Swyddi ar lein
Pennaeth Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
£79,863 - £88,072 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27097
- Teitl swydd:
- Pennaeth Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Dyddiad cau:
- 26/04/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £79,863 - £88,072 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- -
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Am fwy o wybodaeth ewch ar wefan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
Pennaeth Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
CYFLOG HS2 (£79,863 - £88,072)
LLEOLIAD - un o’r swyddfeydd canlynol :- Bangor/Conwy/Halkyn/Llandrindod
Rydym yn chwilio am uwch reolwr profiadol ac arloesol sydd yn Beiriannydd Siartredig gyda chefndir mewn peirianneg priffyrdd i arwain Uwch Dîm Rheoli'r Asiantaeth ac i ddarparu cyfeiriad strategol cyffredinol yr Asiantaeth. Byddwch hefyd yn gyfrifol am reoli Partneriaeth ACGChC a ffurfiwyd o wyth Awdurdod Lleol Gogledd a Chanolbarth Cymru ac yn adrodd i Gydbwyllgor ACGChC. Byddwch yn arwain tîm amlddisgyblaethol o dros 240 o staff gan reoli’r swyddogaethau canlynol ar ran yr Asiantaeth ac yn unol â Chytundeb Asiantaeth Reoli Llywodraeth Cymru (WGMAA):
• Bod yn gyfrifol am gyllideb gyffredinol flynyddol o tua £90m
• Swyddogaethau gweithredu a chynnal a chadw rhwydwaith ar gyfer tua 1100km o gefnffyrdd ffyrdd deuol ac sengl a thros 2000 o strwythurau priffyrdd.
• Rhaglen cyflawni cyfalaf LlC ar gyfer adnewyddu asedau, prosiectau mawr a chynlluniau uwchraddio
• Rheoli Twneli'r A55 ac Asedau Systemau Trafnidiaeth Deallus Rhwydwaith
• Ystafell Reoli Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru
• Swyddogion Traffig – rheoli argyfwng/digwyddiad ar y ffordd, cefnogi'r Gwasanaethau Brys
• Traffig Cymru – Gwasanaeth Cyfathrebu Cymru Gyfan, Rhwydwaith Gwybodaeth
• Cynrychiolydd Adrannol ar gyfer contract Dylunio, Ariannu a Gweithredu (DBFO) yr A55 gydag UK Highways Ltd a Llywodraeth Cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol ar 01286 679923
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.Cymru neu drwy ffonio 01286 679076.
Dyddiad Cau: Dydd Iau 25 Ebrill,2024.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Arweinyddiaeth, brwdfrydedd a'r gallu i ysgogi eraill.
Arloesol, yn meddu ar weledigaeth a'r gallu i feddwl am syniadau.
Hunan-ymwybodol, emosiynol ddeallus.
Gwydn a phendant.
Cydweithredol.DYMUNOL
-CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd mewn pwnc perthnasol
Peiriannydd Siartredig
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch priodol ar gyfer Uwch Reolwyr
Cymhwyster priodol mewn hyfforddiant rheoli
DYMUNOL
Cymhwyster rheoli
Cymhwyster Rheoli Prosiect
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad sylweddol ôl-siartredig gydag ymglymiad sylweddol mewn asedau isadeiledd a rheoli gweithredol ar lefel uwch.
Hanes llwyddiannus o reoli niferoedd sylweddol o staff ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, rhaglenni arwyddocaol, cyllidebau, a gweinyddu Contractau.
Profiad o weithredu newid a gwelliant.
Profiad o weithio mewn maes gwleidyddol.DYMUNOL
Gwybodaeth eang a dealltwriaeth o beirianneg priffyrdd, cynnal a chadw, a chyflawni prosiectau cyfalaf.
Profiad rheoli gweithredol helaeth yn ymwneud â'r rhwydwaith ffyrdd.
Profiad lefel uwch o ymdrin â’r ystod lawn o randdeiliaid cefnffyrdd, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Aelodau Etholedig, y cyhoedd, y wasg a’r cyfryngau.SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gwybodaeth eang a dealltwriaeth o beirianneg a chynnal a chadw priffyrdd, yn cynnwys safonau technegol a gweithdrefnau.
Gwybodaeth helaeth am reolaeth weithredol gan gynnwys ymateb i ddigwyddiadau a swyddogaethau rheoli.
Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth priffyrdd a deddfwriaeth berthnasol arall.
Dealltwriaeth fanwl a gwerthfawrogiad o ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys rheoliadau CDM.
Y gallu i gydgysylltu a negodi gyda rhanddeiliaid ar bob lefel.
Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno rhagorol.
Tystiolaeth o allu datrys problemau.
Trwydded yrru lawn, ddilys yn y DU.
DYMUNOL
Gwybodaeth eang am systemau rheoli priffyrdd llywodraeth ganolog ac awdurdodau lleol.
Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Ymdrin â’r wasg, y cyfryngau a'r cyhoedd.
GOFYNION IAITH
HANFODOL
Gwrando a Siarad
Y Gymraeg yn ddymunol
Darllen a Deall
Y Gymraeg yn ddymunol
Ysgrifennu
Y Gymraeg yn ddymunol
Swydd Ddisgrifiad
Diben y Swydd.
