Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Glanhau strydoedd, ffyrdd a tiroedd agored
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am gerbydau ac offer.
Prif ddyletswyddau
•Gyrru a bod yn gyfrifol am unrhyw gerbyd a ddefnyddir. Bydd y dyletswyddau yn cynnwys ymchwilio’r cerbyd, gwaith cynnal rheolaidd fel newid olew ac edrych ar y lefel dwr, glanhau strydoedd, tiroedd a ffyrdd eraill.
•I ymgymryd un ai fel unigolyn neu aelod o dim, dyletswyddau perthnasol i lanhau, casglu a gwaredu gwastraff, dail a chwyn ayyb o leoliadau agored (cynnwys ffyrdd palmentydd a chanolfannau siopa) Bydd y dyletswyddau yn cynnwys defnydd a gweithrediad o gyfarpar cysylltiol.
•Bod yn ymwybodol o ofynion Deddfau Iechyd a Diogelwch a chydweithio gyda Swyddog Iechyd a Diogelwch a Sicrwydd Ansawdd y Gyfadran i sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda’r gofynion Iechyd a Diogelwch perthnasol.
•Rhestr ddarluniol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn rhan o’r broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd a gweithredu ar unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â natur y swydd a’i graddfa yn unol â chais y Pennaeth Gwasanaeth/Rheolwr neu’r Cyfarwyddwr Strategol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau arbennig
•Fe fydd gwasanaeth glanhau ar wyliau banc ac fe fydd angen gweithio ar y diwrnodau hyn. Telir lwfans ychwanegol.
•Hefyd fe fydd gofyn am weithio goramser o dro i dro gan gynnwys dydd Sadwrn a dydd Sul.