Pwrpas y Swydd.
• Cynnig rhaglen ymgysylltu a dysgu cyffroes ar themau ddiwylliant, treftadaeth a chelfyddydau yn Storiel ac mewn cymunedau ar draws Wynedd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Cyfrifoldeb am fonitro cyllidebau gweithgareddau’r prosiect
Prif Ddyletswyddau. .
• Ymchwilio i, ddatblygu, trefnu, hyrwyddo a gweithredu rhaglenni ymgysylltu a dysgu anffurfiol i’r gymuned sy’n canolbwyntio ar ddiwylliant, treftadaeth a chelfyddydau yn unol â blaenoriaethau Cynllun Cronfa Ffyniant Cyffredin; Cynllun Cyngor Gwynedd; Cynllun Busnes Storiel; amcanion “Cyfuno” ; Deddf Llesiant cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015)
• Cynnal gweithgareddau diwylliannol, treftadaeth a chelfyddydol gyda’r gyllideb sydd wedi’i osod.
• Marchnata a chyfathrebu gwaith y prosiect a’r safleoedd i’r cyhoedd ac adnabod unrhyw gyfleoedd o ddiddordeb e.e. gwyliau a sefydliadau cenedlaethol i gyd-farchnata gweithgareddau ee Kids in Museums / Diwrnod Miwsig Cymru / Fun Palace ayyb
• Drwy’r rhaglenni a’r gweithgareddau cynyddu’r niferoedd sydd yn ymgysylltu a derbyn cyfleoedd
• Cyfrannu at y drafodaeth gyda swyddogion Addysg Gwasanaeth Archifau ac Amgueddfeydd a sut gall Storiel gyfrannu at y Cwricwlwm Newydd i Gymru
• Cysylltu’n effeithiol, fel y pwynt cyswllt cyntaf, gyda grwpiau cymunedol, unigolion, asiantaethau cyhoeddus a sefydliadau eraill er mwyn cyflwyno’r rhaglenni ymestyn i’r gymuned.
• Gweithio gyda thîm Storiel a Chelfyddydau Cymunedol i adnabod cyfleoedd gydweithio; at ymchwilio a chynnal arddangosfeydd a phrosiectau yn y gymuned, yn lloerennau Storiel ac ar wefannau.
• Trefnu gweithgareddau Cyfuno
• Rhannu cyngor, gwybodaeth ac arweiniad gyda chymunedau a sefydliadau perthnasol ynglŷn â rhaglenni ymestyn i’r gymuned sy’n canolbwyntio ar ddiwylliant, celfyddydau a threftadaeth. ·
• Cydweithio a rhoi mewnbwn i’r cynlluniau i ddatblygu Rhwydwaith Diwylliannol a Chynllun Diwylliant i Wynedd.
• Ymchwilio i grantiau i gefnogi’r gweithgareddau i’r dyfodol.
• Cyfrifoldeb dros oruchwylio grwpiau o blant, pobl ifanc, oedolion bregus a’r cyhoedd yn gyffredinol mewn gweithgareddau dysgu anffurfiol.
• Monitro, casglu adborth, data ac ystadegau a gwerthuso’r gweithgareddau a’r rhaglenni gan gadw bas data o astudiaethau achos. Angen adrodd yn benodol ar allbynnau a gwerthusiad Cronfa Ffyniant Cyffredin a Cyfuno.
• Cyfrannu at adroddiadau monitro’r cynllun gan baratoi adroddiadau cynnydd yn rheolaidd a monitro ac adrodd ar wariant y gyllideb gweithgareddau.
• Bod yn rhan o dîm Storiel ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Angen bod ar gael o Tachwedd/Rhagfyr 2023 at ddiwedd Rhagfyr 2024
Swydd 37 awr yr wythnos
Gweithio penwythnosau, gwyliau banc a gyda’r nos yn ôl yr angen.
Cyllidir y swydd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.