Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Trefnu gweithgareddau awyr agored yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).
•Trefnu ac arwain gwaith gyda gwirfoddolwyr yn yr AHNE
•Cyfrannu at waith i gynnal a gwella cynefinoedd, mynediad a nodweddion hanesyddol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Goruchwylio gwirfoddolwyr a chontractwyr
•Cyfrifoldeb am reoli cyllidebau a roddir ar gyfer prosiectau neu feysydd gwaith penodol
•Cyfrifoldeb am offer a chyfarpar a ddarperir ar gyfer cyflawni dyletswyddau’r swydd yn ogystal ag unrhyw gerbyd a ddarperir ar gyfer teithio.
Prif ddyletswyddau
•Cyfrifoldeb am weithredu prosiectau a rhaglenni gwaith sy’n cyfrannu tuag at wella mynediad cyhoeddus, cynnal bioamrywiaeth ag adfer nodweddion tirwedd yn yr AHNE.
•Cefnogi a chynorthwyo mudiadau cymunedol a gwirfoddol i weithredu a datblygu prosiectau amgylcheddol.
•Trefnu, cydgordio ac arolygu gwaith gan wirfoddolwyr gan sicrhau eu bod yn cael yr adnoddau a’r hyfforddiant priodol i gyflawni tasgau yn ddiogel.
•Paratoi rhagleni gwaith a chyfarwyddo contractwyr a’u harolygu i sicrhau bod y gwaith yn cyrraedd y safon angenrheidiol.
•Ymgymryd â mân waith megis gosod arwyddion, rheoli tyfiant ac atgyweirio dodrefn llwybrau.
•Cynnal a datblygu perthynas weithio gyda chydweithwyr, awdurdodau eraill, cyrff allanol a tirfeddianwyr.
•Cyfrifoldeb am rheoli cyllidebau gwaith yn unol â rheolau ariannol y Cyngor ynghyd â chydymffurfio ac amodau grant.
•Trefnu a chynnal digwyddiadau amgylcheddol amrywiol i’r cyhoedd – fel teithiau cerdded, hyfforddiant sgiliau gwledig, digwyddiadau Awyr Dywyll.
•Cynrychioli’r Gwasanaeth AHNE mewn cyfarfodydd a digwyddiadau yn lleol.
•Cyfrannu at baratoi deunydd dehongli ac addysgol i godi ymwybyddiaeth am brosiectau a materion amgylcheddol
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Efallai bydd angen gweithio ar ambell benwythnos