Pwrpas y Swydd
1.Arwain y Tîm Cyflawni Ynni gan gynnwys rheoli staff, cyflawni y gronfa Ynni Lleol Blaengar, cyflawni y Strategaeth Ynni Lleol a’r Cynlluniau Ynni Ardal Lleol.
2.Rheoli a chyflwyno'r prosiectau a neilltuwyd o fewn amgylchedd rhaglen gan gynnwys sefydlu, lansio ac gweithredu y Gronfa Ynni Lleol Blaengar gwerth £25m.
3.Datblygu achosion busnes ar gyfer yr holl brosiectau/ffrydiau gwaith a neilltuwyd;
4.Cyflawni deilliannau a thargedau'r prosiectau/ffrydiau gwaith unigol a'r rhaglen gronnus ar amser ac o fewn yr adnoddau sydd wedi'u neilltuo;
5.Cydlynu prosiectau ac elfennau rhyng-ddibynnol ar draws y rhaglen a phortffolio ehangach y Cynllun Twf.
6.Arwain ar ymgysylltiad rhanddeiliaid ar gyfer y Tîm Cyflawni Ynni gan weithio ar y cyd gyda phartneriaid ar gyfer cyflawni yr amcanion a buddion.
Cyfrifoldeb am swyddogaethau (e.e. staff, cyllidebau, offer)
•Rheolaeth llinell y Tîm Cyflawni Ynni gan gynnwys tri swyddog prosiect.
•Rheoli cyllidebau'r prosiect, monitro gwariant a chostau yn erbyn allbynnau'r prosiect a gyflawnwyd ac a wireddwyd a buddion ehangach y rhaglen.
•Rheolaeth matrics o staff ac adnoddau ar draws timau gan gynnwys dyrannu a rheoli gwaith.
•Bod yn gyfrifol am offer perthnasol yn cynnwys gliniaduron a ffonau symudol
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Ynni Carbon Isel a Chynllunio Ynni Ardal Leol
•Arwain ar gyflawni'r Cynllun Gweithredu ar gyfer y Strategaeth Ynni Ranbarthol
•Rheoli datblygiad a mabwysiadu Cynlluniau Ynni Ardal Leol ar draws Gogledd Cymru
•Adnabod a chreu ceisiadau ar gyfer cyfleoedd ariannu sy'n gysylltiedig ag Ynni yn ôl yr angen
•Goruchwylio ac arwain datblygiad Achosion Busnes Llawn ar gyfer Prosiectau Ynni
•Rheoli a chyfrannu at Fyrddau Prosiect / Rhaglen Ynni perthnasol yn ôl yr angen
•Gweithio gyda rhanddeiliaid rhanbarthol allweddol, partneriaid a llywodraethau i sicrhau bod y Prosiectau a Rhaglen Ynni yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus
•Sefydlu perthnasau gyda hybiau a rhaglenni trawsffiniol i gefnogi nodau strategol a manteisio ar gyfleoedd buddsoddi ar y cyd
•Cefnogi'r gwaith o gyflawni rhaglen a phrosiectau Ynni Carbon Isel Gogledd Cymru.
Cronfa Ynni Lleol Blaengar
•Rheoli sefydlu, lansio a chyflawni'r gronfa yn unol a’r Cynllun Rheoli'r Gronfa a'r Strategaeth Buddsoddi
•Arwain ar farchnata a hyrwyddo'r gronfa yn unol â'r strategaeth farchnata
•Ymgymryd â rheoli a hwyluso cytundeb allanol Ymgynghorydd Cronfa o ddydd i ddydd
•Cynyddu penderfyniadau a materion i'r byrddau perthnasol a chefnogi prosesau llywodraethu a penderfyniadau buddsoddi
•Monitro cynnydd a pherfformiad y portffolio a chyflawni buddion gwireddu'r buddsoddiadau
•Sefydlu perthnasoedd â rhanddeiliaid rhanbarthol i fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer cydweithio, cyd fuddsoddiadau a sicrhau'r buddion lleol mwyaf posibl.
Rheoli Prosiect
•dylunio prosiectau/ffrydiau gwaith niferus a chwblhau, negodi a chytuno ar achosion busnes o fewn y rhaglen(ni) sydd wedi'u neilltuo
•rheoli nifer o brosiectau/ffrydiau gwaith cymhleth drwy'r cyfnodau cymeradwyo a gweithredu yn unol a fframwaith rheoli prosiect Uchelgais Gogledd Cymru
•sicrhau ansawdd yr holl waith prosiect/ffrydiau gwaith
•darparu cefnogaeth broffesiynol, gan gynnwys sicrhau ansawdd, i brosiectau eraill o fewn portffolio ehangach y Cynllun Twf
Rheoli Rhaglen
•cefnogi'r gwaith o gydlynu a goruchwylio systemau a disgyblaethau rheolaeth rhaglen i safon y diwydiant;
•cydlynu a rheoli'r rhyng-ddibyniaethau ar draws rhaglenni a phrosiectau ar y cyd
Rheoli Pobl
•Rheolaeth llinell ar gyfer y tîm prosiect sy’n cynnwys dau swyddog prosiect
•Rheoli ymgynghorwyr a chynghorwyr allweddol sy’n cefnogi’r ffrydiau gwaith
Llywodraethu Rhaglenni a Chontractau
•negodi a rheoli contractau
Rheoli Adnoddau
•rheoli cyllidebau a grantiau prosiectau refeniw a chyfalaf
•gwneud y defnydd gorau a mwyaf effeithiol o adnoddau wrth gyflwyno prosiectau
•cyflawni unrhyw dargedau incwm a masnachol sydd wedi'u gosod
Rheoli Perfformiad a Risg
•rheoli perfformiad ac atebolrwydd ar lefelau allbynnau prosiectau/ffrydiau gwaith
•rheoli risg ac atebolrwydd ar lefelau allbynnau prosiectau/ffrydiau gwaith
Adrodd ac Atebolrwydd
•adrodd ar gynnydd a pherfformiad i randdeiliaid allweddol
•adrodd ar gynllunio a rheoli adnoddau yn ôl yr angen
•sicrhau ansawdd yr holl adroddiadau data a pherfformiad
•gweithredu fel ymgynghorydd arbenigol sy'n ennyn ymddiriedaeth o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio
Llysgenhadol
•gweithredu fel lladmerydd dros y Weledigaeth Twf a'r rhanbarth
•datblygu a rheoli perthnasau allanol effeithiol ar bob lefel
•rheoli cyfathrebu allanol a chysylltiadau cyhoeddus y prosiectau/ffrydiau gwaith
Cydymffurfiaeth ac Ymddygiad
•gweithio i'r holl bolisïau a gweithdrefnau sydd wedi'u gosod a'r gyfraith e.e. ariannol, cydraddoldeb ac iechyd a diogelwch
•arddangos y safonau uchaf o ymddygiadau a gwerthoedd proffesiynol yn unol a gwerthoedd sefydliadol Uchelgais Gogledd Cymru