Swyddi ar lein
Rheolwr Llwybr
£43,421 - £45,441 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27369
- Teitl swydd:
- Rheolwr Llwybr
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Rheoli Rhwydwaith
- Dyddiad cau:
- 11/07/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £43,421 - £45,441 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS4
- Lleoliad(au):
- NMWTRA, Ladywell House, Park St, Newtown
Manylion
Hysbyseb Swydd
Rheolwr Llwybr
CYFLOG: PS4 SCP 35-37 £43,421 - £45,441
Oriau - 37 awr
(Gweithio’n Hybrid)
LLEOLIAD: DreNewydd
Rydym yn chwilio am reolwr i gefnogi Rheolwr Rhanbarthol Canolbarth Cymru ACGChC ac i ymgymryd â rheolaeth weithredol a chynnal a chadw'r rhwydwaith cefnffyrdd sengl yn ardal Gogledd Powys yn rhanbarth Canolbarth Cymru.
Cyflawni gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a chynnal Rhwydwaith diogel ac effeithlon ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae angen y rôl i gynorthwyo i reoli darpariaeth trwy Ddarparwyr Gwasanaeth Awdurdodau Lleol yn ogystal ag Ymgynghorwyr a Chontractwyr.
Byddwch yn cynorthwyo i reoli Ymatebion Argyfwng, Cynnal a Chadw Rheolaidd a Chynnal a Chadw Cyfalaf o fewn Rhanbarth Canolbarth Cymru, gan reoli 2 Reolwr Llwybr Cynorthwyol.
Mae'r rôl yn cynnwys cymryd rhan mewn gwasanaeth y tu allan i oriau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Andrew Jones 01686 620264 Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk Dyddiad Cau : 10.00yb, DYDD IAU, 11 Gorffennaf 2024. Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd |
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu gweithio mewn amgylchedd tîm.
Parodrwydd i gymryd cyfrifoldeb am ei weithredoedd ei hun o fewn paramedrau diffiniedig.
Medru ysgogi ei hun yn dda ac yn ymroddedig iawn.
Sgiliau rhyngbersonol wedi’u datblygu’n dda.DYMUNOL
Sgiliau negodi.
Yn gallu ysgogi eraill.CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu bwnc perthnasol,
neu HNC ynghyd â phrofiad perthnasol sylweddol.DYMUNOL
Aelod o gorff proffesiynol perthnasol a/neu Beiriannydd Corfforedig.
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch.
Hyfforddiant rheoliPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad sylweddol o reoli prosiectau a chyllidebau.
Gweinyddu prosesau caffael a rheoli contractau adeiladu.
Rheoli gweithgarwch cynnal a chadw priffyrdd.
Ystod eang o brofiad o gynnal a chadw priffyrdd ac/neu ddylunio priffyrdd.DYMUNOL
Profiad o wneud dewisiadau a blaenoriaethu wrth greu cynlluniau gan gynnwys
casglu data cefnogol.
Ymwneud ag ymateb i argyfwng
Profiad o ymwneud â swyddogion Llywodraeth Cymru, aelodau etholedig,
ymgynghorwyr, contractwyr a phartïon eraill gan gynnwys y cyhoedd, sy’n
ymwneud â chyflawni swyddogaethau cefnffyrdd.SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith.
Sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno da.
Gallu addasu i ystod eang o faterion gweithredol.
Sgiliau TG da.
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch o ran Rheoliadau CDM.
Trwydded yrru ddilys gyfredol.DYMUNOL
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol.
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth priffyrdd.
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth rheoli traffig ac arfer gorau.
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol.
Gwybodaeth am safonau a gweithdrefnau technegol perthnasol.ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd .
• Rheoli agweddau cynnal a chadw a gweithredol y rhwydwaith cefnffyrdd yn uniongyrchol, yn unol â gofynion statudol (e.e. Deddf Priffyrdd), Cytundeb Asiantaeth Reoli Llywodraeth Cymru (WGMAA) a Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (WGTRMM).• Gweithio’n agos â, a chefnogi, y Rheolwr Rhanbarthol er mwyn sicrhau rhwydwaith cyson a diogel mewn perthynas â chynnal a chadw a gweithrediadau ar draws Ardal yr Asiantaeth.
• Ymgymryd â rôl Rheolwr (Tactegol) Arian yr Asiantaeth wrth reoli digwyddiadau a digwyddiadau o argyfwng.
• Rheoli Rheolwyr Llwybr Cynorthwyol a’r Darparwyr Gwasanaeth yn uniongyrchol, ac mae hyn yn cynnwys ymweliadau rheolaidd â'r rhwydwaith.
