Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•I lywio rhaglen arddangosfeydd y celfyddydau gweledol a chodi ymwybyddiaeth o’r celfyddydau gweledol o fewn y sir.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am gytundebau gydag artistiaid a thâl comisiwn
•Cyfrifol am raglen waith y swyddog arddangosfeydd rhan amser
•Rheolwr llinell: Swyddog Arddangosfeydd
Prif ddyletswyddau
•Datblygu gwasanaeth celfyddydau gweledol yn unol a strategaeth y celfyddydau cain.
•Trefnu rhaglen orielau celf a chymunedol Storiel mewn cydweithrediad gyda Rheolwr Amgueddfeydd a’r Celfyddydau a’r Swyddog Arddangosfeydd
•Trefnu rhaglen arddangosfeydd celf gyda’r Llyfrgellydd Bro yn oriel canolfan Maenofferen, Llyfrgell Blaenau Ffestiniog
•Trefnu cytundebau gydag artistiaid a threfnu tâl comisiwn iddynt.
•Trefnu gweithdai celf lle bo angen, digwyddiadau ac ymweliadau addysgol yng nghyswllt arddangosfeydd a bod yn barod i siarad gyda grwpiau o'r cyhoedd a grwpiau ysgol.
•Cysylltu a chrefftwyr ag artistiaid a chreu banc o wybodaeth am gynhyrchwyr Gwynedd.
•Marchnata a chreu ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth celfyddydau gweledol a ddarparir gan y Gwasanaeth.
•Cynorthwyo'r Rheolwr Amgueddfeydd a’r Celfyddydau gyda cheisiadau grant.
•Cefnogaeth sylfaenol i arddangosfeydd orielau hanesyddol yn yr amgueddfeydd yn ddibynnol ar argaeledd ac amserlen rhaglen orielau
•Sicrhau cydymffurfiaeth gyda rheolau lechyd a Diogelwch o fewn orielau'r Gwasanaeth.
•Cynrychioli lle bo angen y Gwasanaeth mewn cyfarfodydd yn ymwneud â'r celfyddydau
gweledol.
•Dyletswyddau eraill cyfatebol yn ol y Rheolwr Amgueddfeydd a’r Celfyddydau
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-