Swyddi ar lein
Rheolwr Archwiliadau
£45,441 - £47,420 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-25785
- Teitl swydd:
- Rheolwr Archwiliadau
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Darparu ac Arolygu
- Dyddiad cau:
- 22/02/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £45,441 - £47,420 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS5
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Rheolwr Archwilio
CYFLOG: PS5 SCP 37-39 £45,411 - £47,420
LLEOLIAD: Halkyn, Bangor neu/or Llandrindod
(Trefn gweithio hybrid o gartref ar gael)
Rheoli tîm o tua 20 o staff mewnol a chadwyn gyflenwi ategol ehangach sy’n darparu archwiliadau diogelwch ac archwiliadau manwl o asedau Priffyrdd, gan gynnwys palmentydd, draenio, systemau atal cerbydau ac asedau geodechnegol ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Bydd Gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Thîm Gweithredol Rhwydwaith NMWTRA, bydd deiliad y swydd yn helpu NMWTRA i gyflawni ei rwymedigaethau statudol a chydymffurfio â’r holl safonau perthnasol, gan gynnwys DMRB a WGTRMM (Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru). Wrth wneud hynny, bydd deiliad y swydd yn ceisio datblygu arferion gweithio arloesol ac effeithlon.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol am y swydd uchod, cysylltwch, os gwelwch yn dda, gyda Mark McNamara ar 07833 400560
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn
Dyddiad Cau: 22/02/2024 am 10yb
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu gweithio yn ddiogel dan bwysau
Gallu cymell eich hun, bod yn frwdfrydig ac yn ymroddedig
Gallu gweithio a chyfrannu’n effeithiol fel aelod o dîm amlddisgyblaethol
Gallu gweithio heb lawer o oruchwyliaeth
Dangos blaengaredd personol a’r gallu i ddelio â phobl ar bob lefel mewn ffordd gwrtais a phroffesiynol
Sgiliau rhyngbersonol da
Gallu blaenoriaethu a gweithio dan bwysau a gallu delio â therfynau amser gwaithDYMUNOL
Gallu datrys problemau.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOLHANFODOL
Gradd mewn Peirianneg Sifil ynghyd â phrofiad perthnasol, neu
Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol ynghyd â phrofiad perthnasol helaeth
DYMUNOL
Aelodaeth Gorfforedig o gorff proffesiynol priodol
Cymhwyster City and Guilds, neu gymhwyster cyfatebol, mewn Archwilio Diogelwch Priffyrdd.
Cymhwyster Iechyd a Diogelwch
Gallu dangos Datblygiad Proffesiynol Parhaus cyson
Cymhwyster rheoliPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o Archwilio neu Gynnal a Chadw Priffyrdd
Profiad o ddefnyddio systemau rheoli data yn ymarferol.
Profiad o ddefnyddio amrywiaeth o galedwedd TG a rhaglenni meddalwedd.
Profiad o reoli tîmDYMUNOL
Profiad o weithio mewn swydd weithredol neu reoli asedau.
Profiad o roi systemau Gwerthuso Staff ar waith
Profiad o ddarparu gwasanaethau ar gyfer systemau ISO 9001 neu systemau rheoli eraill.SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a rhoi technegau rheoli risg ar waith
Sgiliau trefnu amlwg, y gallu i weithio heb fawr ddim goruchwyliaeth a'r gallu i flaenoriaethu llwythi gwaith sy'n cystadlu â'i gilydd.
Sgiliau cyfathrebu datblygedig iawn, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Gallu dangos sgiliau rhyngbersonol o safon uchel ac ysgogi tîm.
Gallu rheoli newid a bwrw ymlaen â datblygiadau newydd yn llwyddiannus.
Trwydded Yrru Gyfredol
Profiad o gasglu ac asesu dataDYMUNOL
Profiad o ddylunio a chynnal a chadw priffyrdd yn unol â Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (WGTRMM), y Llawlyfr Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd (DMRB), System Rheoli Gwaith Cynnal a Chadw Arferol yr Asiantaeth Priffyrdd (RMMS).
