Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Bydd y Swyddog Monitrol a Cyllid yn gweithio o fewn y tim Cefnogi Pobl. Bydd y swyddog yn cefnogi datblygiad gweithrediad y Cynllun Gwydnwch CYmunedol (SPF) gan gefnogi’r rheolwr i sicrhau fod allbynnau’r targed yn cael ei gyrraedd a fod yn prosiect yn rhedeg ym esmwyth.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyllidebau penodol a ddyrannir i'r prosiect
• Offer personol (Offer TG, ffôn symudol, ac ati)
Prif Ddyletswyddau. .
• Sefydlu, datblygu a chynnal systemau cofnodi mewn perthynas â chyllideb a gweithgareddau'r prosiect.
• Sefydlu, datblygu a chynnal systemau cofnodi mewn perthynas a gweithgareddau a chyllidebau’r partneriaid
• Cyfrifoldeb am ddarparu data perfformiad a helpu efo hawliau ariannol a thystiolaeth
• Cynnal systemau rheoli ariannol
• Monitro cyllideb y rhaglen yn unol â phroffiliau
• Sicrhau addasrwydd ariannol a sicrwydd ansawdd trwy reoli cyllideb.
• Creu a pharatoi adroddiadau ariannol i'r Rheolwr Prosiect a’r bwrdd prosiect
• Darparu gwybodaeth am fanylion ariannol o ran ceisiadau am arian / grant.
• Paratoi a darparu adroddiadau ariannol i noddwr y rhaglen
• Darparu gwasanaeth gweinyddiaeth gyllidol i'r tîm - archebion, anfonebu, trosglwyddiadau, hawliadau costau teithio, arian mân a'r holl gyfarwyddiadau ariannol eraill.
• Gweithredu fel pwynt cyswllt y rhaglen mewn perthynas ag archwilio, ac adroddiadau blynyddol.
• Sefydlu a chynnal systemau monitro ar gyfer allbynnau a chanlyniadau'r rhaglen.
• Cofnodi llwyddiannau'r rhaglen yn unol â’i dangosyddion, targedau, mesuryddion perfformiad a chanlyniadau, gan gasglu astudiaethau achos a ffurflenni bodlonrwydd cwsmer.
• Darparu gwybodaeth ac adroddiadau i'r Rheolwr Prosiect,
• Cefnogi'r Tîm / Partneriaid i weithredu'r prosiect.
• Paratoi'r holl hawliadau ariannol yn gywir ac ar amser.
• Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn ymwybodol o ofynion deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithredu gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Gyfadran er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda'r gofynion perthnasol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Disgwylir i ddeilydd y swydd weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau ambell waith.
• Dylai deilydd y swydd feddu ar drwydded yrru lawn a defnydd car preifat.