Swyddi ar lein
Gweithredwr Ystafell Rheolaeth / Anfonwr
Gweler Hysbyseb Swydd | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27340
- Teitl swydd:
- Gweithredwr Ystafell Rheolaeth / Anfonwr
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Rheoli Rhwydwaith
- Dyddiad cau:
- 08/07/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 42 Awr
- Cyflog:
- Gweler Hysbyseb Swydd
- Gradd tâl:
- S2
- Lleoliad(au):
- Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru (CRhTGC/NWTMC), Conwy
Manylion
Hysbyseb Swydd
Gweithredwr Ystafell Rheoli a Danfonwr Swyddog Traffig
CYFLOG: S2 (18-22) £38,497 i £41,254
(42 awr yr wythnos (Pro Rata) Shiftiau 12 awr (yn cynnwys dydd a nos), 365 diwrnod y flwyddyn).
LLEOLIAD: Canolfan Rheoli Traffig, Conwy
Dylai ymgeiswyr fyw o fewn 45 munud i'r Ganolfan Rheoli Traffig, Morfa Conwy
Bydd Gweithredwr yr Ystafell Reoli a'r Danfonwr Swyddog Traffig yn gyfrifol am gefnogi ac ymateb i unedau Gwasanaeth Swyddogion Traffig LlC, Gwasanaethau Brys, trwy ddefnyddio systemau ystafell reoli. Rheoli adnoddau Swyddogion Traffig yn effeithiol gan gynnwys anfon Swyddogion Traffig, monitro digwyddiadau, adleoli adnoddau, a chynghori adnoddau yn y lleoliad ar faterion ehangach yn ymwneud â digwyddiadau. Mae'r rôl yn gofyn am dechnoleg gweithredu Ystafell Reoli Twnnel a System Cludiant Deallus.
Ffurflen gais ar gael drwy ebostio swyddi@gwynedd.llyw.cymru Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Nichola Williams ar 01286685154 Dyddiad Cau: 10.00yb, DYDD LLUN, 08/07/24. Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd |
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Yn gallu gweithio’n ddiogel dan bwysau
Yn ymroddgar ac â’r gallu i'w gymell ei hun
Hyblygrwydd wrth weithio shifftiau a gallu i weithio dros amser / newid shifft yn rhesymol pan fo'n ofynnol er mwyn diwallu galw gweithredol
DYMUNOL
Profiad o weithio shifft mewn amgylchedd gwaith 24/7/365
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
O leiaf 5 TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg, gradd C neu uwch, neu gymhwyster cyffelyb mewn pwnc perthnasol.
Neu
Profiad helaeth mewn amgylchedd ystafell reoli / gweithredol
A
Rhaid cwblhau Pecyn Hyfforddi Twneli ACGChC sy'n gyfwerth ag NVQ Lefel 3 ymhen dwy flynedd o'r penodiad.DYMUNOL
HNC neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol.
Swyddog Traffig / Danfonwr Gwasanaethau Brys
Diploma Lefel 3 mewn Gweithrediadau Twneli Ffyrdd / Rheoli Traffig
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio mewn amgylchedd gweithredol neu wasanaethol.DYMUNOL
Profiad o weithio mewn amgylchedd gweithredol priffyrdd / ystafell reoli
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu i gofnodi a logio data a gwybodaeth ar y pryd
Gallu gweithio ar ei liwt ei hun ac fel rhan o dîm
Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol
Sgiliau trefnu da
Creadigrwydd a sgiliau datrys problemau
Gallu addasu’n gyflym i sefyllfaoedd sy’n newid
Sgiliau TG da gyda’r gallu i ddefnyddio TG a rhaglenni technoleg
Gallu i'ch ysgogi eich hun a datblygiad proffesiynol parhaus amlwg
Gallu i weithio dan amgylchiadau all fod yn heriol a rheoli gwrthdaro’n effeithiol
Gallu i ddefnyddio a rheoli adnoddau
Bod ag agwedd ‘diogelwch yn gyntaf’ i weithgareddau
Trwydded Yrru ddilys gyfredol yn y DU.DYMUNOL
Gwybodaeth o Ddeddf Diogelu Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Gwybodaeth am Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch perthnasol
Profiad mewn defnyddio systemau cyfathrebu diogel/agored a theleffoni IPFX
Gwybodaeth am y Gwasanaeth Swyddogion Trafnidiaeth
GOFYNION IAITHGwrando a siarad
Cymraeg yn ddymunol
Darllen a deall
Cymraeg yn ddymunol
Ysgrifennu
Cymraeg yn ddymunol
Swydd Ddisgrifiad
PWRPAS Y SWYDD
1. Danfon Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru a chwblhau swyddogaethau rheoli digwyddiadau'r ystafell reoli.