GOFYNION IAITHGwrando a siarad
Cymraeg yn ddymunol
Darllen a deall
Cymraeg yn ddymunol
Creadigol
Cymraeg yn ddymunol
Dylid nodi’r nodweddion a ddisgwylir gan ddeiliad y swydd. Dylid defnyddio'r rhain fel meini prawf asesu ar gyfer pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
PWRPAS Y SWYDD
1. Rheoli gofynion Gwasanaeth Archwilio’r Asiantaeth yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru i gyflawni dyletswyddau dan Adran 41 Dyletswydd i gynnal a chadw priffyrdd y gellir eu cynnal ar gost y cyhoedd ac Adran 58 Rhoi amddiffyniad arbennig ar waith yn erbyn awdurdod priffyrdd am iawndal am beidio â thrwsio priffordd Deddf Priffyrdd 1980.
2. Rheoli’r gwaith o roi gofynion Endid Archwilio Rheoliad 13 ar waith mewn perthynas ag asedau priffyrdd o dan Reoliadau Diogelwch Twneli Ffyrdd 2007 (fel y’u diwygiwyd 2009).
3. Rheoli’r gwaith o ddarparu Gwasanaeth Archwilio Asedau Priffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn unol â gofynion deddfwriaethol, prosesau Iechyd a Diogelwch yr Asiantaeth ac fel cleient dan D2.2 Pennod 8 Llawlyfr Arwyddion Traffig Rhan 1.
4. Cyfrannu at ddatblygu strategaethau Llywodraeth Cymru, WGTRMM, Systemau Rheoli Busnes yr Asiantaeth a sicrhau bod Gwasanaeth Archwilio’r Asiantaeth yn perfformio, ac y gellir ei archwilio, yn unol â gweithdrefnau’r Systemau Rheoli Busnes.
5. Rheoli’r gwaith o roi swyddogaethau archwilio a rheoli data ar waith a’u darparu gan ddefnyddio Systemau Rheoli Asedau Asiantaethau Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru, gan roi cyngor ar gyflwr asedau a rhaglenni gwaith i sicrhau y cyflawnir gwerth am arian.
6. Rheoli’r Gwasanaeth Archwilio amlddisgyblaethol mewnol a darparwyr allanol wrth ddarparu Archwiliad Diogelwch, Manwl ac Arbenigol o’r ased priffyrdd ac asedau cysylltiedig eraill i fodloni gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a’r Llawlyfr Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd.
7. Arwain y gwaith o ddatblygu a rhoi Llawlyfrau Archwilio, gweithdrefnau hyfforddi ac arcwilio cynhwysfawr ar waith ar ran yr Asiantaeth.
8. Rheoli’r gwaith o ddarparu’r holl gofnodion archwilio a chynnal a chadw gan yr Asiantaeth i systemau data Llywodraeth Cymru yn gywir ac yn amserol.
CYFRIFOLDEBAU DROS ADNODDAU (e.e. staff, cyllid, cyfarpar.)
- Cyfrifoldeb cyffredinol dros y staff, yr offer a’r cerbydau sy’n cynnwys y Timau Arolygu amlddisgyblaethol mewnol;
- Rheoli darparwyr gwasanaeth allanol (Awdurdodau Partner, ymgynghorwyr a chontractwyr yn y sector preifat);
- Rheoli data archwiliadau priffyrdd yng nghronfeydd data rheoli asedau Llywodraeth Cymru;
- Rheoli cyllidebau perthnasol.
PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOL
Gwasanaeth Archwilio Asedau Priffyrdd
• Arwain y gwaith o ddarparu Archwiliadau Diogelwch Priffyrdd a Phatrolau Diogelwch ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn canfod peryglon sy’n hollbwysig o ran diogelwch defnyddwyr priffyrdd.
• Datblygu a chreu’r holl raglenni archwilio i ddarparu gwasanaethau archwilio amlddisgyblaethol, gan sicrhau’r allbwn archwilio gorau posibl drwy weithgareddau ar y cyd a lleihau gofynion ar y ffyrdd.
• Hwyluso a chadeirio cyfarfodydd rheolaidd gyda chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a rheolwyr asedau ynghylch darparu Gwasanaeth Archwilio’r Asiantaeth.
