Swyddi ar lein
Rheolwr Prosiect a Rhaglen Asedau Technoleg
£43,421 - £45,441 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27278
- Teitl swydd:
- Rheolwr Prosiect a Rhaglen Asedau Technoleg
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Twnelau a Technoleg
- Dyddiad cau:
- 06/06/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £43,421 - £45,441 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS4
- Lleoliad(au):
- Ddole Road Ystad Ddiwydiannol Llandrindod
Manylion
Hysbyseb Swydd
Rheolwr Prosiect a Rhaglen Asedau Technoleg
CYFLOG: PS4 (35-37) - £43,421 - £45,441
Oriau- 37 hours
(Gweithio’n Hybrid)
Lleoliad y swydd – Canolfan Rheoli Traffig Conwy
Mae’r swydd cyffrous yma yn rhoi y cyfle i chi weithio dau ddiwrnod o’r swyddfa a tri diwrnod yr wythnos o’ch cartref.
Mae gan ACGChC gyfle cyffrous i reolwr prosiect a rhaglen profiadol ymuno â’n tîm technoleg deinamig a chefnogi Rheolwr System Cludiant Deallus (ITS) a Thechnoleg Drydanol ACGChC i ddatblygu a chyflwyno’r rhaglenni cyfalaf a refeniw sy’n cwmpasu’r rhwydwaith cefnffyrdd yn Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Byddai'r swydd yn addas ar gyfer ymgeisydd sydd â sgiliau trefnu a rheoli cryf ac sy'n gallu ysgogi eu hunain ac sy'n gallu defnyddio eu menter eu hunain i gwblhau tasgau. Elfen allweddol o’r rôl hon yw’r gallu i reoli staff a’r gadwyn gyflenwi sy’n cynnwys darparwyr gwasanaethau awdurdodau lleol, ymgynghorwyr a chontractwyr. Bydd yr ymgeisydd yn defnyddio ei sgiliau i sicrhau bod y rhaglenni cyfalaf a refeniw blynyddol yn cael eu cyflawni o fewn y gyllideb, yn unol â'r rhaglen a bod y gwaith yn cael ei gwblhau i'r safonau ansawdd gofynnol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gyflwyno'r rhaglen gyfalaf a refeniw flynyddol sydd â gwerth cyfunol o tua £2M y flwyddyn. Bydd yr ymgeisydd hefyd yn gyfrifol am reoli'r tîm ITS sy'n cynnwys 3 aelod o staff a fydd yn darparu cymorth technegol gyda rheoli'r gwaith. Rhaid i'r ymgeisydd feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gyda'r gallu i addasu eich arddull i weddu i'ch cynulleidfa. Rhaid iddynt hefyd fwynhau gweithio'n agos gyda chleientiaid ac aelodau eraill o'r tîm technoleg gan sicrhau eu bod yn darparu datrysiadau sy'n rhagori ar ddisgwyliadau ein cleient.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad gyda meddalwedd rheoli prosiect yn ogystal â gallu defnyddio Microsoft Technologies fel Word, Excel, Project a PowerBI yn hyfedr. Yn ddelfrydol, bydd yr ymgeisydd yn gyfforddus yn defnyddio ystod o feddalwedd ac yn gallu dysgu'n gyflym sut i ddefnyddio systemau a rhyngwynebau newydd. Gan weithio i ACGChC byddwch yn profi amgylchedd gwaith cynhwysol, cyfeillgar a hyblyg lle caiff cydweithwyr eu hannog i dyfu a datblygu. Cyfle gyrfa ystyrlon a gwerth chweil lle byddwch yn helpu i drawsnewid cymdeithas. Manteision eraill o weithio gyda ni yw pensiwn sector cyhoeddus, gwyliau â thâl a gostyngiadau staff eraill.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Stuart Hancocks ar 01492 564712.
