Swyddi ar lein
Rheolwr Diogelwch Twneli a Chadernid
£43,516 - £45,495 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-25255
- Teitl swydd:
- Rheolwr Diogelwch Twneli a Chadernid
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Busnes a Statudol
- Dyddiad cau:
- 10/08/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £43,516 - £45,495 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS5
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Rheolwr Diogelwch Twneli a Chadernid
CYFLOG: PS5 - £43,516 - £45,495
Oriau: 37 hours
(Gweithio’n Hybrid)Lleolir y swydd yn un o’r swyddfeydd isod/:
Parc Menai, Bangor / Conwy / Helygain
Mae’r swydd cyffrous yma yn rhoi y cyfle i chi weithio dau ddiwrnod o’r swyddfa a tri diwrnod yr wythnos o’ch cartref.
Pwrpas y swydd ydi i ymgymryd â dyletswyddau’r Swyddog Diogelwch annibynnol dynodedig, ar gyfer Twnelau perthnasol yr A55. Bydd y Rheolwr diogelwch Twneli a Chadernid hefyd yn arwain ar ddarparu cyngor arbenigol i’r Asiantaeth Cefnffyrdd ar faterion rheoli risg yn ymwneud â’r rhwydwaith cefnffyrdd er mwyn sicrhau y darperir ymateb cadarn a chryf i argyfyngau, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y rhwydwaith.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Ian Hughes ar 01286 685188.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hyn.
Dyddiad Cau: 10.00 AM, DYDD IAU, 10 Awst 2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gweithio Tu Allan i Oriau ac mewn argyfwng.
DYMUNOL
Y gallu i weithio dan bwysau i gyflwyno prosiectau o fewn terfynau amser
cytunedig.Rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig a meddu ar y gallu i weithio gyda chyn
lleied o oruchwyliaeth â phosib.CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd neu HNC ynghyd â phrofiad perthnasol sylweddol neu gyfwerth.
DYMUNOL
Statws siartredig mewn disgyblaeth berthnasol
Cymhwyster ILM Lefel 3 neu uwch
Cymhwyster peirianneg, technoleg, gwyddoniaeth, iechyd a diogelwch neu'r amgylchedd.
Aelod o gorff proffesiynol priodol
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o reoli mewn amgylchedd weithredol
DYMUNOL
Medru dangos profiad mewn cynllunio wrth gefn neu gweithdrefnau argyfwng.
Medru dangos profiad o weithio gyda'r Gwasanaethau Brys.
Medru dangos profiad o reoli risg gweithredol o asedau isadeiledd.
Profiad o reolaeth ariannol.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Sgiliau cyfathrebu da.
Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth dda o reoli iechyd a diogelwch a rheoli’r amgylchedd.
Yn wybodus gyda TG, yn medru deall a defnyddio ystod o systemau TG i gyflawni'r allbynnau y mae'r Cleient eu hangen.
Gwybodaeth am reoliadau statudol, safonau a manyleb o ran asedau priffyrdd neu gynllunio wrth gefn.
Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith yn brydlon gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib.
Trwydded yrru gyfredol.
DYMUNOL
Gallu cydlynu’n effeithiol a rheoli darparu cynlluniau, prosesau a systemau.
Gwybodaeth a phrofiad o Reoliadau (Dylunio a Rheoli) Adeiladu.
Sgiliau ysgrifennu adroddiadau, dadansoddi a chyflwyno adroddiadau cryf.
Gallu ymdrin â’r cyhoedd mewn modd sensitif.
Gallu gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol.
Gallu derbyn, cydweddu a gwerthuso gwybodaeth o amryfal ffynonellau
Anghenion ieithyddol
Dymunol
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Ymgymryd â dyletswyddau’r Swyddog Diogelwch annibynnol dynodedig yn unol â Rheoliadau 10, 11 ac Atodiad II, Rheoliadau Diogelwch Twnelau Ffyrdd 2007 (fel y’i diwygiwyd) ar gyfer Twnelau perthnasol yr A55. (Noder bod hyn yn ddibynnol ar gymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Awdurdod Gweinyddol – Rheol. 10.1.)• Datgan Rheoliad 10.2 ‘Bydd y Swyddog Diogelwch yn annibynnol o ran materion diogelwch twnelau ffyrdd ac ni fydd yn cael ei gyfarwyddo gan ei gyflogwr o ran y materion hynny.’
• Arwain ar ddarparu cyngor arbenigol i’r Asiantaeth Cefnffyrdd ar faterion rheoli risg yn ymwneud â’r rhwydwaith cefnffyrdd er mwyn sicrhau y darperir ymateb cadarn a chryf i argyfyngau (e.e. tywydd garw) ac yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y rhwydwaith.