• Arwain ar brosesau archwilio (gan gynnwys rhai arbenigol) yr Asiantaeth yn gysylltiedig â’r canlynol:
o Cerbytffyrdd, troedffyrdd a llwybrau beiciau ac ati
o Stydiau ffordd, marciau ffordd, ac arwyddion
o Goleuadau traffig ar ffyrdd
o Systemau atal ar y ffordd
o Systemau draenio
o Ystad feddal
o Systemau goleuadau stryd
o Seilwaith systemau trafnidiaeth deallus
o Strwythurau eilaidd
o Asedau geodechnegol
o Waliau ar ochr ffyrdd a ffensys terfyn
o Rhwystrau sŵn
o Rhai eraill a gytunir arnynt â Thîm Rheoli’r Asiantaeth a Llywodraeth Cymru.
• Cynorthwyo rheolwyr eraill yr Asiantaethau (e.e. strwythurau) fel y cytunwyd gyda Rheolwr yr Uned Darparu ac Archwilio.
• Arwain y Timau Archwilio sy’n cynnwys Peirianwyr Archwilio, Technegwyr Archwilio a Thechnegwyr Asedau.
• Arwain ar reoli risg ar gyfer y Timau Archwilio.
• Rheoli’r drefn o raglennu archwiliadau a’r dyraniadau tasgau i sicrhau bod Gwasanaeth Archwilio’r Asiantaeth yn cyd-fynd ag WGTRMM. Rheoli archwiliadau brys yn ôl yr angen.
• Goruchwylio rhwymedigaethau Darparwyr Archwiliadau Ymgynghorol wrth ddarparu Gwasanaethau Arolygu Arbenigol TRMM, ac adrodd ar berfformiad.
• Dylunio, creu a rheoli’r holl amserlenni archwilio ar gyfer rhwydwaith cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru ac asedau priffyrdd cysylltiedig.
• Rheoli’r data archwilio a gedwir yn systemau rheoli asedau Llywodraeth Cymru.
• Rheoli (fel Noddwr Prosiect neu’n uniongyrchol gydag Unedau Gweithredol Darparwyr Gwasanaeth) darpariaeth allanol contractwyr Rheoli Traffig i hwyluso’r gwaith o roi’r rhwydwaith ar waith yn ddiogel.
• Rheoli’r gwaith o ddarparu Gwasanaeth Archwilio cydlynol gan Asiantwyr drwy gyfathrebu’n rheolaidd â Rheolwyr Gweithrediadau Rhwydwaith Rhanbarthol, Rheolwyr Llwybrau a Rheolwyr Llwybrau Cynorthwyol, y Rheolwr Twnelau a’r Rheolwr Risg mewn perthynas ag archwiliadau priffyrdd.
• Arwain y gwaith o reoli Llawlyfr Archwilio Priffyrdd yr Asiantaeth i sicrhau bod Gwasanaeth Arolygu wedi’u cysoni ar draws darparwyr mewnol ac allanol gan roi gwybodaeth lawn am arferion archwilio.
• Arwain y timau Archwilio Priffyrdd a darparwyr allanol / rheolwyr awdurdodau partner i ganfod, asesu risg a chategoreiddio Categorïau TRMM 1, 2.1, 2.2, 2.3 yn gywir a diffygion lle nad ydynt yn cydymffurfio. Cynnal archwiliadau blynyddol o’r broses hon.
• Rheoli a chynnal archwiliadau mewnol o broses y Gwasanaeth Archwilio Priffyrdd. Cynnal neu reoli archwiliadau mewnol neu allanol ar gyfer darpariaeth gwasanaeth arall yr Asiantaeth fel y cytunwyd gyda Rheolwr yr Uned Darparu ac Archwilio.
