Swyddi ar lein
Swyddog Amgylcheddol
£34,834 - £36,648 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-25590
- Teitl swydd:
- Swyddog Amgylcheddol
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Busnes a Statudol
- Dyddiad cau:
- 16/11/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £34,834 - £36,648 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S4
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Swyddog Amgylcheddol
CYFLOG: S4 (£34,834 - £36,648)
LLEOLIAD - un o’r swyddfeydd canlynol
Drenewydd (Powys), Llandrindod (Powys), Aberaeron (Ceredigion)
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rheoli ac yn gweithredu ystod o archwiliadau ystadau meddal, arolygon ecolegol, rhestr eiddo asedau amgylcheddol a gweithgareddau cynnal a chadw amgylcheddol ar gyfer y rhwydwaith Cefnffyrdd yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Matthew Allmark 07901 510 657
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon
Dyddiad Cau: 10.00yb, DYDD IAU, 16 Tachwedd 2023
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu gweithio mewn amgylchedd tîm
Yn ymroddgar ac â’r gallu i gymell ei hun
Sgiliau rhyngbersonol wedi’u datblygu’n dda
Yn gallu gweithio’n ddiogel dan bwysau
Gallu gweithio gyda goruchwyliaeth gyfyngedig
Sgiliau trefnu da
Gweithio oriau y tu allan i oriau arferol yn aml, yn ôl y gofynDYMUNOL
Gallu arwain a rheoli staff iau
Gallu ysgogi eraillCYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
HNC/HND/NVQ (Lefel 4) mewn pwnc yn ymwneud â pheirianneg a phum mlynedd o brofiad yn y diwydiant NEU Radd mewn pwnc yn ymwneud â'r amgylcheddDYMUNOL
Aelod o gorff proffesiynol perthnasol
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
Hyfforddiant rheoli
Cymhwyster ECDL mewn TG
Cynllun 12D(M7) Sector Priffyrdd Cenedlaethol - Rheolaeth Traffig
Achrediad LISS/CSCS priodolPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o archwiliadau ac arolygon amgylcheddolDYMUNOL
Profiad o ddefnyddio systemau rheoli asedau
Profiad o reoli prosiectau a chyllidebau
Ystod eang o brofiad mewn rheolaeth amgylcheddolSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu defnyddio Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GiS)
Gallu gweithio ar ei liwt ei hun ac fel rhan o dîm
Sgiliau cyfathrebu datblygedig iawn, ar lafar ac yn ysgrifenedig
Sgiliau trefnu da
Creadigrwydd a sgiliau datrys problemau
Gallu addasu’n gyflym i sefyllfaoedd sy’n newid
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch berthnasol
Trwydded Yrru ddilys gyfredol
Sgiliau TG, defnyddio rhaglenni Microsoft Office gan gynnwys Word ac ExcelDYMUNOL
Profiad o weithio o fewn deddfwriaeth berthnasol
Gallu adnabod blaenoriaethau o fewn rhaglenni gwaith
ANGHENION IEITHYDDOL
DYMUNOLGwrando a Siarad - Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Rheoli a gweithredu rhaglen dreigl o archwiliadau stadau meddal ac arolygon ecolegol ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd.
• Rheoli rhestr eiddo stadau meddal ac adnabod asedau ecolegol.
• Rheoli gweithgareddau cynnal a chadw sy’n gysylltiedig â rheolaeth stadau meddal ac amgylcheddol sydd wedi’u rhaglennu, sy’n arferol ac sy'n rhagweithiol.
• Bodloni rhwymedigaethau ACGCC dan Adran 41, “Duty to maintain highways maintainable at public expense" ac Adran 58 "Special defence in action against a highway authority for damages for non-repair of Highway" Deddf Priffyrdd 1980.
• Cynorthwyo’r Cydlynydd Amgylcheddol ac Ecolegwyr i weithredu gofynion deddfwriaeth amgylcheddol a pholisi Llywodraeth Cymru (LlC).Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Rheoli darparwyr gwasanaethau allanol, partneriaethau a rhanddeiliaid
• Rheoli Swyddogion Amgylcheddol Cynorthwyol (1 person) - ynglŷn ag achos busnes gyda Llywodraeth Cymru
• Rheoli archwiliadau a chyllidebau cynnal a chadw amgylcheddol perthnasol
• Cerbyd
• Camera
• Ysbienddrych
• Tabled / gliniadur
• Ffôn symudol
• Cronfeydd data rheoli asedau amgylcheddol Llywodraeth Cymru
Prif Ddyletswyddau.
