoli gweithrediad cyffredinol Noddwyr Prosiect yr Asiant a darparu cyfarwyddyd i bob Noddwr Prosiect yng nghyswllt paratoi brîff prosiect, gweithdrefnau tendro cystadleuaeth fach, rhaglenni/cynlluniau rheoli prosiect a chyflawni’r prosiect;
• Adrodd i Bennaeth Gwasanaeth yr Asiant ar berfformiad y Noddwyr Prosiect.
• Sicrhau bod egwyddorion system rheoli prosiect PRINCE2 yn cael eu gweithredu yn holl brosiectau'r Asiant.
• Cysylltu gyda darparwyr Awdurdodau Partner a sector preifat ynghylch prosiectau gan gynnwys darparu Dangosyddion Perfformiad Allweddol;
• Cysylltu gyda’r Uned Fusnes yng nghyswllt rheoli perfformiad prosiectau
• Rhoi cyfarwyddyd i Noddwyr Prosiect ar brosiectau, gan gynnwys comisiynu, darparu gwasanaeth hyd at y terfyn, gan gynnwys cofnodion ‘fel yr adeiladwyd’ a diweddaru’r rhestr eiddo.
Gweithredu fel arbenigwr yr Asiant ar gaffael contractau a gweinyddu prosiectau.Sicrhau bod y gwaith o weinyddu contractau ar gyfer prosiectau ar y rhwydwaith yn cydymffurfio â gofynion LlC.
Ar gyfer prosiectau gwerth uchel neu fwy cymhleth, arwain a gweithredu'n uniongyrchol fel Noddwr Prosiect fel y cytunwyd gydag Uwch Dîm Rheoli'r Asiant. I’r perwyl hwn, ymgymryd â’r swyddogaethau a ganlyn:
• adnabod anghenion prosiect, sicrhau cyllid prosiect a pharatoi brîff prosiect.
• Sicrhau y caiff pob comisiwn ei ddyrannu yn unol â Phrotocol Gwasanaeth Ymgynghorol yr Awdurdod Partner.
• cytuno ar raglen a brîff y prosiect
• cymeradwyo ffioedd ymgynghori a chynigion y tîm cyflawni
• Cysylltu â staff perthnasol LlC
• bod yn gyfrifol am gyflawni’r prosiect a rheoli’r gyllideb yn gyffredinol.
• cytuno ar a chymeradwyo iawndal
• adolygu a chytuno ar gyflwyno taliadau’n fisol
• Derbyn, adolygu, addasu a chymeradwyo Dangosyddion Perfformiad Allweddol y prosiect.
• cychwyn prosesau diffyg perfformiad
• Adrodd ar y gwariant hyd yn hyn, a phroffil gwariant y dyfodol i Uned Fusnes yr Asiant.
• trefnu a chadeirio cyfarfodydd cynnydd prosiect.
• Adolygu a chymeradwyo cyflwyniadau sy’n gysylltiedig â phrosiect cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru
• sicrhau y caiff prosiectau eu cau’n briodol ac yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
Gweithredu fel Cleient CDM ar brosiectau fel y cytunir. Cynghori a chynorthwyo Noddwyr Prosiect ar swyddogaeth y Cleient CDM.
Rheoli’r holl gyllidebau prosiect cyfalaf perthnasol sy’n gysylltiedig â’r uchod.
Caffael a Gweinyddu Contract
Gweithredu mewn swyddogaeth uwch wrth oruchwylio gweithrediad Gweinyddiaeth Contract cyffredinol yr Asiant, gan gynnwys:
• Gweithredu fel Rheolwr Prosiect dan y contract ar gyfer holl brif brosiectau cyfalaf.
• Gweithredu fel arbenigwr yr Asiant ar weinyddu caffael contractau.
• Sicrhau bod y gwaith o weinyddu contractau ar gyfer holl brosiectau cyfalaf ACGCC ar y rhwydwaith yn cydymffurfio â gofynion LlC.