•Cyfarwyddo a rheoli Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a gweithredu fel Rheolwr Asiant yn unol â Chytundeb Asiant Rheoli Llywodraeth Cymru (WGMAA) gyda Chyngor Gwynedd yn gweithredu fel Awdurdod arweiniol.
•Cyfarwyddo a chyflawni yn unol â dull newydd Llywodraeth Cymru o gynnal a chadw a gweithrediadau ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yn dilyn ymlaen o’r Cynnal a Chadw Ffyrdd Strategol yng Nghymru, adolygiad Lugg, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ddiweddaraf Llywodraeth Cymru, Dyfodol Buddsoddi mewn Ffyrdd Cymru (Adolygiad Ffyrdd) ac yn erbyn gofynion y Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol
•Paratoi a chyflwyno cynllun busnes pum mlynedd yr Asiant.
•Rheoli’r trefniadau partneriaeth o ddydd i ddydd rhwng Cynghorau gogledd a chanolbarth Cymru sy’n cynnwys Ardal yr Asiant (Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Powys a Wrecsam).
•Rheoli contractau fframwaith cadwyn gyflenwi sector preifat ACGChC.
•Rheoli rôl Cynrychiolydd yr Adran ar gyfer Contract DBFO yr A55 ym Môn.
•Cyflawni Gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru yng ngogledd a chanolbarth Cymru.
•Cyflawni Gwasanaeth Cyfathrebu Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru, Traffig Cymru.
Cyfrifoldeb am swyddogaethau, e.e. staff, cyllidebau, offer
•Cyllideb Asiant Cefnffyrdd oddeutu £90 miliwn y flwyddyn.
•Cyllidebau prosiectau mawr ychwanegol fel bo’r angen gan Lywodraeth Cymru (LlC).
•Cyfrifoldebau ariannol a masnachol Cynrychiolydd yr Adran, yn gweinyddu Contract DBFO yr A55 ym Môn (gwerth y Contract yn £17 miliwn y flwyddyn).
•Staff Uned Rheoli Cefnffyrdd yr Asiant (240+).
•1,270 km ffordd gerbydau o gefnffyrdd.
•Dros 2,000 o strwythurau cefnffyrdd.
•Ystafell Reoli Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru (NWTMC).
•6 twnel (A55).
•Pob offer ategol arall ar gyfer y cefnffyrdd ac asedau cysylltiedig.
•Rheolaeth weithredol y Rhwydwaith Cefnffyrdd gan gynnwys swyddogaethau cynnal a chadw arferol ac adweithiol.
•Rheoli rhaglenni cyflawni cyfalaf ar gyfer adnewyddu asedau a chynlluniau uwchraddio/gwella.
Prif Ddyletswyddau
Swyddogaeth Arweinyddol
•Darparu arweiniad, rheolaeth, blaengynllunio ac arbenigedd yng nghyfeiriad strategol yr Asiant, a chyfarwyddo ac arwain Uwch Dîm Rheoli'r Asiant i ddiwallu gofynion WGMAA t, Cytundeb Partneriaeth ACGChC a pholisïau ac arferion Cyngor Gwynedd.
•Datblygu a chynnal perthnasoedd gyda rhanddeiliaid allweddol i sicrhau datblygiad cadarnhaol yr Asiant.
•Rhoi arweiniad i staff yr Asiant wrth weithio ar y nod o wneud ACGChC yn Asiant enghreifftiol sy'n bodloni ac yn rhagori ar ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru (LlC). Datblygu a hyrwyddo diwylliant y sefydliad.Llywodraethu
•Rheoli’r rhyngwyneb rhwng yr Asiant a LlC, gan gynnwys gweinyddu WGMAA, y Cytundeb DBFO, a Mentrau Strategol eraill fel sy’n ofynnol gan LlC.
•Hyrwyddo, datblygu a chynnal partneriaethau effeithiol gyda Darparwyr Gwasanaethau'r Asiant, gan gynnwys gweinyddu Cytundeb Partneriaeth ACGChC, Cytundebau Fframwaith a chontractau unigol.
•Cynrychioli'r Asiant a'r Awdurdod Arweiniol ar Grŵp Llywio'r Asiant a Chyd-bwyllgor Gogledd a Chanolbarth Cymru, a pharatoi a chyflwyno adroddiadau yn ôl yr angen.
•Rheoli gwaith a gweinyddiaeth yr Uned Rheoli Cefnffyrdd i sicrhau ei bod yn cyflawni holl gyfrifoldebau rôl Cynrychiolydd yr Adran ar gyfer contract DBFO yr A55 ym Môn.