2. Monitro rhwydwaith cefnffyrdd a thwneli ar sail 24/7/365, asesu cyflwr y rhwydwaith yn barhaus a gweithredu yn ôl y gofyn, er mwyn cynnal rhwydwaith cefnffyrdd diogel a dibynadwy.
3. Ymateb, cefnogi a chynorthwyo'r Gwasanaethau Brys, Gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru a Darparwyr Gwasanaeth Eraill Llywodraeth Cymru mewn modd proffesiynol ac ymdrin â digwyddiadau a chynnal a chadw ar y rhwydwaith cefnffyrdd.
4. Isafu tagfeydd a gyfyd yn sgil digwyddiadau a'r potensial am ddigwyddiadau eilaidd trwy asesu risg digwyddiadau yn weithredol a datblygu ymateb rheoli i ddigwyddiadau ar hyd y rhwydwaith cefnffyrdd.
5. Rheoli a gweithredu Systemau Trafnidiaeth Deallus Llywodraeth Cymru a systemau rheoli twneli.
6. Ymgymryd â darpariaeth a dosbarthu gwybodaeth Gwasanaeth Gwybodaeth Traffig Llywodraeth Cymru trwy amryw o gyfryngau er mwyn sicrhau teithiau mwy diogel a dibynadwy ar y rhwydwaith.
7. Cydlynu gweithgareddau a gweithredoedd Cynnal a Chadw yn y Gaeaf.
CYFRIFOLDEB AM ADNODDAU (e.e. staff, cyllid, offer)
• Rheoli ac ymdrin â chardiau allwedd a diogelwch ar gyfer Canolfan Rheoli Traffig Gogledd a Chanolbarth Cymru (CRhTGChC).
• Rheoli gwaith cynnal a chadw radios yn CRhTGChC.
PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOLCyffredinol
Swydd Danfonydd:
• Blaenoriaethu a monitro'r gwaith o ddanfon adnoddau yn effeithiol a chofnodi gwybodaeth yn gywir ar ein systemau.
• Rhoi adborth ble bo'n briodol at ddiben gwella Gweithdrefnau Swyddogion Traffig yn barhaus.
• Hysbysu'r Rheolwr Tîm Gweithrediadau ar shifft o'r wybodaeth berthnasol er mwyn sicrhau trosglwyddiad di-dor a pharhad y swyddogaethau rheoli digwyddiad/rhwydwaith.
• Ymgymryd â hyfforddiant a chynnal y galluoedd sy'n ofynnol gan yr Asiantaeth a Llywodraeth Cymru ac sy'n berthnasol i'r swydd.
• Ymddwyn yn broffesiynol bob amser a sicrhau bod y ffordd yr ymdrinnir â'r cyhoedd, y Gwasanaethau Brys ac Asiantaethau eraill o safon uchel yn gyson.
• Cefnogi ac ymateb i'r Gwasanaethau Brys, Rheolwyr Llwybrau Cynorthwyol, Unedau Gwaith Priffyrdd, Contractwr Cynnal a Chadw Arferol (RMC) trwy ddanfon Swyddog Trafnidiaeth.