• Arwain ar ddatblygiad a gweithrediad y polisi a gweithdrefnau caffael contractau, gan gynnwys datblygu a gweithredu’r system rheoli contractau SharePoint a’r gronfa ddata cysylltiedig.
• Cynghori ar strategaeth contract a risg ar gyfer holl gontractau adeiladu ACGCC
• ymgymryd â dadansoddi a gwerthuso tendrau, a dyfarnu contractau
• asesu a chymeradwyo tendr contractwyr a rhaglenni contract
• cynghori ar faterion yn ymwneud â chymhwysedd contractwr / is-gontractwr
• negodi, cytuno ar a chymeradwyo iawndal
• adolygu a chytuno ar gyflwyno taliadau’n fisol
• trefnu a chadeirio cyfarfodydd cynnydd prosiect a chyfarfodydd eraill.
• sicrhau y caiff contractau eu cau’n briodol ac yn unol â gweithdrefnau diffiniedig
• rheoli timau goruchwylio contract ar y safle sy’n ymgymryd â dyletswyddau gweinyddu contract
• Rheoli anghydfod ar gontractau (e.e. prosesau cymodi, cyflafareddu a negodi) ar ran yr Asiant.
• Rhoi cyngor i dimau dylunio ar rwyddineb adeiladu a rhaglenni adeiladu;
• Adolygu dogfennau contract cyn tendr;
• Cydgordio dogfennau contract;
• Gwasanaethau rheoli cost;
• Prosesau diogelwch, arbenigwyr a chaniatâd ar gyfer gwaith dros dro;
• Cynlluniau Rheoli Gwastraff Safle;
• Rheoli llygredd ar safleoedd (gan gynnwys sŵn, dirgryniad a llwch);
• Lleihau carbon ar safleoedd;
• Dogfennaeth ‘fel yr adeiladwyd’;
• Modelau Gwybodaeth Adeiladu (BIM);
• Rhoi adborth ar faterion yn ymwneud ag adeiladu i dimau dylunio ACGCC e.e. gwersi a ddysgwyd a gofynion cywiro gweithredoedd.
Rheoli Perfformiad Cadwyni Cyflenwi'r Asiant
Cynorthwyo’r Rheolwr Busnes a Gweithrediadau Statudol, a staff perthnasol i ddatblygu systemau a gweithdrefnau ar gyfer System Rheoli Busnes yr Asiant.
Sicrhau bod systemau a gweithdrefnau yn cael eu harchwilio, a rheoli perfformiad y gadwyn gyflenwi wrth gyflawni’r prosiectau.
Adnabod meysydd o ddiffyg perfformiad a mynd i'r afael â hyn gan sicrhau bod y gweithredoedd cywir yn cael eu cyflawni a bod y materion yn cael eu dyrchafu fel y bo'n briodol.
Rheoli a datrys dadleuon cytundebol gan gynnwys prosesau trafodaeth, beirniadaeth a chyflafareddiad.
Gweithredu dulliau o arolygu perfformiad a gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu gwelliant parhaus.
Rheolaeth Archwilio Asedau
Bod yn gyfrifol am holl weithdrefnau a systemau Rheoli Asedau’r Asiant yn enwedig y meysydd cyfrifoldeb a ganlyn:
1. Cyfrifoldeb am holl agweddau rheoli archwilio asedau, gan gynnwys:
• Rheoli Archwiliadau Priffyrdd, gan gynnwys swyddogaethau archwilio a llunio rhestrau eiddo’r Tîm Archwilio Priffyrdd,
• Rheolaeth Archwilio Strwythurau;
• Rheolaeth Archwilio Amgylcheddol;
• Rheolaeth Archwilio Geodechnegol;
2. Drwy’r Tîm Rheoli Archwilio Asedau, bod yn gyfrifol am raglenni archwilio a rhestr eiddo adweithiol, arferol/wedi'u trefnu, ac am baratoi bidiau a rheoli’r cyllidebau cysylltiedig. Rheoli ac adolygu'r holl bolisïau a'r gweithdrefnau cysylltiedig.
