Pwrpas y swydd
•Cynorthwyo’r Rheolwr Masnachol Hafan Pwllheli i sicrhau y darperir gwasanaeth safon uchel i holl gwsmeriaid Hafan a Harbwr Pwllheli
•Darparu cyfleusterau o safon sy’n gynaliadwy mewn amgylchedd diogel yn ein Harbwr a Marina ac i annog pawb i’w mwynhau a’u gwerthfawrogi.
•Goruchwylio rheolaeth Harbwr Pwllheli gan gynnwys pob elfen weithredol a gweinyddol.
•Cefnogi’r Rheolwr drwy arwain, annog, cynorthwyo a chefnogi tîm Harbwr Pwllheli gan drafod, cytuno, paratoi a monitro rhaglen gwaith.
•Gweithredu yn unol ac egwyddorion a trefniadau Ffordd Gwynedd gan gyfrannu at fframwaith a gweledigaeth Ffordd Gwynedd
•Gweithredu fel dirprwy i’r Rheolwr Masnachol gan arwain tim rheoli Harbwr Pwllheli i gyflawni yn effeithiol ac effeithlon yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd drwy greu a chynnal amgylchedd o barch ac ymddiriedaeth gan rymuso, arfogi ac ysbrydoli’r staff.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Staff – cyfrifoldebau rheolwr llinell ar gyfer tim gweithredol Hafan / Harbwr Pwllheli
•Cyllid – cyfrifioldeb am gyllidebau Harbwr Pwllheli
•Offer - Sicrhau bod yr holl gyfarpar ac offer yn addas ar gyfer y pwrpas a chael ei archwilio a'i gynnal a chadw yn unol â rhaglen waith ac argymhellion gwneuthurwr.
•Cyfrifoldebau Rheolwr Safle ar gyfer Hafan a Harbwr Pwllheli
•Sicrhau cydymffurfiaeth a gofynion Tŷ’r Drindod
Prif ddyletswyddau
•Trefnu rhaglen waith cynnal a chadw'r Harbwr a Hafan gan ymgymryd ag Asesiadau Risg perthnasol
•Cyflwyno archebion prynu, codio anfonebau am daliadau, rhoi derbynebau, cyflwyno gwybodaeth ceisiadau am anfonebau
•Coladu data defnydd cychod yn yr Harbwr a Hafan.
•Trefnu a rheoli gwaith ar y safle, gan geisio dyfynbrisiau am gost gwaith, deunyddiau ac offer.
•Ymgysylltu fel bod angen â budd-ddeiliaid a pherchnogion eiddo cymdogol.
•Ymgysylltu â grwpiau cymunedol, canolfannau a grwpiau gweithgareddau awyr agored, budd-ddeiliaid yr Harbwr, unigolion, cyrff cyhoeddus a phreifat eraill, e.e. CNC, busnesau cychod lleol, Cyngor Tref, Aelodau Lleol Etholedig, Tŷ’r Drindod ac eraill fel bod angen.
•Cynnal Asesiadau Risg perthnasol sydd yn gysylltiedig â defnydd cyhoeddus o’r safle. Cynnal Asesiadau Risg gwaith staff Harbwr Pwllheli.
•Sicrhau bod staff yn cynnal a chadw, gwarchod ac yn diogelu holl eiddo’r Cyngor.
•Sicrhau bod holl staff yn derbyn hyfforddiant ar gyfer rhai agweddau o’r swyddi. Annog staff i adnabod cyfleon datblygu gyrfa.
•Sicrhau bod cynlluniau argyfwng yn gyfredol ac yn addas ar gyfer y pwrpas. .
•Sicrhau fod yr holl amserlenni cynnal a chadw peiriannau mecanyddol a phrofion trydanol pontŵn wedi'u cwblhau.
•Sicrhau bod cerbydau (Tractor/Hoist) yn cael ei archwilio a'i gynnal a chadw yn unol â rheoliadau Cenedlaethol.
•Sicrhau cydymffurfiaeth ac adolygu trefniadau sydd yn berthnasol a Chod Diogelwch Harbyrau (PMSC)
•Sicrhau bod y cyfleusterau a thiroedd oddi fewn awdurdodaeth ardal Harbwr Pwllheli yn cael eu cynnal a'u cadw i safon uchel
•Cyfrifoldeb am reoli ardal awdurdodaeth Harbwr Pwllheli gan sicrhau cydymffurfiaeth a gweledigaeth y Cyngor, safonau diogelwch a threfniadau amgylcheddol perthnasol.
•Cyfrifoldeb dros oruchwylio ac archwilio safleoedd amgylcheddol bregus a strwythurau ac adeiladau
•Monitro cyflwr adeiladau, llwybrau, angorfeydd, pontŵn a strwythurau.
•Cyfrifoldeb dros holl Asesiadau Risg y safle. Sicrhau bod holl staff gyda darpariaeth dilladau diogelwch ODP addas ar gyfer y pwrpas. Sicrhau bod offer diogelwch personol yn cael ei archwilio a'i gynnal a chadw yn rheolaidd.
•Cyfrifoldeb am drefniadau dyletswyddau Rheolwr Safle ar gyfer eiddo Hafan ac Harbwr Pwlheli
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd yn ofynnol i weithio ar rhai benwythnosau a Gwyliau Banc.
•Bydd yn ofynnol i weithio y tu allan i fframwaith gwaith 08.00 hyd at 18.00 fel bo'r angen.
•Bydd yn ofynnol i arwain ac i gynorthwyo gydag achosion argyfwng
•Bydd gofyn i weithio mewn unrhyw rhan arall o’r gwasanaeth fel y gofyn