Swyddogaeth Gweithredwr:• Monitro systemau ystafell reoli Llywodraeth Cymru (LlC) (megis TCC, Citilog) yn ystafell reoli CRhTGChC er mwyn canfod gwrthdrawiadau a digwyddiadau.
• Cefnogi ac ymateb i Wasanaeth Swyddog Traffig LlC, y Gwasanaethau Brys, Stiwardiaid Llwybrau, Unedau Gwaith Priffyrdd, Contractwyr Cynnal a Chadw Arferol (RMC) trwy ddefnyddio systemau'r ystafell reoli ar gyfer gwaith wedi'i drefnu.
• Rhoi'r wybodaeth berthnasol i staff y shifft nesaf er mwyn sicrhau trosglwyddiad di-dor a pharhad o weithgareddau rheoli digwyddiad / y rhwydwaith.
• Rhoi adborth ble bo'n briodol at ddiben gwella gweithdrefnau gweithredu'n barhaus.
• Ymgymryd â hyfforddiant a chynnal y galluoedd sy'n ofynnol gan yr Asiantaeth a Llywodraeth Cymru ac sy'n berthnasol i'r swydd.
• Ymddwyn yn broffesiynol bob amser a sicrhau bod y ffordd yr ymdrinnir â'r cyhoedd, y Gwasanaethau Brys ac Asiantaethau eraill o safon uchel yn gyson.
• Ymlynu at Systemau Rheoli Ansawdd yr Asiant Cefnffyrdd.
• Cefnogi a chynorthwyo Rheolwr y Rhwydwaith, Rheolwr Gweithrediadau, Rheolwr Tîm Gweithrediadau, Rheolwr Twneli, Rheolwr Llwybrau, a'r Gwasanaeth Swyddogion Traffig gyda'u dyletswyddau.
• Cynnal diogelwch ystafell reoli, adeiladau gwasanaeth twneli, ac adeiladau darlledu CRhTGC
Rheoli DigwyddiadauSwyddogaeth Danfonwr:
• Ymateb trwy gymryd camau gweithredol i ymdrin â digwyddiadau ar y rhwydwaith ffyrdd ac yn ardal y twneli a'u rheoli, gan gynnwys danfon Swyddogion Traffig a chyfathrebu gyda rhanddeiliaid allweddol, megis Rheolwyr Llwybrau Cynorthwyol, Unedau Gwaith Priffyrdd Awdurdodau Partner, Unedau Cefnogi Digwyddiad, a'r Gwasanaethau Brys.
• Cofnodi, adrodd a logio'r holl gyfathrebu ar systemau niferus, yn gywir a chlir a chyfredol, ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd a allai gynnwys asiantaethau allanol. Logio digwyddiadau sy'n cael eu hadrodd ar y cefnffyrdd gan ddefnyddio system Gorchymyn a Rheoli LlC i gynorthwyo gyda'r dad-friffio a'r dadansoddi.
• Monitro ac adrodd ar unrhyw weithgareddau maleisus/amheus ar y rhwydwaith.
• Rhoi gwybod i Reolwr y Tîm Gweithrediadau am unrhyw ddigwyddiad sydd angen sylw.
Swyddogaeth Gweithredwr:
• Ymateb trwy gymryd camau gweithredol i ymdrin â digwyddiadau ar y rhwydwaith ffyrdd ac yn ardal y twneli a'u rheoli, gan gynnwys cyfathrebu gyda budd-ddeiliaid allweddol, megis LlC, Gwasanaeth Swyddogion Traffig, Rheolwyr Llwybrau, Unedau Gwaith Priffydd Awdurdodau Partner, Unedau Cefnogi Digwyddiad, a'r Gwasanaethau Brys.
• Ymateb trwy ddilyn gweithdrefnau i gefnogi Gwasanaeth Swyddogion Traffig LlC, y Gwasanaethau Brys, Stiwardiaid Llwybrau, Unedau Gwaith Priffyrdd, Contractwr Cynnal a Chadw Arferol (RMC) trwy ddefnyddio systemau'r ystafell reoli yn ystod digwyddiadau ar y rhwydwaith.