• Rheoli gweithgarwch cynnal a chadw arferol a chylchol wedi’i raglennu yn uniongyrchol, ac mae hyn yn cynnwys gweithgarwch cynnal a chadw adweithiol a brys.
• Darparu cefnogaeth a chyngor i Llywodraeth Cymru ac Unedau eraill o fewn ACGCC.
Cyfrifoldeb am swyddogaethau . e.e. staff, cyllidebau, offer
• Cyfrifol am reoli dyraniadau Cyfalaf a Refeniw, a'u gweithrediad.• Comisiynu a rheoli contractwyr ac ymgynghorwyr sector cyhoeddus a phreifat yn y gadwyn gyflenwi.
• Cyfrifoldeb am fonitro'r rhwydwaith cefnffyrdd ac asedau cysylltiedig.
• Cyfrifol am reoli cofnodion a llawlyfrau cynnal a chadw priffyrdd 'fel yr adeiladwyd' Llywodraeth Cymru.
• Cyfrifol am gynorthwyo'r Gwasanaethau Brys fel Rheolwr Arian (Tactegol) yr Asiantaeth.
• Bod yn Reolwr llinell i Rheolwyr Llwybrau Cynorthwyol a staff cysylltiedig ar gyfer y ffordd gerbydau sengl a deuol Canolbarth Cymru,
• Dirprwyo ar ran y Rheolwr Rhanbarthol.
• Offer ategol cefnffyrdd eraill ac asedau cysylltiedig.
• Gliniadur, ffôn symudol, allweddi i gael mynediad at asedau a swyddfeydd Llywodraeth Cymru / ACGCC
Prif Ddyletswyddau
Rheoli RhwydwaithRheoli’n uniongyrchol pob agwedd o gynnal a chadw’r WGTRMM ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd perthnasol gan gynnwys:
• Swyddogaethau cynnal a chadw cylchol arferol (gwaith wedi’i raglennu)
• Gweithgarwch cynnal a chadw adweithiol a brys
• Ail-wynebu ac adnewyddiadau eraill.Arwain ar gydlynu rheolaeth traffig y rhwydwaith, gan gynnwys blaenoriaeth arwynebedd y ffordd, gydag Unedau a Thimau eraill yr ACGCC, Darparwyr Gwasanaeth, Ymgynghorwyr Fframwaith, Cyfleustodau a Datblygwyr.
Cyfrannu at ddatblygiad a gweithrediad cynlluniau gwella cefnffyrdd, gan gynnwys prosiectau dan y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.Cynorthwyo Llywodraeth Cymru i asesu’r gofynion am gynnal a chadw yn seiliedig ar wybodaeth a gesglir o archwiliadau technegol ac archwiliadau eraill i ystyried a gwerthuso’r opsiynau gwaith, a datblygu rhaglenni gwaith blynyddol a flaenoriaethwyd.
Cysylltu a chydweithredu â Pheiriannydd Traffig ACGCC, neu eraill, wrth ymchwilio i faterion yn ymwneud â thraffig, gan fynychu archwiliadau diogelwch ffyrdd a datblygu cynlluniau a chynigion.
Cysylltu a chydweithredu â thimoedd Amgylcheddol, Strwythurau a Thechnegol ACGCC i ddatblygu a gweithredu gofynion WGTRMM.
Cynorthwyo Llywodraeth Cymru ac Uned Fusnes ACGCC i ymchwilio ac ymateb i ymholiadau gan y cyhoedd, cwynion a cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth.
Rheolaeth Weithredol
Rheoli darpariaeth a pherfformiad Darparwyr Gwasanaeth ACGCC er mwyn sicrhau y darperir gwasanaeth diogel, effeithiol, effeithlon a chyson gan y rhwydwaith cefnffyrdd ffyrdd sengl neu ddeuol yn unol â'r gofynion.
Cysylltu â Thîm Gweithredol ACGCC (e.e. mewn perthynas â rhyddhau Unedau Swyddogion Traffig) o ran cynnal a chadw ac ymateb i ddigwyddiadau.
Ymgymryd â rôl Rheolwr (Tactegol) Arian yr Asiantaeth wrth reoli digwyddiadau a digwyddiadau o argyfwng. Cydlynu a dosbarthu adnoddau ar draws yr Asiantaeth mewn ymateb i ddigwyddiadau critigol a digwyddiadau mawr a chysylltu â Thîm Gweithredol ACGCC, y Gwasanaethau Brys a bod yn rhan o brosesau ôl-gyfarfod mewnol ACGCC ac Amlasiantaethol.