• Cysylltu ag Uned Fusnes NMWTRA ynghylch y broses Archebion Gwaith a llunio, creu a rhoi ar waith adroddiadau perfformiad arbenigol ar y Gwasanaeth Archwilio, Cofnodion o ddiffygion, Archebion Gwaith a gwblhawyd a’r cyfnodau ymateb a gyflawnwyd. Dadansoddi adroddiadau perfformiad yn ôl y math o Ased, Awdurdod Partner a gwneud argymhellion ar gyfer gwella i Dîm Rheoli’r Asiantaeth. Nodi a rhoi gwybod i uwch reolwyr am ddiffyg perfformiad i hwyluso’r weithdrefn uwchgyfeirio yn ôl yr angen.
• Darparu adroddiadau ar gyfer Rheolwr Hawliadau Trydydd Parti’r Asiantaeth, Rheolwr Gwaith Stryd a’r Endid Archwilio Priffyrdd.
Rheoli Ariannol
Bod yn gyfrifol am reoli rhaglenni a chyllidebau priodol ar gyfer archwiliadau Diogelwch, Manwl ac Arbenigol o’r rhwydwaith cefnffyrdd ac asedau cysylltiedig fel y cytunwyd gyda Rheolwr Uned Cyflawni ac Archwilio’r Asiantaeth Tîm.
Rôl Noddwr Prosiectau
• Gweithredu fel Noddwr Prosiectau ar brosiectau fel y cytunir gyda Rheolwr yr Uned Darparu ac Archwilio. Yn rhinwedd y swydd hon, paratoi briff prosiect, adroddiad ar wariant a chadeirio cyfarfodydd cynnydd.
• Cynorthwyo Rheolwr yr Uned Darparu ac Archwilio i nodi, dylunio a darparu gofynion cynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith.
• Rheoli’r gwaith o gaffael gwasanaethau ymgynghorol yn unol â phrotocol comisiynu NMWTRA fel y nodir yn y Cytundeb Darparu Gwasanaeth ac yn unol â systemau Rheoli Prosiectau NMWTRA.
• Rheoli’r broses dendro o’r prosesau gwahodd a gwerthuso i’r prosesau adrodd.
• Gweithredu fel Cleient CDM ar brosiectau fel y cytunir gyda Rheolwr yr Uned Darparu ac Archwilio.
Systemau ar gyfer Rheoli Asedau
• Rheoli proses mewnbynnu data ar allbwn Patrolau Diogelwch, Archwiliadau Manwl ac Arbenigol ar Ddraeniau i’r IRIS / RMMS, gan gynnwys allbwn gan Dimau Archwilio darparwyr allanol. Mynd ati i ddatrys unrhyw broblemau sy’n ymwneud â TG.
• Helpu i sefydlu’r broses archebu gwaith yn IRIS/RMS/FMS a nodi a hwyluso’r gwaith o ddatrys unrhyw broblemau neu faterion TG.
• Cysylltu â staff eraill yr Asiantaeth a'u cynorthwyo (Gweithrediadau Rhwydwaith a Systemau Busnes) mewn perthynas â rheoli systemau rheoli asedau Llywodraeth Cymru (e.e. IRIS / RMMS / EDDMS Llywodraeth Cymru) a systemau SharePoint neu GiS yr Asiantaeth mewn perthynas â darparu gwasanaeth integredig, effeithlon ac effeithiol ar gyfer y meysydd canlynol:
o rheoli stocrestrau;
o caffael gwasanaethau e.e. Archebion Prynu neu Archebion Gwaith;
o dadansoddi data;
o adrodd i reolwyr Llywodraeth Cymru a’r Asiantaeth.
• Cysylltu â Rheolwr Systemau TG yr Asiantaeth ynghylch effeithiolrwydd gweithredol y caledwedd a’r systemau meddalwedd TG (systemau’r Asiantaeth a Llywodraeth Cymru) mewn perthynas â Gwasanaethau Archwilio Priffyrdd. Adrodd ar weithrediad a dibynadwyedd y systemau o ddydd i ddydd a gwneud argymhellion ar gyfer gwella.
• Monitro ac archwilio’r gwaith o redeg yr IRIS / RMMS i sicrhau bod NMWTRA yn storio ac yn archifo 6 blynedd o ddata Archwilio / Diffygion / Archebu Gwaith yn gywir ar unrhyw un adeg, neu fel sy’n ofynnol fel arall gan TRMM.
