Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau llyfrgell gyhoeddus effeithiol gan gynnwys darpariaeth i oedolion, plant a phobl ifanc , yn unigol ac mewn grwpiau, ac yn cynnwys y tasgau gweinyddol i gefnogi’r gwasanaeth i ddefnyddwyr.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Staff: staff wrth gefn / dros dro yn achlysurol Stoc; cyflwr stoc oedolion a phlant Offer: defnydd diogel o ddodrefn, offer cyfrifiadurol ayb Arian: Cadw cyfrifon syml’imprest’ a bancio arian. Anfonebu yn ôl yr angen
Prif ddyletswyddau
•Cyfrifoldeb dros bennu tasgau a gwaith i staff rheng-flaen, a staff dros dro / llanw o ddydd i ddydd yn y lleoliad gwaith os yn berthnasol ac yn ôl y galw a threfnu staff llanw yn y llyfrgell ar gyfer absenoldebau gwyliau ac arall.
•Hyrwyddo’r llyfrgell yn lleol, yn cynnwys cysylltu â chylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin, Ysgolion Cynradd ac Uwchradd, Clybiau a Chymdeithasau oedolion gyda gwahoddiad i ymweld â’r llyfrgell a gwybodaeth am wasanaethau’r Llyfrgell. Cysylltu â’r Papur Bro lleol, yn cynnwys danfon erthyglau a newyddion am y Llyfrgell yn rheolaidd.
•Cyfathrebu a throsglwyddo gwybodaeth i staff yn rheolaidd gan sicrhau fod pob aelod o staff yn ymwybodol o weithdrefnau, polisïau a chanllawiau cyfredol. Sicrhau fod unrhyw weithdrefnau, polisïau a chanllawiau yn cael eu gweithredu’n amserol a phriodol.
•Gofal am yr adeilad o ran agor a chau yn cynnwys gosod larwm, ac adrodd am unrhyw broblemau neu wallau. Gofal am yr adeilad cyfan yn cynnwys adrodd am faterion cynnal a chadw, adrodd am waith sydd angen ei wneud i’r Adran Eiddo a gwirio fod y gwaith angenrheidiol yn cael ei wneud yn foddhaol.
•Trefnu a chynnal amser stori i fabanod a phlant a’u teuluoedd yn wythnosol a pharatoi ar gyfer unrhyw gynnwys, allasai olygu dewis straeon, caneuon a rhigymau addas, neu baratoi crefftau syml. Neilltuir 2 awr ar gyfer y gwaith hwn yn wythnosol, sef 1 awr paratoi ac 1 awr cynnal.
•Llenwi ffurflenni adrodd yn ôl a chadw ystadegau misol. Archebu nwyddau a deunyddiau swyddfa dydd i ddydd yn cynnwys deunydd argraffu a nwyddau swyddfa.
•Benthyca a chadw’r adnoddau ar y silffoedd, yn cynnwys gwiriadau a benthyg eitemau dan gynllun Petha (Llyfrgell y Pethau), a chadw’r llyfrgell mewn cyflwr trefnus a thaclus. Goruchwylio bod arddangosfeydd o safon uchel yn cael eu trefnu a’u cynnal yn rheolaidd yn y lleoliad gwaith er mwyn denu darllenwyr ac annog benthyg stoc gan gynnal hysbysfyrddau cyfredol
•Cynorthwyo defnyddwyr gyda gosod ceisiadau, hysbysu defnyddwyr bod ceisiadau wedi cyrraedd, prosesu ceisiadau. Chwilio am eitemau ar gais a phrosesu eitemau.
•Casglu dirwyon a thaliadau eraill yn ymwneud a benthyg adnoddau llyfrgell gan gadw cyfrifon syml a bancio arian ac anfonebu yn ôl yr angen.
•Cofrestru defnyddwyr newydd a diweddaru cofnodion aelodau llyfrgell gan ddelio gydag ystod eang o ddefnyddwyr llyfrgell yn cynnwys defnyddwyr a all fod yn heriol neu anodd.