Cefnogi'r Rheolwr Llwybrau Cynorthwyol gydag arrchwiliadau ffyrdd a gofynion arolygu'r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd (NRSWA) a gweithredu'r Codau Ymarfer perthnasol ar y rhwydwaith cefnffyrdd ar ran Tîm Meddiannaeth y Rhwydwaith ACGCC.
Sicrhau cyswllt â Rheolwyr Gwaith Stryd priodol yr Awdurdod Lleol a budd-ddeiliaid eraill mewn perthynas ag arwynebedd ffordd, rhaglennu gwaith a dargyfeiriadau cysylltiedig.
Darparu gwybodaeth gyfathrebu i'r cyhoedd a budd-ddeiliaid eraill gan gynnwys cysylltu â Gwasanaeth Traffig Cymru.
Cysylltu â'r Heddlu mewn perthynas ag ymchwiliadau i ddamweiniau angheuol ar rwydwaith y cefnffyrdd ac ymgymryd â phrosesau cysylltiedig.
Cynorthwyo i sicrhau cydymffurfiaeth gyda darpariaethau gorfodaeth a thrwyddedu Deddf Priffyrdd 1980.
Cysylltu â Rheolwyr Rhwydwaith Awdurdodau Lleol, National Highways (gynt Highways England) a Chyfleustodau yn ystod gweithgareddau gweithredol arferol ac yn ystod ymateb a rheoli digwyddiad o argyfwng.
Rheoli Datblygu, Hawliadau Trydydd Parti a Materion Tir
Cynorthwyo swyddog(ion) arweiniol ACGCC mewn perthynas â Rheoli Datblygu, Hawliadau Trydydd Parti a Materion Tir a bod yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth weithredol a chyngor technegol.
Darparu Llywodraeth Cymru â chyngor gweithredol a chefnogaeth dechnegol i alluogi i Lywodraeth Cymru gyflawni ei swyddogaeth statudol mewn perthynas â materion rheolaeth cynllunio a datblygu dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref.
Cysylltu â datblygwyr, tirfeddianwyr, cyfleustodau a Network Rail o ran materion datblygu a gweithredol ar y rhwydwaith ffordd ddeuol ac sengl neu’n gyfochrog ag o.
Darparu gwybodaeth a chyngor ynglŷn â hawliadau trydydd parti a hawliadau ad-dalu.
Rôl Rheoli Risgiau
Cynorthwyo Dylunwyr, Prif Ddylunwyr, Contractwyr a Phrif Gontractwyr wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan Reoliadau CDM.
Cyfrannu at reoli risgiau ar y rhwydwaith cefnffyrdd drwy adnabod y risgiau. Sicrhau y gweithredir mesurau lleihau risg priodol e.e. ymdrin â rhwystrau neu ddiffygion Categori 1 a 2.
Cynghori'r Rheolwr Rhanbarthol ar fesurau lleihau risg priodol gan gynnwys adnabod gwaith yn y dyfodol a gwelliannau i'r rhwydwaith.
Rôl ‘Rheolwr Prosiect’ dan Ffurflen Gontract NEC3
Ymgymryd â swyddogaeth ffurfiol y ‘Rheolwr Prosiect’ dan Ffurflen Gontract NEC3. Sicrhau bod prosesau yn eu lle i ddatrys materion cytundebol gan gynnwys datrys anghydfod ac achosion o iawndal a ymleddir.
Rôl Noddwr y Prosiect
Rheoli caffael gwaith cefnffyrdd, gwasanaethau ymgynghori a Chontractwyr y Fframwaith neu Gontractwyr eraill gan ddefnyddio gweithdrefnau tryloyw ac effeithlon.
Rheoli’r broses dendro gan gynnwys gwahodd, gwerthuso ac adrodd.
Rheoli amryw o raglenni cynlluniau gwella, e.e. cynlluniau cymunedol a chynlluniau gwella diogelwch lleol.
Datblygu rhaglenni gwaith treigl wedi’u blaenoriaethu ar gyfer y rhwydwaith rhanbarthol yn unol â gofynion LlC ac yn y cyd-destun hwn, cysylltu ag Uned Danfon ac Archwilio ACGCC.
Rhoi cefnogaeth i'r Uned Danfoniadau ac Archwilio i reoli dyraniadau cyfalaf sy'n benodol i brosiectau, i baratoi achosion busnes ac i sicrhau rheolaeth cost ar gyfer prosiectau unigol.
Swyddogaethau Arbenigol
Rheoli a gwella prosesau Rheoli Ansawdd, yn benodol y Llawlyfr Rheoli Llwybrau a dogfennaeth berthnasol.
Cynorthwyo Rheolwyr y Rhwydwaith a Rheolwyr Rhanbarthol i reoli Cytundeb Gweithrediad y Gwasanaeth a'i weithrediad gan yr Awdurdodau Partner.