Rheolaeth• Dirprwyo i’r Ecolegydd neu'r Cydlynydd Amgylcheddol pan fo'r angen.
• Rheoli darparwyr gwasanaeth allanol (ymgynghorwyr / dylunwyr fel Noddwr Prosiect a chontractwyr).
• Rheoli perthnasau a chysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid amgylcheddol.
• Cynorthwyo a chynghori'r tîm Amgylchedd a Llywodraeth Cymru ynglŷn â gwelliannau i reolaeth bioamrywiaeth, tirwedd neu amgylcheddol.Swyddogaeth Archwilio
• Cynorthwyo i reoli archwiliadau amgylcheddol gan gynnwys stadau meddal ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn unol â gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (WGTRMM) a systemau rheoli asedau Llywodraeth Cymru.
• Cynnal neu gynorthwyo gydag archwiliadau ar gyfer mathau eraill o asedau priffyrdd e.e. ffiniau priffyrdd neu wahanfuriau amgylcheddol / sŵn pan fo'r angen.
• Ennill arbenigedd mewn defnyddio’r system cyfeirio rhwydwaith drwy ddeall system link-section-node y System Rheoli Cynnal a Chadw Ffyrdd (RMMS) a'r ddogfennaeth a reolir gan y tîm Archwilio.
• Adnabod, asesu risg a blaenoriaethu diffygion asedau, chwyn niweidiol, rhywogaethau ymledol ac afiechydon planhigion.
• Cynorthwyo'r Swyddogion Coedyddiaeth i arolygu a rheoli coed peryglus dan a154 Deddf Priffyrdd a'r gronfa ddata rheoli coed pan fo'r angen.
• Rhaglennu a chynnal arolygon perthnasol (cylchol, ymatebol) i gydymffurfio ag WGTRMM.
• Hysbysu tîm Amgylchedd, tîm Gweithrediadau a thimau Rheoli Llwybrau ACGCC cyn gynted ag y bo’n ymarferol i alluogi i ddiffygion Categori 1 WGTRMM gael eu 'gwneud yn ddiogel'.
• Cysylltu gyda pherchnogion tir neu sefydliadau rhanddeiliaid (e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru [CNC] neu awdurdodau lleol) ynglŷn â materion amgylcheddol a leolir gerllaw'r gefnffordd.
• Cynorthwyo’r Heddlu, cyrff gorfodi a'r tîm Hawliadau Trydydd Parti drwy ymchwilio i honiadau llygredd, difrod neu aflonyddwch i ecosystemau neu rywogaethau a warchodir.Swyddogaeth Arolwg Ecolegol ac Amgylcheddol
• Cynorthwyo i reoli archwiliadau ecolegol ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn unol â gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (WGTRMM) a systemau rheoli asedau Llywodraeth Cymru.
• Trefnu arolygon a rheoli cofnodion ar gyfer rhywogaethau a warchodir, peillyddion a chysylltu gyda chyrff allanol, e.e. www.cofnod.org.uk
• Cynorthwyo a chysylltu gydag Uned Cyflawni ac Archwilio ACGCC neu eraill ynglŷn ag arolygon ecolegol gofynnol fel rhan o brosiectau gwella cyfalaf e.e. archwilio safle am Lysiau'r Dial.
• Trefnu arolygon ecolegol arbenigol gan gadwyn gyflenwi ACGCC e.e. arolygwyr ystlumod trwyddedig.