• Bod yn atebol i'r Rheolwr Busnes a Gweithrediadau Statudol am adnoddau a gweithgareddau’n ymwneud â rheoli a datblygu cynlluniau wrth gefn a gweithdrefnau ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru a bodloni safonau gofynnol Deddf Argyfyngau Sifil 2004.
• Cynorthwyo’r Rheolwr Rhwydwaith a’r Cynrychiolydd Adrannol i wrthsefyll y rhwydwaith ceffnffyrdd gan gynnwys Dylunio, Adeiladu, Ariannu a Gweithredu A55 Ynys Môn (DBFO) o Gyffordd 1 i 11 i gynnwys Pont Britannia a Phont Menai.
• Rheoli cyllidebau a pharatoi blaenraglenni ar gyfer prosiectau a system.
Cyfrifoldeb dros swyddogaethau . e.e. staff, cyllid, offe
• Rheoli darparwyr gwasanaeth allanol NWTRA (Awdurdodau Partner ac ymgynghorwyr a chontractwyr y sector preifat) o ran cynllunio wrth gefn a gweithdrefnau brys.
• Ymgymryd â rheoli cyllidebau sydd wedi’u dyrannu.
• Cyfrifoldeb rheolwr llinell ar gyfer dwy swydd Dirprwy Reolwr Diogellwch a Gwytnwch Twneli
Prif Gyfrifoldebau
Cyffredinol
• Rheoli cyflwyno gwasanaeth Cynlluniau Wrth Gefn yr Asiantaeth yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.
• Paratoi adroddiadau fel y bo’r angen ar gyfer yr Uned Rheoli Cefnffyrdd er mwyn adrodd wrth Lywodraeth Cymru.
• Cysylltu â’r prif fudd-ddeiliad (Eraill), gan gynnwys inter alia Gwasanaethau Brys Categori 1 a 2, swyddogion Llywodraeth Cymru, swyddogion cynllunio brys, swyddogion amgylcheddol a swyddogion priffyrdd awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaeth y sector cyhoeddus a’r sector preifat (gan gynnwys ymgynghorwyr a chontractwyr), UK Highways Ltd, ACDGC, darparwyr gwasanaethau eraill Llywodraeth Cymru.
• Rheoli perthnasoedd a phrosesau mewnol ac allanol gyda sefydliadau wasg / cyfryngau gan gynnwys systemau cyfryngau cymdeithasol i gwrdd â gofynion Llywodraeth Cymru a ACGChC. Mae hyn yn cynnwys y wefan ACGChC.
• Cysylltu â staff eraill yr Asiantaeth a rhoi cefnogaeth iddynt. Unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n ofynnol i ddarparu'r gwasanaethau sy'n gymesur â graddfa'r swydd.
• Gweithredu yn unol â pholisïau’r Cyngor a pholisïau ei gleientiaid dan y Côd Ymarfer perthnasol.
• Lefel foddhaol o gyflawni’r dyddiadau terfyn a’r amcanion cerrig milltir y cytunwyd arnynt.
• Cyflawni a chynnal y safonau uchaf o reolaeth o ran yr Asiantaeth Cefnffyrdd.
• Ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant angenrheidiol mewn perthynas â Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
• Sicrhau perthnasau da drwy safonau gofal cwsmer.
• Datblygu a chynnal morâl a chynhyrchedd da o fewn y tîm.
Twnelau’r A55
Yn ychwanegol i’r dyletswyddau a geir yn Rheoliadau Diogelwch Twnelau Ffyrdd:
• Gweithredu a rheoli Ymgyrchoedd Gwybodaeth fel Atodiad I (4).
• Rheoli a chynnal cofrestr o addasiadau i Atodiad II (4) a Chofrestrau Risgiau Twnelau’r A55.
• Cynorthwyo’r Rheolwr Twnnel gyda rheoli gofynion Dogfennaeth Ddiogelwch a’r ddogfennaeth sydd gofyn ei chael gan ddeddfwriaeth, polisi, gweithdrefnau neu safonau.
• Trefnu neu gwblhau dadansoddiad risg Rheoliad 18 annibynnol fel y cytunwyd gyda'r Rheolwr Twnnel.
• Cynorthwyo Llywodraeth Cymru gyda’i ddyletswyddau dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio 2005.
• Ymgymryd â rôl y Swyddog Diogelwch fel y disgrifir yn Design Manual for Roads and Bridges (DMRB) BD78 [2.2.9] a safonau BA72 [3.11].
• Cysylltu â'r rheiny sy'n ymgymryd â swyddogaethau Prif Ddylunydd Prif Gontractwr ac ar yr Twneli A55.
