Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Amcan y swydd yw cynorthwyo yn narpariaeth gwasanaeth gweinyddu pensiwn effeithiol ac effeithlon ar gyfer Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•-
Prif ddyletswyddau
•Gweithio’n uniongyrchol i’r Arweinydd Tim Systemau a Phrosiectau Arbennig, bydd deilydd y swydd yn cynorthwyo i sicrhau bod y systemau yn cyflawni eu swyddogaethau mewn dull amserol, cywir a chost effeithiol, a bod materion gyda darparwyr y system yn cael eu datrys, ac o dan gyfarwyddyd cyffredinol y Rheolwr Pensiynau sicrhau bod datblygiadau yn cael eu creu, gweithredu a’u cynnal yn gywir.
•Cynorthwyo gyda rheolaeth o ddydd i ddydd y system gweinyddu pensiynau a gwelliannau i'r system yn ogystal â chyfnewid data i-Connect, systemau hunanwasanaeth aelodau a sgrinio marwolaethau a gweinyddiaeth y Gronfa Ddata Genedlaethol a Dywedwch Wrthym Unwaith.
•Cynorthwyo i gynnal systemau gweinyddol cyfrifiadurol y Gronfa Bensiwn gan gynnwys ymchwilio, profi a monitro’n barhaus y modd y caiff systemau eu datblygu a’u huwchraddio er mwyn sicrhau bod y system yn cael ei defnyddio i’w llawn botensial.
•Cynorthwyo i gynnal safle we’r Gronfa Bensiwn.
•Cynnal y gwiriadau cyn-llwytho gwybodaeth a dderbyniwyd gan feddalwedd Cyflogres Cyflogwyr y Cynllun trwy gyfnewid data i-connect er mwyn sicrhau bod yr holl newidiadau a wneir o ran aelodaeth o’r cynllun a buddion Cyfartaledd Gyrfa mewn perthynas ag aelodau’r cynllun yn gywir.
•Cynnal adroddiadau gweithredol misol, gan gynnwys Cronfa Ddata Genedlaethol YG a chyhoeddi adroddiadau terfynu mewn perthynas â gofynion CThEM a datrys unrhyw ymholiadau o ganlyniad.
•Rheoli mynediad aelodau i’r system hunanwasanaeth aelodau i sicrhau cydymffurfiaeth a datrys unrhyw faterion sy'n deillio o hynny.
•Darparu adroddiadau i fonitro gwybodaeth sy'n weddill gan gyflogwyr i sicrhau bod dangosyddion perfformiad allweddol yn cael eu monitro'n effeithiol a'u bodloni yn unol â'r Cynllun Perfformiad a Gweithredu.
•Cynorthwyo gydag ymchwil, dadansoddi a datblygu system llif gwaith y Gronfa Bensiwn i sicrhau bod dangosyddion perfformiad allweddol yn cael eu monitro’n effeithiol a’u bodloni yn unol â’r Cynllun Perfformiad a Gweithredu.
•Cynorthwyo i hyfforddi a mentora staff y Gronfa Bensiwn yn briodol er mwyn sicrhau bod ganddynt ddigon o wybodaeth i gyflawni eu dyletswyddau i'r safon ofynnol er mwyn sicrhau bod llwythi gwaith a thargedau'n cael eu bodloni.
•Cynorthwyo gyda'r ymarferiad diwedd flwyddyn blynyddol a darparu data cywir ar gyfer pob prisiad tair blynedd o'r Gronfa Bensiwn.
•Cynorthwyo gyda gweithrediad cywir yr adolygiad Cynnydd Pensiynau blynyddol yn unol â'r Gorchmynion Cynyddu Pensiynau.
•Cynorthwyo gyda prosiectau arbennig e.e. dyfarniad McCloud neu Dashfwrdd Pensiynau.
•Cynorthwyo i weinyddu'r ymarfer Datganiad Buddion Blynyddol ar gyfer holl aelodau'r cynllun yn unol â gofynion datgelu.
•Cynorthwyo i ddarparu gwybodaeth ystadegol o ansawdd ac amserol, i'r Rheolwr Pensiynau, i sicrhau bod targedau cytundebau lefel gwasanaeth yn cael eu monitro a'u cyrraedd yn effeithiol ac ar gyfer gofynion Adroddiad Blynyddol ac Archwiliad y Gronfa Bensiwn.
•Cynnal gwybodaeth ymarferol gyfredol o ddeddfwriaeth pensiynau sy'n ymwneud ag aelodaeth o'r cynllun a chymhwysedd o fewn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•I weithio tu allan i oriau gweithio arferol y swyddfa yn ôl yr angen mewn achosion ble mae gwasanaeth a ddarparwyd gan yr uned mewn perygl.