Cymorth Technegol a Rheoli
• Darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth technegol neu reoli i Reolwyr Busnes a Gweithrediadau Rhwydwaith yr Asiantaeth. Gall hyn gynnwys, ond nid yw wedi’i gyfyngu i’r enghreifftiau canlynol:
o rheoli archwiliadau neu arolygon ar asedau arbenigol ar gyfer Rheolwyr Asedau eraill;
o Rheoli systemau Cyfeirnodi Rhwydwaith Llywodraeth Cymru; cofnodion perchnogaeth tir,
o fel dogfennau wedi’u llunio,
o casglu data stocrestrau fel sy’n ofynnol gan WGTRMM,
o llunio adroddiadau technegol,
o Ymchwilio a datblygu cynlluniau busnes ar gyfer atebion arloesol er mwyn sicrhau’r effeithlonrwydd gorau wrth ddarparu gwasanaethau archwilio.
• Rheoli’r gwaith parhaus o adolygu a gwella prosesau, gweithdrefnau a pherfformiad yn gysylltiedig â’r gwasanaeth archwilio priffyrdd.
Cyffredinol
• Rheoli a chymell staff y Tîm Archwilio mewnol, gan gynnwys rheoli perfformiad y darparwr gwasanaeth a staff mewnol, gan nodi a hwyluso cyfleoedd hyfforddi, diogelwch a datblygu ar gyfer aelodau’r tîm a staff y darparwyr gwasanaeth er mwyn cyflawni targedau perfformiad.
• Goruchwylio a darparu arweiniad ar waith a wneir gan is-aelodau staff a delio â materion sy’n ymwneud â pherfformiad unigolion, e.e. disgyblu, cwynion, presenoldeb, neu faterion cyflogaeth eraill.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y cyngor. Sicrhau eich bod yn trin gwybodaeth bersonol gan gydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Cyfathrebu’n effeithiol ac yn ddiplomyddol gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru a sefydliadau a chyrff allanol eraill.
• Delio â chwynion ac ymholiadau mewn modd cwrtais a phroffesiynol pan fyddant ar y safle ac yn y swyddfa.
• Cydweithredu a chysylltu â staff o’r Cyngor ac Awdurdodau Partner er mwyn hyrwyddo rheolaeth effeithiol o’r Asiantaeth.
• Bod yn gyfrifol am hunanddatblygiad.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol a chymesur eraill sy’n cyfateb i lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd fel sy’n ofynnol gan y rheolwr llinell.
• Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau’r Cyngor mewn perthynas â chyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
• Sicrhau y cydymffurfir â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau a gweithdrefnau’r Cyngor mewn perthynas â chyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i brosesau asesu risg iechyd, diogelwch ac amgylcheddol ym mhob agwedd ar waith y Gwasanaeth Archwilio Priffyrdd.
• Cyfrifoldeb pob gweithiwr yn yr Asiantaeth yw cydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y diffinir yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiantaeth.
• Sicrhau bod polisïau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a deddfwriaeth a pholisïau amgylcheddol yn cael eu dilyn yn gywir.
• Ymgymryd cyfrifoldeb Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
• Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn ymwybodol o’r gofynion e.e. y ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithio â Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Cyngor i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gofynion perthnasol.
AMGYLCHIADAU ARBENNIG (e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gweithio arbennig ac ati.) Yr angen i weithio y tu allan i oriau gwaith arferol er mwyn bodloni gofynion y Gwasanaeth.
Gweithio yn ystod y nos o bryd i’w gilydd (e.e. pan fo twneli ar gau neu i gynnal asesiadau risg)
Mynd i gyfarfodydd mewn rhannau eraill o’r DU (e.e. Caerdydd).
Mae’r Disgrifiad Swydd uchod yn disgrifio prif bwrpas a phrif elfennau’r swydd. Mae’n ganllaw i natur a phrif ddyletswyddau’r swydd fel y maent ar hyn o bryd. Fodd bynnag, nid oes bwriad iddo fod yn amserlen gwbl gynhwysfawr neu barhaol ac nid yw’n rhan o’r Contract Cyflogaeth.