• Mynychu cyfarfodydd a chynadleddau yn ôl yr angen mewn perthynas â materion rheoli gan gynnwys Fforwm Gweithredwyr Twnnel y DU / Cymdeithas Gweithredwyr Twnnel Road risg.
Rheoli Risg
• Adnabod a blaenoriaethu risgiau i’r rhwydwaith a mesurau lliniaru risgiau er mwyn cynnal diogelwch a gwytnwch y rhwydwaith. Bydd hyn yn cynnwys :
• Risg Llifogydd
• Risg lygredd
• Risg Tân
• Tywydd anffafriol risgiau gynnwys cynnal a chadw yn y gaeaf
• Clystyrau gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd
• Tagfeydd
• Gwyriadau Tactegol a Strategol
• Goruchwylio, archwilio a rheoli ansawdd y cynlluniau wrth gefn, y mesurau diogelwch a’r gweithdrefnau argyfwng sy’n effeithio cefnffyrdd.
• Cysylltu â staff yr Asiantaeth i ddylunio, gweithredu Ymarferion Argyfwng a gofynion hyfforddi priodol arall.
• Mynychu cyfarfodydd y Fforwm Cydnerth Lleol (FfCLl) rhanbarthol priodol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru a mynd i ymarferion a gytunwyd gyda'r Rheolwr Gweithrediadau Busnes a Statudol.
Rheoli Digwyddiad
• Rheoli gweithrediad a monitro prosesau a gweithdrefnau’r Asiantaeth er mwyn sicrhau bod darpariaeth ddigonol ar gyfer ymateb yn ystod y dydd ac allan o oriau i argyfyngau er mwyn bodloni gofynion perfformiad Llywodraeth Cymru.
• Rheoli datblygiad cynlluniau wrth gefn yr Asiantaeth a phrosesau ar gyfer argyfyngau ar y rhwydwaith cefnffyrdd mewn cydweithrediad ag Eraill.
• Cymryd rhan mewn cynllun bod ar ddyletswydd mewn argyfwng tu allan i oriau mewn rôl Rheolaeth Arian.
• Trefnu hyfforddiant Aur, Arian ac Efydd ar gyfer yr Asiantaeth.
• Rheoli a gweithredu'r prosesau ôl-drafod yr Asiantaeth.
Gwasanaeth Niweidiol y Tywydd / Gwasanaeth Cynnal dros y Gaeaf
• I reoli Gwasanaethau Niweidiol y Tywydd / Cynnal a Chadw y Gaeaf a gynhaliwyd gan yr Awdurdodau Partneriaid ar ran y Rheolwr Rhwydwaith.
• Cyswllt gyda Llywodraeth Cymru, eu rhagolygydd a Darparwyr Gwasanaethau offer meteorolegol. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi Rheolwr Rhwydwaith yn rheolaeth y stociau halen strategol Llywodraeth Cymru.
• Rheoli'r prosesau ar gyfer cyflwyno'r gwasanaeth ACGChC / gwasanaeth Cynnal a Chadw y Gaeaf a wnaed yn unol â gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru integredig.
• Rheoli'r dogfennau blynyddol Cynllun Cynnal yn y Gaeaf ac Ôl Gaeaf ac yn sicrhau archwiliadau perthnasol yn cael eu cynnal.
Iechyd a Diogelwch ac Amgylchedd• Mae pob gweithiwr o fewn Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru yn gyfrifol am gydymffurfio â Pholisïau Iechyd a Diogelwch, polisïau Amgylcheddol ac Ansawdd fel sydd wedi’u diffinio yn System Reoli Integredig ACGChC.
• Sicrhau y cedwir at Bolisïau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a deddfwriaeth amgylcheddol yn llym.
• Ymgymryd â’u cyfrifoldeb Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
• Rhoi cyngor a chefnogaeth ynghylch rheoli risg i’r Asiantaeth o ran deddfwriaeth iechyd a diogelwch a deddfwriaeth amgylcheddol.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Cyfrifol am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
• Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol i fodloni gofynion y Gwasanaeth, yn benodol wrth gau twneli gyda'r nos.
• Gall rheoli digwyddiadau a sefyllfaoedd argyfwng ddigwydd tu allan i oriau gwaith arferol.
• Mynd i gyfarfodydd mewn mannau eraill o’r DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).
Mae’r uchod yn amlinelliad o’r dyletswyddau, er mwyn rhoi syniad o lefel y cyfrifoldeb sydd ynghlwm â’r swydd. Nid yw’r swydd ddisgrifiad yn gyflawn o ran y manylion, a gall dyletswyddau’r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid natur a lefel cyfrifoldeb sylfaenol y swydd.