• Ymgysylltu â Chadlywyddion Aur/Arian/Efydd yr Asiantaeth/Llywodraeth Cymru a'u hysbysu am faterion yn ymwneud â digwyddiadau; derbyn cyngor gan benaethiaid a gweithredu fel y bo'n briodol.
• Ymateb i alwadau'r System Teliffon Brys (ETS) ac ymdrin â nhw, gan gynnwys gwneud trefniadau i adfer cerbydau yn ôl y gofyn.
• Ymateb trwy gymryd camau gweithredol i ymdrin â thagfeydd ar y rhwydwaith ffyrdd ac yn ardal y twneli drwy osod Arwyddion Negeseuon Amrywiol, Arwyddion Rheoli Lôn ac amryw dechnegau rhannu gwybodaeth eraill.
• Cofnodi, adrodd a logio'r holl ddigwyddiadau sy'n cael eu monitro neu'u hadrodd ar y cefnffyrdd yn gywir ac ar y pryd gan ddefnyddio system Gorchymyn a Rheoli LlC, i gynorthwyo gyda gwaith dad-friffio a dadansoddi.
• Monitro ac adrodd ar unrhyw weithgareddau malieisus/amheus ar y rhwydwaith.
• Rhoi gwybod i Reolwr y Tîm Gweithredu am unrhyw ddigwyddiad sydd angen sylw.
Gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth CymruSwyddogaeth Danfonwr:
• Rheoli adnoddau Swyddog Trafnidiaeth yn effeithiol, gan gynnwys danfon Swyddogion Traffig, monitro digwyddiadau, ailddosbarthu adnoddau a rhoi cyngor ar adnoddau safle materion ehangach sy'n ymwneud â digwyddiadau.
• Cyfarwyddo'r Uned Swyddogion Traffig at y digwyddiad agosaf unwaith bydd lleoliad wedi'i adnabod, gan ystyried a phennu'r adnoddau mwyaf addas ar gyfer y digwyddiad.
• Rhoi gwybodaeth a chyngor ynglŷn â hawliadau trydydd parti ac ymholiadau gan yr Heddlu.• Mynychu gweithgareddau cyfreithiol i gyflwyno tystiolaeth fel tyst ble bo'r angen.
Swyddogaeth Gweithredwr:
• Rhoi gwybodaeth a chyngor ynglŷn â hawliadau trydydd parti ac ymholiadau gan yr Heddlu.
• Mynychu gweithgareddau cyfreithiol i gyflwyno tystiolaeth fel tyst ble bo'r angen.
Cyfrifoldebau CyfathrebuSwyddogaeth Danfonwr:
• Cyfathrebu'r anghenion a'r cyfarwyddiadau'n glir i Unedau Swyddogion Traffig niferus.
• Cynnal a diweddaru cofnodion o'r holl ddigwyddiadau sy'n cael eu trosglwyddo trwy'r systemau cyfathrebu.
• Hyrwyddo a meithrin perthnasoedd gwaith da gyda’r holl fudd-ddeiliaid allweddol, er mwyn cefnogi cydweithio rhwng sefydliadau
Swyddogaeth Gweithredwr:
• Gweithredu fel unig bwynt cyswllt yr Asiant ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru ar gyfer sefydliadau allanol gan gynnwys LlC, y cyhoedd, y gwasanaethau brys, cludwyr nwyddau, a chydlynu ymatebion gan bersonél ar-alwad yr Asiant, gan gynnwys Cadlywyddion Aur/Arian/Efydd.• Ymdrin â chwynion ac ymholiadau gan y cyhoedd a sefydliadau eraill yn gwrtais a phroffesiynol.
