Pwrpas y Swydd.
Cydlynu materion amgylcheddol ar gyfer Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, ac ar ran Llywodraeth Cymru (LlC), i sicrhau bod materion o’r fath yn cael ystyriaeth ddyledus ym mhob agwedd o waith yr Asiant.
Cyfrifoldeb am Adnoddau e.e. staff, cyllidebau, offer
Cyfrifol am ddatblygu a chynnal systemau rheoli amgylcheddol ar ran yr Asiant.
Cyfrifol am gyllidebau sy’n ymwneud â rheoli ystâd feddal y cefnffyrdd a rhaglenni rheolaeth amgylcheddol eraill.
Cyfrifol am gysylltu a gweithio gydag eraill yn y Tîm Amgylcheddol a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â materion amgylcheddol ar y rhwydwaith cefnffyrdd.
Cyfrifol am eitemau o offer amgylcheddol gan gynnwys gliniadur, ffôn symudol, gwybodaeth rheoli asedau Llywodraeth Cymru ac offer arolygu.
Prif Ddyletswyddau .
Arwain ar gydlynu materion amgylcheddol ar gyfer yr Asiant yn rhanbarth Canolbarth Cymru.
Rheoli ystâd feddal y cefnffyrdd, a sicrhau fod agweddau amgylcheddol yn cael ystyriaeth ddilys yn holl weithgareddau’r Asiant.
Datblygu, gweithredu a chynnal rhestr o ystâd feddal y cefnffyrdd, ynghyd â system reoli briodol i sicrhau rheolaeth amgylcheddol effeithiol yn unol â gofynion LlC.
Bod yn ymwybodol, ac yn gwbl gyfarwydd â deddfwriaeth amgylcheddol a chysylltiedig bresennol ac yn y dyfodol, cynghori staff LlC fel sy’n briodol a chydlynu unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol.
Caffael, rheoli a goruchwylio ymgynghorwyr a chontractwyr arbenigol amgylcheddol ar faterion cefnffyrdd.
Datblygu, gweithredu a chynnal calendr a rhaglen waith amgylcheddol ar gyfer yr Asiant yn unol â gofynion LlC, ac ystyried gofynion penodol dogfennau megis Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC (WGTRMM), Llawlyfr Dogfennau Contract am Waith Priffyrdd (MCHW), Cynllun Sector Priffyrdd Cenedlaethol (NHSS) 18 a’r Llawlyfr Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd (DRMB)
Cynorthwyo'r PG a'r ME gyda datblygu a gweithredu strategaeth CC yr Asiantaethau
Rheoli Swyddogion amgylcheddol a hyfforddeion
Cynorthwyo i ddatblygu System Rheoli Ansawdd ar gyfer yr Asiant, ac yn benodol, arwain a chynghori ar sicrhau cydymffurfiaeth â ISO 14001, Systemau Rheoli Amgylcheddol, yn unol â gofynion Cytundeb Asiant Rheoli Llywodraeth Cymru (WGMAA).
Cynghori a chysylltu ag Awdurdodau Partner o ran materion amgylcheddol gyda’r bwriad o harmoneiddio trefniadau ledled yr Asiant ac ar draws yr holl weithrediadau a gweithgareddau.
Cynorthwyo’r Timau Rheoli Llwybr, Technoleg a Chyflwyno ac eraill i ddatblygu prosesau a rhaglenni gwaith priodol, gyda’r nod o sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i faterion amgylcheddol.
Galluogi a gweithredu rhaglenni rheoli amgylcheddol â blaenoriaeth barhaus ar gyfer rhwydwaith cefnffyrdd yr Asiant, cynorthwyo â’r briff, dyraniad, proses y bid a rheoli cyllidebau fel sy’n briodol.
Bod yn gyfrifol am sicrhau fod unrhyw hyfforddiant angenrheidiol ar faterion amgylcheddol yn cael ei drefnu ar gyfer staff yr Asiant a’r Awdurdodau Partner fel sy’n briodol.
Sefydlu trefniadau i sicrhau fod gan yr Asiant fynediad at ymgynghorwyr a chontractwyr amgylcheddol arbenigol yn ôl yr angen.
Sicrhau y bodlonir gofynion adrodd amgylcheddol LLC.
Ar ran yr Asiant, darparu mewnbwn amgylcheddol wrth adolygu polisïau a safonau sy’n berthnasol i fusnes yr Asiant, a sefydlu a monitro targedau perfformiad yn ôl yr angen.
Rhoi cyngor ar gyfeiriad a chynnwys dogfennau amgylcheddol ac eraill a gynhyrchir o ran gweithrediad a gwelliant rhwydwaith cefnffyrdd gogledd a chanolbarth Cymru yn ôl yr angen.
Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
• Mae pob gweithiwr yn yr Asiant yn gyfrifol am gydymffurfio â pholisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel sydd wedi’u diffinio yn System Reoli Busnes Integredig yr Asiant.
• Sicrhau y glynir yn gaeth at Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a deddfwriaeth a pholisïau amgylcheddol.
• Ymgymryd â’r cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
Cyffredinol
Ymgysylltu fel sy’n briodol â swyddogion yr Asiant, Swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.
Meithrin diwylliant o arloesi a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol, cytundebol ac eraill yn y diwydiant, gan gynnwys dulliau newydd, gyda’r nod o fabwysiadu arferion gorau ble bo hynny’n briodol.
Cynorthwyo a chefnogi’r Tîm Amgylcheddol. Darparu cefnogaeth i swyddogion eraill yr Asiant wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
Cynrychioli buddion yr Asiant yn gyffredinol mewn cyfarfodydd â budd-ddeiliaid.
Dyletswyddau rheoli, gweinyddol, technegol a phroffesiynol sy’n cyfateb â statws y swydd.
Cyfrifol am hunan-ddatblygiad.
Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith yn unol â’r cyfrifoldebau sydd wedi’u nodi yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Gweithredu o fewn polisïau a gweithdrefnau’r Cyngor mewn perthynas â chyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Cyfrifol am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
Dim ond amlinelliad yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeilydd y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â chais rhesymol y Rheolwr Llinell.
Amgylchiadau Arbennig e.e. yr angen i weithio yn ystod oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, ac ati.
• Parodrwydd i weithio oriau achlysurol y tu allan i’r oriau gwaith arferol (08:00 i 18:00 awr) fel bo’r angen.
• Cynorthwyo Rheolwr y Rhwydwaith i ymdrin ag argyfyngau os bydd angen.
• Ymweld â safleoedd adeiladu.
• Mynychu cyfarfodydd mewn rhannau eraill o’r DU (e.e. Conwy, Caerdydd).