Dyddiad Cau: 10.00yb, DYDD IAU, 6 Mehefin 2024
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd
Manylion Person
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd mewn disgyblaeth briodol.
neu
HNC mewn disgyblaeth Peirianneg gyda phrofiad rheoli prosiect sylweddol.DYMUNOL
Aelod o gorff proffesiynol priodol
Peiriannydd Siartredig neu Gorfforedig
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
Hyfforddiant rheoli
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu gweithio dan bwysau
Gallu gweithio mewn amgylchedd tîm.
Yn ymroddgar ac â’r gallu i gymell ei hun
Parodrwydd i gymryd cyfrifoldeb am ei weithredoedd ei hun o fewn paramedrau diffiniedig.
Gallu derbyn, cymhathu a gwerthuso gwybodaeth o amryfal ffynonellau
Rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig a meddu ar y gallu i weithio gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad perthnasol wrth reoli a chyflawni cynlluniau gwella isadeiledd
Profiad mewn paratoi a chydlynu/rheoli rhaglenni gwaith, cyllidebau a systemau rheoli ansawdd.
Profiad o weinyddu contractau a chaffael prosiectau
DYMUNOLProfiad o reoli contractau fframwaith
Profiad o gyd-cysylltu gyda llu o randdeiliaid prosiect
Profiad o reoli adnoddau ar lefel uwch er mwyn cyflawni rhaglenni neu gynlluniau gwaith amlddisgyblaethol
Profiad blaenorol o reoli (dylunio a chynnal) asedau ochr ffordd ar rwydwaith ffyrdd neu isadeiledd diwydiannol eraill.
Profiad mewn systemau technoleg ochr ffordd
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOLHANFODOL
Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith yn brydlon gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib
Gallu cydlynu a rheoli’n effeithiol y broses o gyflwyno rhaglenni gwaith drwy ddarparwyr gwasanaeth i derfynau amser penodedig
Rheoli risg gan gyfeirio at CDM a Rheoliadau iechyd a diogelwch eraill.
Ymgymryd â dyletswyddau’n hyderus ac yn broffesiynol, gyda’r gallu i ddangos arloesedd a chreadigedd.
Gallu derbyn, cymhathu a gwerthuso gwybodaeth o amryw o ffynonellau, a darparu argymhellion manwl
Gwybodaeth fanwl am reoli prosiectau a phrosesau allweddol wrth gyflwyno prosiectau unigol mewn amgylchedd peirianyddol neu adeiladu
Gwybodaeth fanwl o Gynllun Cofrestru Trydanol Priffyrdd a chofrestriad Cynllun Sector Priffyrdd Cenedlaethol.
Gwybodaeth fanwl o reoliadau statudol, safonau a manyleb perthnasol mewn perthynas ag asedau technoleg/trydanol gan gynnwys Rheoliadau Gwaith Trydan a Gofynion Gosodiadau Trydanol BS7671.
Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar datblygedig.
Sgiliau TG hyfedrus mewn meddalwedd safonol yn y diwydiant.
Trwydded yrru gyfredolDYMUNOL
Sgiliau rhyngbersonol da a sgiliau dadansoddi cryf, a’r gallu i ysgrifennu adroddiadau’n fanwl, ynghyd â sgiliau cyflwyno effeithiol.
Sgiliau dadansoddi a rheolaeth ariannol.
Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth, safonau a pholisïau eraill sy’n ymwneud â Rheoli Prosiect.
Gwybodaeth o safonau a deddfwriaethau cyfredol priffyrdd/twnneli.
Gwybodaeth fanwl o weinyddu prosiectau adeiladu drwy ddulliau caffael modern e.e. Trefniant Contractau NEC
Gwybodaeth am gyflwyno prosiectau adeiladu gan ddefnyddio cytundebau fframwaith.
GOFYNION IAITH
Gwrando a siarad
Cymraeg yn ddymunol
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd .
• Bod yn gyfrifol am oruchwylio a chydlynu holl brosiectau Technoleg a phrosiectau Peirianneg Trydanol a Mecanyddol yr Asiant a sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion diogelwch, costau, amser ac ansawdd.
• Cynorthwyo i gydlynu a rhaglennu rhaglen flynyddol ac aml-flwyddyn yr Asiant o gynlluniau adnewyddu, uwchraddio a diogelwch.
• Cefnogi'r Rheolwr Uned Twnneli a Thechnoleg gyda datblygu a chyflawni rhaglen gyffredinol yr Uned o brosiectau refeniw a chyfalaf.
• Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau caffael prosiectau, gan gynnwys datblygu a gweithredu system rheoli prosiectau SharePoint a’r gronfa ddata gysylltiedig.
• Cynorthwyo yng nghyswllt agweddau technegol a chytundebol y sefydliad, monitro ac adnewyddu contractau fframwaith yr Asiant.
• Gweithredu fel Noddwr Prosiect a Chleient CDM ar brosiectau fel y cytunwyd.
• Caffael a bod yn rheolwr prosiect ar wasanaethau dylunio a chontractio yn unol â gweithdrefnau’r Asiant, gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion perfformiad.
• Mae asedau technoleg ar y Gefnffordd yn cynnwys, (ond nid yn gyfyngedig) i oleuadau twnnel ffordd, offer monitro amgylcheddol, offer awyru twnnel, Systemau Rheoli, Goruchwylio a Chaffael Data (SCADA), rheolyddion/cyfarpar rhesymegol rhaglenadwy, cyfarpar canfod digwyddiad, systemau pŵer mewn argyfwng, gorsafoedd pwmpio, arwyddion negeseuon amrywiol (VMS), Teledu Cylch Cyfyng (TCC), cyfathrebiadau ffeibr optig, switshys a llwybrydd rhwydwaith, dyfeisiau diogelwch TG, gorsafoedd tywydd, teleffonau cefnffordd, systemau adnabod platiau rhif yn awtomatig, cyfarpar trosglwyddo fideo, offer swits foltedd isel ac uchel, arwyddion traffig, goleuo stryd, cyfarpar monitro llygredd, systemau dosbarthiad traffig, gwasanaeth twnnel ac adeiladau trosglwyddo (ddim Canolfan Rheoli Traffig).
Cyfrifoldeb am Adnoddau . e.e. staff, cyllidebau, offer
• Rheoli darparwyr gwasanaethau allanol (darparwyr gwasanaethau LlC, Awdurdodau Partner ac ymgynghorwyr a chontractwyr sector preifat).
• Rheoli’r holl gyllidebau prosiect perthnasol.
• Rheoli staff
• Rheoli system a chronfa ddata Sharepoint yr Asiant.
• Rheoli cronfeydd data y Contract Fframwaith
• Gliniadur
• Ffôn symudol
• Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)Prif Ddyletswyddau
Rheoli Prosiect
Ymgymryd â rôl oruchwylio a chydlynu ar gyfer gweinyddu holl gontractau’r Asiant a sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion costau, amser ac ansawdd, gan gynnwys:
• Cynnal a monitro’r brif raglen ar gyfer holl brosiectau’r Asiant, gyda phwyslais benodol ar sicrhau y cânt eu cyflawni
• Ymgymryd â gwaith i baratoi briffiau prosiectau, gweithdrefnau tendro cystadleuaeth fach, rhaglenni/cynlluniau rheoli prosiect a chyflawni’r prosiect.
• Defnyddio egwyddorion system rheoli prosiect PRINCE2.
• Cysylltu gyda darparwyr yr Awdurdodau Partner a'r sector preifat ynghylch prosiectau, gan gynnwys darparu Dangosyddion Perfformiad Allweddol
• Cysylltu gyda’r Uned Arolygu a Chyflawni o ran rheoli perfformiad prosiectau
• Gweithredu cau prosiectau gan gynnwys comisiynu, cofnodion ‘fel yr adeiladwyd’ a diweddaru’r rhestr eiddo.Gweithredu fel gweinyddiaeth contract yr Asiant ac arbenigwr caffael i brosiectau ar sail Technoleg
Sicrhau bod y gwaith o weinyddu contractau ar gyfer prosiectau ar y rhwydwaith yn cydymffurfio â gofynion LlC.
