Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud
•Cyfrannu’n sylweddol at brif nod yr Awdurdodau sef gofalu bod ein holl ddisgyblion yn cyflawni eu potensial llawn
•Cefnogi Rheolwr Cynhwysiad i sicrhau bod y Gwasanaeth yn cyflawni yw llawn potensial drwy arwain ar dasgau a phrosiectau penodol .
•Cyd-lynu gwelliannau yn unol a cyfarwyddyd Rheolwr Cynhwysiad.
•Dirprwyo i Rheolwr Cynhwysiad a chynrychioli’r Gwasanaeth yn unol ar angen
•Datblygu, arwain a rheoli ar brosiectau penodol o fewn y maes gwaith yn cynnwys cyfrifoldeb am gyllid, staff ac adrodd yn ôl y gofyn.Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Unrhyw gyllideb, Adnoddau a staff sydd yn gysylltiedig a grantiau
•Unrhyw gyllid wedi ddethol gan y Rheolwr Cynhwysiad
•Rheoli cytundebau yn ôl y gofyn gan gynnwys cytundebau safon Gwasanaeth gyda rhannau eraill o’r ddwy Awdurdod
Prif ddyletswyddau
•Sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol dros sicrhau presenoldeb ac ymddygiad da tra'n hyrwyddo lefelau uchel o gynhwysiant cymdeithasol a lles drwy werthusiad, cefnogaeth a, lle bo angen, ymyrraeth, yn enwedig i'n dysgwyr mwyaf agored i niwed a'r dysgwyr sydd yn blant mewn gofal
•Sicrhau bod anghenion dysgwyr sy'n agored i niwed yn cael eu diwallu'n llawn drwy waith y Tîm Cynhwysiant gyda phwyslais allweddol ar godi presenoldeb a lleihau gwaharddiadau.
•Sicrhau'r cymorth mwyaf priodol i atal dysgwyr bregus rhag cael eu heithrio a'r rhai sydd mewn perygl o anfodlonrwydd
•Cyfrannu yn effeithiol at sicrhau ansawdd darpariaeth addysgol ar gyfer disgyblion sydd yn derbyn cymorth gan y Gwasanaeth Cynhwysiad gan gynnwys y rhai mewn ysgolion prif ffrwd, Canolfan Cylchdro, Hybiau addysg ac Addysg heblaw mewn lleoliadau ysgol
•Cynllunio ,hwyluso a lle bo’n briodol cyfrannu at ddarparu rhaglenni hyfforddi effeithiol sydd a’r nod o godi safonau, datblygu arbenigedd athrawon, gwella presenoldeb a lleihau gwaharddiadau
•Darparu arweiniad a chymorth rheoli gweithredol i waith y Tîm Cynhwysiant a chefnogi ysgolion i leihau gwaharddiadau a defnydd effeithiol o'r polisi symudiadau a reolir
•Broceri cymorth arbenigol lle bo angen i atal gwaharddiadau disgyblion cynradd ac uwchradd.
•Sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi'n effeithiol ynghylch gwaharddiadau posib gyda'r bwriad o leihau lefel y gwaharddiadau
•Gweithredu prosesau ail-integreiddio effeithiol
•Cynrychioli’r Awdurdod Addysg yn ôl yr angen a sicrhau tegwch mewn cyfarfodydd lle trafodir disgyblion sydd mewn perygl o gael ei gwahardd yn barhaol.
•Cynrychioli’r Awdurdod Addysg yn ôl yr angen a chymryd cyfrifoldeb dros barhad addysg ddisgyblion sydd wedi ei gwahardd yn barhaol
•Darparu cymorth rheoli gweithredol i sicrhau bod addysg ddewisol yn y cartref (EHE) a Addysg y tu allan i'r ysgol yn briodol ac yn diwallu anghenion dysgwyr.
•Sicrhau bod continwwm o gefnogaeth i ymddygiad yn effeithiol ym mhob lleoliad dysgu yn yr Awdurdod.
•Darparu sicrwydd ansawdd cadarn o'r addysg a ddarperir i ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol yn bennaf yn yr hybiau CA3 /4
•Cydweithio ac ymgynghori rheolaidd gyda’r Uwch Seicolegydd Ymddygiad a Chynhwysiad ac y Swyddogion Ansawdd ADYaCH ar gyfer cynllunio ymyraethau addas ar gyfer y disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth
•Cyd-weithio gyda thimau eraill yn yr Adran i sicrhau dull cyd gysylltiedig o oruchwylio a rhannu data a gwybodaeth cyflawniad yn effeithiol ar draws y gwasanaeth a'r Adran fel y bo'n briodol.
•Cyfleu gweledigaeth a rennir sy'n hyrwyddo presenoldeb da a chyfraddau gwahardd isel wrth sicrhau lefelau uchel o gynhwysiant cymdeithasol a lles dysgwyr, yn enwedig i'n dysgwyr mwyaf agored i niwed a'r dysgwyr hynny sy'n derbyn gofal.
•Hyfforddi fel hyfforddwr ardystiedig yn y maes cynnal ymddygiad er mwyn darparu hyfforddiant mewn ysgolion ar draws yr ALl fel y bo'n briodol.
•Monitro gweithrediad arferion cyfyngol fel y bo'n briodol
•Cefnogi penderfyniadau ynghylch y dull sydd i'w weithredu ar gyfer ysgolion sy'n wynebu heriau, gan gyfeirio'n benodol at hyrwyddo presenoldeb da a lleihau gwaharddiadau wrth sicrhau lefelau uchel o gynhwysiant cymdeithasol a lles dysgwyr, yn enwedig i'n dysgwyr mwyaf agored i niwed a'r dysgwyr hynny sy'n derbyn gofal;
•Cynnal trefniadau gweithio agos gyda darpariaeth rheoli data yr Adran ac ysgolion
•Gweithredu polisïau, strategaethau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol sy'n hyrwyddo ac yn cyfrannu at gynhwysiant cymdeithasol ac addysgol disgyblion yn eu cymunedau
•Sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol
•Darparu cyngor a chymorth proffesiynol i ysgolion wella presenoldeb a lleihau gwaharddiadau plant a phobl ifanc.
•Cymryd cyfrifoldeb dirprwyedig dros reoli cyllidebau ariannol a ddyrannwyd gan sicrhau bod y tîm yn defnyddio'r adnoddau sydd ar gael i fodloni gofynion gwasanaeth mewn ffordd hyblyg a chreadigol
•Monitro ansawdd darpariaeth yr hybiau, a chymryd camau priodol i sicrhau gwelliannau drwy adolygu'r ddarpariaeth yn barhaus fel ei bod yn diwallu anghenion, o ansawdd uchel ac yn effeithlon, gan sicrhau bod fframweithiau ansawdd, cytundebau lefel gwasanaeth ar waith.
•Monitro a gwerthuso canlyniadau'r gwasanaeth yn barhaus yn erbyn safonau y cytunwyd arnynt, gan godi unrhyw faterion/problemau gyda'r Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiad
•Mynychu cyfarfodydd, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ,sy’n ymwneud a phresenoldeb, cynhwysiant a lles ar gais Rheolwr Cynhwysiad
•Gweithio’n Aml Asiantaethol-Sicrhau cyswllt gweithredol gyda sefydliadau addysgol a phartneriaid addysgol eraill.
•Bod yn Aelod rhagweithiol o banel disgyblion bregus bl11 a chyfrannu at yr agenda i leihau NEET’s.
•Arwain ar gynnal unrhyw ymarferion caffael a rheoli cytundebau
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-