Gwasanaeth Gwybodaeth Traffig
Swyddogaeth Danfonwr:
• Cyfuno'r wybodaeth a gyflwynir gan Swyddogion Traffig am oedi posib o ganlyniad i ddigwyddiadau neu waith ffordd a fydd yn effeithio'r cyhoedd.
Swyddogaeth Gweithredwr:
• Gweithredu fel unig bwynt cyswllt yr Asiant ar sail 24/7/365 a hysbysu'r Asiant a Swyddogion LlC am wybodaeth am y rhwydwaith.
• Cyfyngu ar ddelweddau TCC o wefan Traffig-Cymru os ceir digwyddiad.
• Dilyn gweithdrefnau i ddiweddaru gwefan Traffig-Cymru a dosbarthu rhybuddion geiriol i grwpiau defnyddwyr (trwy Clickatell).
• Darpariaeth llinell wybodaeth Traffig-Cymru y tu hwnt i oriau gwaith
Rheoli Twneli a Rhwydwaith
Swyddogaeth Danfonwr:• Ymlynu at safonau, gweithdrefnau gweithredu, a pholisïau Llywodraeth Cymru.
• Lleihau tagfeydd sy'n digwydd yn sgil digwyddiadau, gan sicrhau nad oes unrhyw gyfaddawdu gydag Iechyd a Diogelwch. Monitro'r twneli a chyfarwyddo Swyddogion Traffig i'r ardal gywir pe bai angen cau'r Twneli.
Swyddogaeth Gweithredwr:• Monitro systemau rheoli twneli (e.e. rheolaeth amgylcheddol, adeiladau gwasanaeth).
• Adnabod, cofnodi ac adrodd ar ddiffygion mewn offer gwallus a phrofi offer sydd wedi'i drwsio mewn modd ymarferol.
• Fel rhan o'r Rheoliadau Diogelwch Twneli Ffyrdd 2007, dylai Gweithredwyr roi gweithdrefnau a phrotocolau Rheoli Digwyddiad Twneli ar waith a'u rheoli er mwyn cynorthwyo rheng flaen y Gwasanaethau Brys wrth reoli digwyddiadau yn ardal twneli'r A55.
• Ymlynu at safonau, gweithdrefnau gweithredu, a pholisïau Llywodraeth Cymru.
• Cyfuno a rhannu gweithredoedd cynnal a chadw'r gaeaf ac adroddiadau ar gyflwr y ffyrdd.
Iechyd a Diogelwch a’r AmgylcheddDanfonydd/Gweithredwr:
• Mae’n gyfrifoldeb ar bob gweithiwr yr Asiantaeth i gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiantaeth.
• Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
• Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
• Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn ymwybodol o ofynion deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithredu gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Gyfadran er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda'r gofynion perthnasol.Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
AMGYLCHIADAU ARBENNIG (e.e. angen gweithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati) • Fel arfer, mae'n ofynnol gweithio shifft 12 awr dros batrwm shifft 42 awr yr wythnos (4 yn y gwaith 4 i ffwrdd) blynyddol, gan gynnwys gweithio oriau anghymdeithasol (nosweithiau, penwythnosau a Gwyliau Banc), a darparu gwaith shifft cyflenwi 24/7/356 ar gyfer Ystafell Reoli Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru.• Bydd y shifft diwrnod 12 awr yn cael ei rhannu'n ddwy; 6 awr danfonwr a 6 awr gweithredwr.
• Bydd y shifft nos 12 awr yn cynnwys dyletswyddau Gweithredwr, yn ogystal â'r gofyn i ymgymryd â gwaith Danfon i ddiwallu anghenion gweithredol.
• Bydd goramser rhesymol yn rhan ofynnol o'r swydd
• Bod yn rhan o’r rota ar alwad i gynorthwyo mewn argyfyngau, absenoldeb salwch a digwyddiadau mawr ar y rhwydwaith yn ôl yr angen.
• Mae gofyn cwblhau Diploma Twneli ymhen dwy flynedd o gael eich cyflogi.