Gweithredu fel Noddwr Prosiect ar brosiectau fel y cytunwyd. I’r perwyl hwn, ymgymryd â’r swyddogaethau a ganlyn:-
• adnabod anghenion prosiect, sicrhau cyllid prosiect a pharatoi brîff prosiect.
• sicrhau y caiff pob comisiwn ei ddyrannu yn unol â Phrotocol Gwasanaeth Ymgynghorol yr Awdurdod Partner.
• cytuno ar raglen a brîff y prosiect
• cymeradwyo ffioedd ymgynghori a chynigion y tîm cyflawni
• cysylltu â staff perthnasol LlC
• bod yn gyfrifol am gyflawni’r prosiect yn ei gyfanrwydd a rheoli’r gyllideb
• cytuno ar iawndal a'i gymeradwyo
• adolygu a chytuno ar gyflwyno taliadau’n fisol
• derbyn, adolygu, addasu a chymeradwyo Dangosyddion Perfformiad Allweddol y prosiect.
• cychwyn prosesau diffyg perfformiad gan gynnwys datrys anghydfodau contract.
• adrodd ar y gwariant hyd yma, a phroffil gwariant y dyfodol i Uned Fusnes yr Asiant.
• trefnu a chadeirio cyfarfodydd cynnydd prosiect.
• adolygu a chymeradwyo cyflwyniadau sy’n gysylltiedig â'r prosiect cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru
• sicrhau y caiff prosiectau eu terfynu'n briodol ac yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.Gweithredu fel Cleient CDM ar brosiectau fel y cytunwyd. Cynghori a chynorthwyo Noddwyr Prosiect ar rôl y Cleient CDM.
Rheoli’r holl gyllidebau prosiect Technoleg perthnasol sy’n gysylltiedig â’r asedau â ganlyn;
Cynorthwyo'r rheolwyr asedau technoleg eraill i gwrdd gyda amcanion yr uned ar gyfer rhaglenni refeniw a rheoleiddio pan fo rheolwr yr uned yn rhoi cyfarwyddyd i wneud hynny.
Rheoli Rhaglen
Cynorthwyo’r broses i adnabod, hyrwyddo a blaenoriaethu rhaglenni blynyddol a rhaglenni pum mlynedd yr Asiant o gynlluniau adnewyddu asedau Technoleg, uwchraddio a chynlluniau diogelwch.
Cefnogi Rheolwr Uned Twnneli a Thechnoleg yn natblygiad cyffredinol a chyflawni'r rhaglen o brosiectau refeniw a chyfalaf ar draws y rhwydwaith Cefnffyrdd yng ngogledd Cymru yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru (LlC).Galluogi cyflawni’r rhaglenni o brosiectau drwy gaffael gwasanaethau ymgynghorol cefnffyrdd a gwaith adeiladu yn unol â gweithdrefnau’r Asiant.
Dyletswyddau Technegol Eraill
Cynorthwyo yng nghyswllt agweddau technegol a chytundebol y sefydliad, monitro ac adnewyddu contractau fframwaith yr Asiant.Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau caffael prosiectau, gan gynnwys datblygu a gweithredu system rheoli prosiectau SharePoint a’r gronfa ddata gysylltiedig. Bydd hyn yn cynnwys materion hyfforddi a datblygu staff o fewn yr Asiant a gyda darparwyr gwasanaeth.
Sicrhau bod egwyddorion 'Rethinking Construction' yn cael eu hyrwyddo gan yr Asiant yn ei weithdrefnau caffael.