3. Drwy’r tîm rheoli archwilio asedau, monitro a rheoli swyddogaethau amgylcheddol contract DBFO Llywodraeth Cymru gydag UK Highways yn effeithiol.
4. Bod yn gyfrifol am holl agweddau Rheoli Archwilio Asedau, gan gynnwys adnabod materion seilwaith asedau (e.e. asbestos) a gofynion gwella gan gynnwys symud ymlaen tuag at dderbyn achrediadau safonau perthnasol a chydweithio gydag Awdurdodau Partner.
5. Darparu cefnogaeth i’r Rheolwr Rhwydwaith yn ystod digwyddiadau arferol a digwyddiadau pwysig mewn cydweithrediad â’r Gwasanaethau Brys. Cynorthwyo i adfer y rhwydwaith yn dilyn digwyddiadau.
6. Rheoli risgiau i seilwaith yr asedau ar ran yr Asiantaeth. Cynrychioli’r Asiantaeth ar fforymau asedau Lleol a Chenedlaethol. Datblygu a gweithredu strategaethau a gweithdrefnau archwilio asedau’r Asiantaeth.Rheoli Rhestr Eiddo
Arwain y gwaith o reoli data a chofnodion y rhestr eiddo gan gynnwys dogfennaeth ‘fel yr adeiladwyd’ a’r tirlyfr. Bod yn gyfrifol am arwain y gwaith o weithredu a rheoli cronfeydd data rhestri eiddo ac archwilio asedau Llywodraeth Cymru.
Rheoli Gweithrediadau
1. Cynrychioli’r Asiantaeth yn ystod digwyddiadau pwysig ar lefel Comander Aur (Strategol) a Chomander Arian (Tactegol) ar y cyd â phob Uwch Swyddog o’r Gwasanaethau Brys, Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr Strategol Awdurdodau Lleol a Staff Uwch sy’n cynrychioli Budd-ddeiliaid eraill.
2. Arwain ar strategaeth, peirianneg, gweithrediad ac integreiddiad Systemau Trafnidiaeth Deallus y rhwydwaith mewn cyswllt â LlC ac Ymgynghorwr Technoleg Trafnidiaeth Cymru / Contractwr Cynnal a Chadw Cymru Gyfan.
3. Cyflawni rôl annibynnol a dyletswyddau statudol Endidau Archwilio Priffyrdd dan Reoliad 13, Rheoliadau Diogelwch Twneli Ffyrdd 2007 (yn amodol ar benodiad LlC).
4. Cynorthwyo’r Rheolwr Rhwydwaith ar Strategaeth Cynllunio Wrth Gefn yr Asiantaeth gyda LlC.
5. Fel rhan o Dîm Uwch Reolwyr yr Asiantaeth, cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu Cynllun Gweithredu Rhwydwaith a Chynlluniau Rheoli Llwybrau’r Asiantaeth ynghyd â dogfennau Strategol LlC yn unol â gofynion LlC.Dyletswyddau Technegol a Rheolaethol Eraill
Cysylltu gyda'r Rheolwr Busnes a Gweithrediadau Statudol wrth ddatblygu a diweddaru strategaeth graffu gyffredinol yr Asiant.Sicrhau bod egwyddorion Rethinking Construction yn cael eu hyrwyddo gan yr Asiant yn ei weithdrefnau caffael.
Datblygu ac adolygu prosesau fel rhan o raglen wella barhaus i sicrhau bod dyraniadau cyllidebol yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon, ac y cwblheir gwaith ar amser ac yn unol â gofynion costau ac ansawdd, heb ymateb diangen gan y cyhoedd neu’r cyfryngau.
Cynorthwyo â rheoli, casglu, paratoi a chyflwyno bidiau cynllun drwy broses fidio’r Asiant.
Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion deddfwriaethol sy’n berthnasol i’r swydd.Sicrhau bod darparwyr gwasanaeth yr Asiant, yr Awdurdodau Partner a’r Fframwaith yn cydymffurfio â pholisïau a safonau y DU / LlC, gan gynnwys:
• Canllaw Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd
• Manyleb ar gyfer Gwaith ar Briffyrdd
• Dull Mesur Gwaith ar Briffyrdd
• Pennod 8, Canllaw Arwyddion Traffig
• Canllaw Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC
• Contractau NEC3
• Rheolau Sefydlog Cyngor Gwynedd
• Dogfennau perthnasol eraill y cyfeirir atynt yn y cytundeb WAGMASicrhau cyswllt â budd-ddeiliaid allweddol gan gynnwys uwch reolwyr LlC, Awdurdodau Partner a darparwyr gwasanaeth y sector preifat ar holl faterion sy’n ymwneud â Rheoli Asedau.
Rheoli cydymffurfiad â holl safonau technegol, gwasanaeth a chyfreithiol perthnasol a’r dulliau gweithio sy’n gysylltiedig â rheoli cefnffyrdd yn unol â gofynion LlC.
Monitro perfformiad staff a Darparwyr Gwasanaeth i sicrhau y cyrhaeddir y targedau perfformiad, a chychwyn camau priodol i adfer unrhyw dangyflawni.
Adnabod a chydlynu’r holl safonau technegol sydd yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaeth eu cyrraedd ac sy’n berthnasol i wasanaethau archwilio a rhestru eiddo.
Arwain ar ddatblygu arferion gweithio mentrus ac effeithiol sy’n ymwneud â rheoli asedau ar y cyd â darparwyr gwasanaeth.
Adnabod a sicrhau ymateb i newidiadau deddfwriaethol a thechnegol perthnasol.
Monitro perfformiad darparwyr gwasanaeth ar draws yr holl ddisgyblaethau a sicrhau bod y targedau perfformiad yn cael eu cyflawni’n gyson a gweithredu ar unrhyw gamau unioni neu fesurau gwella fel bo’r angen.
Unrhyw ddyletswyddau eraill sydd eu hangen er mwyn darparu’r gwasanaeth Rheoli Asedau sydd gymesur â graddfa’r swydd.Perthnasau
Rheoli ac ysgogi staff Cyflawni a Rheoli Archwilio Asedau'r Asiant, gan gynnwys rheoli perfformiad unigol a pherfformiad tîm; adnabod a hwyluso hyfforddiant, cyfleoedd diogelwch a datblygu er mwyn i aelodau’r tîm gyrraedd y targedau perfformiad, yn ogystal ag ymdrin â materion yn ymwneud â pherfformiad unigol, e.e. disgyblaeth, anghydfod, presenoldeb, neu faterion cyflogaeth eraill.
Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill, gan gynnwys gwasanaethau brys.
Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a wneir gan aelodau staff yr ydych yn eu rheoli.
Rheoli’r partneriaethau a’r perthnasau sydd eu hangen i reoli asedau cefnffyrdd yn effeithiol ac yn unol â gofynion LlC. Cefnogi Rheolwr yr Asiantaeth yng nghyfarfodydd Bwrdd yr Asiantaeth gyda chynrychiolwyr uwch o LlC.
Fel uwch swyddog i'r Asiant, bod yn aelod o Dîm Rheoli'r Asiant i fynychu, cyfrannu ac adrodd i gyfarfodydd y Tîm ar holl faterion cyflawni cyfalaf a rheoli archwilio asedau, a chyfrannu at weithgorau yn ôl y gofyn;
Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
Mae’n gyfrifoldeb ar bob gweithiwr yn yr Asiantaeth i gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiantaeth.
Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn ymwybodol o’r gofynion e.e. deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, a disgwylir iddo gydweithredu â Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Gyfadran i sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion perthnasol.• Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
•
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol i fodloni gofynion y Gwasanaeth;
• Gweithredu fel Comander Aur (Strategol) a/neu Comander Arian (Tactegol) fel rhan o drefn rheoli digwyddiadau’r Asiantaeth.
• Cynorthwyo Pennaeth Gwasanaeth yr Asiant Cefnffyrdd mewn argyfyngau yn ôl y gofyn.
• Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill yn y DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.