• Trefnu arolygon amgylcheddol arbenigol gan gadwyn gyflenwi ACGCC e.e. monitro / profi ansawdd dŵr neu ddarganfod llygredd i fodloni gofynion Rheoliadau Amgylchedd y Dŵr (Cyfarwyddeb Fframwaith y Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2003.Swyddogaeth Cynnal a Chadw a Gwella
• Rheoli caffael, comisiynu a gweithrediad swyddogaethau cynnal a chadw sy’n gysylltiedig â stadau meddal sydd wedi’u rhaglennu, sy’n arferol ac sy'n rhagweithiol, er enghraifft:
o Rhaglen flynyddol ar gyfer rheoli rhywogaethau ymledol a chwyn niweidiol (yn unol â Deddf Chwyn 1959).
o Mesurau lliniaru llygredd er mwyn gweithredu Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009.• Cynorthwyo a darparu cefnogaeth rheoli mewn argyfwng i'r gwasanaethau brys ac ACGCC pan fo digwyddiad llygru.
• Rheoli atgyweiriadau diffygion a swyddogaethau cynnal a chadw arferol o fewn cyllidebau sydd ar gael ac o fewn cyfyngiadau arwynebedd ffordd.
• Darparu cefnogaeth i dimau a chadwyn gyflenwi ACGCC i reoli risgiau o niwed neu aflonyddwch i ecosystemau yn enwedig wrth weithredu'r Llawlyfr Dogfennau Contract ar gyfer Gwaith Priffyrdd (MCHW) Cyfres 3000 Tirwedd ac Ecoleg.
• Cefnogi Cydlynwyr Amgylcheddol ac Ecolegwyr i gyflawni amcanion bioamrywiaeth a mentrau Gweinidogol Llywodraeth Cymru (e.e. Coridorau Gwyrdd) i fodloni gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 .
• Cynorthwyo i reoli Cronfa Ddata Risg Amgylcheddol ACGCC.Swyddogaeth Rhestr Eiddo
• Cynnal archwiliadau ac arolygon i greu gwybodaeth rhestr eiddo stadau meddal gan fanylu ar asedau newydd a phresennol yn unol ag WGTRMM gan gynnwys coetiroedd, glaswelltiroedd, cyrff dwr, ardaloedd mwynderau, asedau bioamrywiaeth (megis blychau ystlumod, twnneli moch daear, hibernacula). Mae data’r arolwg i gael ei gofnodi mewn systemau rheoli asedau LlC.
• Cynnal archwiliadau ac arolygon i greu gwybodaeth rhestr eiddo ecolegol gan fanylu ar asedau stadau meddal newydd a phresennol yn unol ag WGTRMM. Mae data’r arolwg i gael ei gofnodi mewn systemau rheoli asedau LlC.
• Cynorthwyo AGCCC i reoli gwybodaeth asedau tir a ffiniau priffyrdd drwy ddefnyddio Systemau Gwybodaeth Daearyddol.Cyffredinol
• Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a ymgymerir gan ddarparwyr gwasanaeth.
• Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill.
• Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol ar y safle neu yn y swyddfa.
• Cydweithredu a chysylltu â staff o Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac Awdurdodau Partner er mwyn hyrwyddo rheolaeth effeithiol o'r ACGCC.
• Bod yn gyfrifol am hunanddatblygiad.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol a rhesymol eraill sy’n gymesur â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd ar gais y rheolwr llinell.
• Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.Iechyd a Diogelwch ac Amgylcheddol
• Cydymffurfio ag agweddau iechyd a diogelwch y tîm archwilio, yn cynnwys rheoli risg drwy gydymffurfio â systemau gwaith diogel wedi’u sefydlu ac asesiadau risg gweithredol er enghraifft.
• Sicrhau yr ystyrir prosesau asesu risg iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yn llawn ym mhob agwedd o waith y gwasanaeth amgylcheddol megis rheoli traffig.
• Mae holl staff yr Asiant yn gyfrifol am gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiant.
• Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
• Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
• Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn ymwybodol o’r gofynion e.e. deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithredu gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion perthnasol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Y gofyn i weithio oriau y tu allan i oriau gwaith arferol (rhwng 08:00 a 18:00 yn unol â'r cynllun oriau hyblyg) yn ôl y gofyn, er enghraifft archwiliadau gyda’r nos ac / neu ar benwythnosau o fewn rheoli traffig.
• Gofyniad i ddeilydd y swydd ymgymryd â hyfforddiant yn ôl y gofyn.
• Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill yn y DU yn achlysurol (e.e. Llandrindod, Caerdydd).