Rheoli Perfformiad
Gweithredu prosesau archwilio perfformiad yr Asiantaeth; adnabod mannau o ddiffyg cydymffurfio ag Atodlenni Darparwyr Gwasanaeth; mynd i’r afael â materion diffyg perfformiad a gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gwelliant parhaus.
Rheoli'r gwaith monitro, archwilio ac ymchwilio ar gyfer gweithgarwch a ymgymerir gan Ddarparwyr Gwasanaeth neu eraill (e.e. cyfleustodau) mewn perthynas ag Adran 65 y NRSWA a WGTRMM.
Sicrhau cydymffurfiaeth â manylebau a safonau.
Rheoli Staff
Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a wneir gan staff yr ydych yn eu rheoli.
Rheolaeth bob dydd y staff gweithrediadau gan gynnwys:
• Gwerthusiadau
• Eiriolaeth
• Disgyblaeth
• Hyfforddiant a Datblygiad
• PerfformiadMonitro a goruchwylio Darparwyr Gwasanaeth yn uniongyrchol, neu o bell wrth iddynt ddarparu gwasanaethau o ran swyddogaethau’r Asiantaeth a ganlyn:
• Cyflwyno prosiect
• Gweinyddiaeth Dechnegol
• Gwaith gwella priffyrdd
• Gwaith cynnal a chadw wedi’i raglennu a gwaith adweithiol
• Rheoli digwyddiadau.Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
Rheoli gweinyddiaeth gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch gweithredol gan gynnwys gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch ACGCC, Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) a Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith wrth ddarparu prosiectau cynnal a chadw a gwaith ar y rhwydwaith cefnffyrdd.
Cyfrifol am weithdrefnau gweithredu Iechyd a Diogelwch sy’n ymwneud â’r Rheolwyr Llwybrau Cynorthwyol.
Mae’n gyfrifoldeb i bob gweithiwr yn yr Asiantaeth gydymffurfio â pholisïau Iechyd a Diogelwch, Amgylcheddol ac Ansawdd fel y’u diffinnir yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiantaeth.
Sicrhau y glynir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Gweithredu fel Cleient Rheoliadau CDM.
Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
Cyffredinol
Cysylltu, fel bo’n briodol, â swyddogion yr Asiantaeth, Swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.
Sicrhau y glynir at reoliadau a gweithdrefnau ariannol yr Asiant a LlC.
Cyfrannu at ddatblygiad system Sharepoint ACGCC ynghyd â gweithrediad System Reoli Busnes Integredig yr Asiantaeth.
Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arferion gorau pan fo hynny’n briodol.
Cynrychioli buddiannau’r Asiantaeth yn gyffredinol yn y wasg a’r cyfryngau ac mewn cyfarfodydd gyda, er enghraifft, Cynghorau Cymuned a grwpiau eraill â diddordeb.
Dyletswyddau technegol, gweinyddol a phroffesiynol eraill sy’n gymesur ag awdurdod y swydd.
Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
Rhestr enghreifftiol yn unig yw hon. Bydd angen efallai i ddeilydd y swydd ymgymryd â dyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau gan y Rheolwr Rhanbarthol.
Amgylchiadau Arbennig e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
Gofyniad i ddeilydd y swydd weithredu fel Rheolwr Arian (Tactegol) i’r Asiantaeth yn ystod Rheoli Digwyddiad Argyfwng – gall sefyllfaoedd brys godi yn ystod a thu allan i oriau gwaith arferol.Bydd yn rhaid i ddeilydd y swydd fod yn rhan o drefniadau rota 24awr ar alwad/wrth gefn yn rheolaidd yn ôl yr angen o ran rheoli digwyddiadau neu weithgareddau cynnal a chadw adweithiol.
Rhaid i ddeilydd y swydd weithio oriau y tu allan i oriau gwaith arferol (rhwng 07:00 a 18:00 yn unol â'r cynllun oriau hyblyg) fel bo’r gofyn i gynorthwyo’r Rheolwr Rhanbarthol ag ymdrin â gweithgarwch gweithredol a gynllunnir os oes angen.
Gofyniad i ddeilydd y swydd ymgymryd â hyfforddiant yn ôl y gofyn.
Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill yn y DU yn achlysurol (e.e. Llandrindod, Caerdydd).
Dim ond amlinelliad o’r dyletswyddau yw'r uchod i roi syniad o lefel y cyfrifoldeb sydd ynghlwm â’r swydd. Nid yw’r swydd ddisgrifiad yn gyflawn o ran y manylion, a gall dyletswyddau’r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid natur a lefel cyfrifoldeb sylfaenol y swydd.