•Cynrychioli’r Asiant ar Grwpiau Cenedlaethol, Rhanbarthol a Lleol sy’n delio â pholisïau, materion technegol, llywodraethu, cyllid a diogelwch fel sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru a/neu randdeiliaid eraill. Cynrychioli buddiannau’r Asiant yn gyffredinol, gyda phob rhanddeiliad, yn cynnwys y wasg a’r cyfryngau, ac mewn cyfarfodydd gyda, er enghraifft, Cynghorau Cymuned a grwpiau eraill â diddordeb.Polisïau a Gweithdrefnau
•Datblygu, gweithredu, monitro ac adolygu strategaethau, polisïau a safonau'r Asiant, i ddarparu gwasanaethau Cefnffyrdd yng ngogledd a chanolbarth Cymru, a chynrychioli’r Asiant ym mhob ymwneud â LlC a phob rhanddeiliad arall.Rheolaeth Gyllidebol
•Cyfarwyddo a rheoli rheolaeth cyllidebau'r Asiant i sicrhau y darperir gwasanaeth effeithiol, effeithlon a chyson ar gyfer rhwydwaith Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn gwbl unol â gofynion WGMAA a Gorchmynion Sefydlog a Rheoliadau Ariannol yr Awdurdod Arweiniol.Darparu Gwasanaeth
•Gweithio gydag Uwch Reolwyr LlC i ddatblygu, gweithredu a chynnal Strategaethau Rheoli Asedau ar gyfer pob agwedd ar y rhwydwaith cefnffyrdd a chyfrifoldebau yng ngogledd a chanolbarth Cymru.
•Arwain ar welliant parhaus, gan gynnwys datblygu, a dulliau arloesol o ymdrin â threfniadau darparu gwasanaeth, arferion gwaith, gweithdrefnau a gweithgareddau, er mwyn cynyddu effeithlonrwydd yn barhaus a lleihau costau yn unol â gofynion LlC.
•Gweithredu polisïau amgylcheddol i gefnogi lleihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â'r agenda newid hinsawdd.
•Datblygu a chynnal strategaeth gaffael gadarn, gynaliadwy, a rheoli caffael holl waith a gwasanaethau cefnffyrdd gogledd a chanolbarth Cymru gan ddefnyddio gweithdrefnau tryloyw ac effeithlon a sicrhau arloesedd a gwelliant parhaus yn effeithiolrwydd y gwasanaeth a gwerth am arian.
•Datblygu prosesau rheoli perfformiad ac adrodd cadarn ar gyfer pob maes darparu gwasanaeth, gan gynnwys prosesau archwilio priodol.
•Monitro perfformiad darparwyr gwasanaeth i gyrraedd targedau perfformiad a chymryd unrhyw gamau adferol angenrheidiol os bydd tangyflawni.
•Hwyluso a hyrwyddo cydweithio rhwng darparwyr gwasanaethau Awdurdod Partner gyda'r bwriad o rannu arfer gorau, gwella effeithlonrwydd gwasanaethau ac annog rhwydweithio ar y cyd.Digwyddiadau ac Argyfyngau
•Cynnal a datblygu strategaethau a gweithdrefnau i ymateb i argyfyngau ac i sicrhau cydweithrediad priodol â’r gwasanaethau brys, yr awdurdodau lleol ac asiantaethau a gwasanaethau eraill y Llywodraeth.
•Cynrychioli'r Asiant ar lefel Rheoli Aur wrth reoli digwyddiadau mawr.
•Goruchwylio rheolaeth a datblygiad y gwasanaeth Swyddog Traffig LlC, gan gynnwys swyddogaethau Ystafell Reoli NWTMC.
•Sicrhau bod yr Asiant yn delio'n briodol ag ymholiadau dydd i ddydd a brys.
•Cynrychioli'r Asiant yn y Gweithgor Diogelwch Trafnidiaeth Aml-asiant Cenedlaethol (MATSWG).Yr Uned Rheoli Cefnffyrdd
•Cymryd cyfrifoldeb terfynol am lesiant staff yr Uned Rheoli Cefnffyrdd, gan gynnwys anghenion hyfforddi a datblygu i gefnogi cynllunio olyniaeth o fewn yr Asiant.
•Sicrhau bod y sefydliad yn addas at y diben, a bod yn atebol am ei berfformiad wrth fodloni gofynion LlC.Systemau
•Sicrhau bod yr holl systemau busnes, ariannol, ansawdd a thechnegol angenrheidiol yn eu lle ar gyfer gweithrediad effeithiol yr Asiant ac yn unol â gofynion LlC.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.Iechyd a Diogelwch
•Cymryd cyfrifoldeb terfynol am weithredu deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch o fewn yr Asiant a sicrhau bod Iechyd a Diogelwch yn derbyn ystyriaeth lawn ym mhob agwedd o waith yr Asiant.
•Cyfrifoldeb am hunan-ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon LlC a'r Asiant yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon yr Asiant.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau Arbennig, e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
•Dechreuodd y WGMAA presennol ar 1 Ebrill 2012 ac mae'n destun proses adolygu 5 mlynedd.
•Bydd y Pennaeth Gwasanaeth i bob pwrpas yn gweithio i ofynion LlC fel y nodir yn y WGMAA ac a eglurir neu a ddiwygir o bryd i'w gilydd gan LlC.
•O dro i dro efallai y bydd angen gweithio y tu hwnt i oriau swyddfa arferol i ymateb i argyfyngau neu am resymau eraill.