•Cadw cyfrif syml am nifer mynychwyr i ddigwyddiadau llyfrgell a chynorthwyo gydag arolygon a holiaduron defnyddwyr yn ôl y galw.
•Cynorthwyo defnyddwyr gyda mynediad i Gyfrifiaduron Cyhoeddus, defnyddio sganiwr, llungopïwr neu adnoddau eraill cyhoeddus sydd ar gael yn y llyfrgell.
•Cyfeirio defnyddwyr at wasanaethau Llyfrgelloedd Gwynedd yn cynnwys gwasanaethau digidol, Gwasanaethau Cyngor Gwynedd ac ateb ymholiadau defnyddwyr am wybodaeth gyffredinol trwy gyfrwng ffon neu e-bost a chyfeirio ymholiadau a galwadau i staff arall a/neu gymryd negeseuon.
•Cylchdroi stoc addas rhwng mannau gwasanaeth yn ôl yr amserlen gan asesu ei gyflwr i chwynnu stoc yn rheolaidd a gyrru eitemau blêr, wedi dyddio, gwallus neu angen eu trwsio yn ôl.
•Gosod allan, cadw a threfnu cylchgronau, papurau newydd a thaflenni cyfredol yn y llyfrgell.
•Llogi ystafelloedd i unigolion neu grwpiau. Cymryd enwau ar gyfer gweithgareddau llyfrgell a chadw rhestr wrth gefn. Cysylltu â defnyddwyr i gadarnhau neu ganslo digwyddiadau a threfnu anfonebu.
•Adrodd am broblemau Technoleg Gwybodaeth i’r Ddesg Gymorth TG a’r Rheolwr Llinell.
•Cynorthwyo i gyflwyno’r llyfrgell i grwpiau yn ôl y galw, yn cynnwys grwpiau plant ysgol Gynradd ac Uwchradd, a chlybiau a chymdeithasau oedolion a phlant lleol.
•Mynychu sesiynau hyfforddiant a hunan ddatblygiad personol yn ôl yr angen a’r cyfarwyddid.
•Mynychu timau a gweithgorau eraill y Gwasanaeth Llyfrgell, yr Adran, neu weithgorau ar y cyd gyda gwasanaethau /asiantaethau allanol fel bo angen.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad a datblygiad staff y mae ganddo/ganddi gyfrifoldeb amdano a chyfrannu at raglen hyfforddi'r Gwasanaeth Llyfrgell.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
Bydd yr oriau gwaith yn cadw at batrwm oriau agor cyson wythnosol yn cynnwys gweithio ar fore Sadwrn.
Oriau Gwaith: 17 awr yr wythnos sylfaenol, sef 14 awr llyfrgell gyhoeddus, 1 awr amser stori*, 1 awr paratoi* ac 1 awr gweinyddol*.
Delir yr hawl i newid patrwm oriau gweithio yn ôl gofynion y Gwasanaeth. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd gymhwyso i’r lefel briodol yng nghyswllt defnydd o dechnoleg gwybodaeth. Darperir hyfforddiant yn ôl yr angen.
Y prif safle gwaith fydd Llyfrgell Penygroes ond os bydd angen yn codi, bydd gofyn posib i gyflawni dyletswyddau tebyg mewn llyfrgelloedd eraill ,a hynny o fewn ei oriau cytundebol, heb unrhyw amser neu dal ychwanegol am y gwaith hwnnw.
Oriau agor newydd y Llyfrgell fydd:
Dydd Llun - 10.00 - 1.00 a 2.00 - 5.00
Dydd Mercher - 1.00 - 5.00 (a 5.00 - 6.00 amser gweinyddol a chasglu eitemau Petha yn unig)
Dydd Gwener - 10.00 - 1.00
Dydd Sadwrn - 10.00 - 1.00