Datblygu ac adolygu prosesau fel rhan o raglen wella barhaus i sicrhau bod dyraniadau cyllidebol yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon, ac y cwblheir gwaith ar amser ac yn unol â gofynion costau ac ansawdd, heb ymateb diangen gan y cyhoedd neu’r cyfryngau.
Cynorthwyo gyda rheoli, casglu, paratoi a chyflwyno amcangyfrifon cost a rhaglennu i LlG yn unol â'r prosesau comisiynu a gytunwyd.
Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion deddfwriaethol sy’n berthnasol i’r swydd.Sicrhau bod darparwyr gwasanaeth Awdurdodau Partner yr Asiant a’r Fframwaith yn cydymffurfio â pholisïau a safonau y DU / LlC, yn cynnwys:
• Canllaw Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd
• Manyleb ar gyfer Gwaith ar Briffyrdd
• Dull Mesur Gwaith ar Briffyrdd
• Pennod 8, Canllaw Arwyddion Traffig
• Canllaw Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC
• Contractau NEC3
• Rheolau Sefydlog Cyngor Gwynedd
• Lleiafswm gofynion gweithredu (Twnneli/Priffyrdd)
• Rheoliadau Trydan yn y Gwaith (EAWR)
• Rheoliadau Diogelwch Twnneli Ffyrdd
• Dogfennau perthnasol eraill y cyfeirir atynt yn y cytundeb WAGMAGweithredu, rheoli ac adolygu polisïau a gweithdrefnau yr adain asedau technoleg sy’n ymwneud ag archwilio, asesu, rheoli a chyflwr asedau technoleg Llywodraeth Cymru yn unol â gofynion y LlC.
Cynorthwyo'r rheolwr Uned Twnneli a Thechnoleg gyda isadeiledd trydanol, dulliau trosglwyddo a systemau diogelwch yn unol â EAWR.
Adolygu a derbyn dogfennau technegol fel adroddiadau ac arolygon.
Rheoli Perfformiad
Cynorthwyo’r Rheolwr Busnes a Gweithrediadau Statudol, a staff perthnasol i ddatblygu systemau a gweithdrefnau ar gyfer System Rheoli Busnes yr Asiantaeth.Sicrhau y gweithredir systemau a gweithdrefnau er mwyn archwilio, monitro a rheoli perfformiad y gadwyn gyflenwi wrth gyflawni’r prosiectau.
Gweithredu dulliau o arolygu perfformiad a gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu gwelliant parhaus.
Mynd i’r afael â meysydd lle mae diffyg perfformiad gan y darparwr gwasanaeth a'r contractwr.
Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
Mae pob gweithiwr yr Asiant yn gyfrifol am gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiant.
Sicrhau y glynir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol a Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.Cyffredinol
Cyd-gysylltu, fel bo’n briodol, â swyddogion yr Asiant, Swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol, cytundebol a datblygiadau eraill yn y diwydiant, gan gynnwys dulliau newydd, gyda’r nod o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
Cyd-gysylltu gyda Rheolwyr Llwybrau ACGChC am reoli gofod ffordd yn unol â'r Ddeddf Gwaith Stryd.
Cynorthwyo a chefnogi'r Uned Twnneli a Thechnoleg. Darparu cefnogaeth i swyddogion eraill yr Asiant wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
Cynorthwyo tîm Cyfathrebu ACGChC / Traffig Cymru drwy ddarparu gwybodaeth mewn perthynas â chynnydd y cynllun a gweithrediadau a all effeithio ar y cyhoedd.
Cynrychioli buddiannau’r Asiant yn gyffredinol mewn cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid.
Dyletswyddau rheolaethol, gweinyddol, technegol a phroffesiynol sy’n gymesur ag awdurdod y swydd.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.Amgylchiadau Arbennig e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
• Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol i fodloni gofynion y Gwasanaeth.
• Ymweld â safleoedd adeiladu.
• Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill o'r DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).