Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Ymdrin a gwastraff a deunyddiau ailgylchu ar safle.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Cyfrifoldeb am gerbydau ac offer sy’n ymwneud a’r gwasanaeth.
Prif Ddyletswyddau
Ymgymryd yn unigol neu fel rhan o dim ddyletswyddau sydd yn gysylltiedig a gwaredu gwastraff ac ailgylchu o eiddo domestig a masnachol.
Cyfrifoldebau i gynnwys:
• Ymdrin â chynhwysyddion a cherbydau fel ceir, loriau, trailers, sgipiau, biniau, sachau, biniau olwyn, bocsys ailgylchu ayb ar y safle. Y bwriad yw gwahanu pob math o wastraff fel papur, metel, coed ac ati ar gyfer trosglwyddo i bwrpas ailgylchu.
• Bydd angen gyrru cerbydau sy’n berthnasol i’r math yma o waith fel cerbyd fforch godi, telehandler ayb.
• Mae’r dyletswyddau yn cynnwys delio gyda’r cyhoedd fel maent yn dod ar y safleoedd.
• Ymdrin â gwaith papur sydd yn gysylltiedig â'r gwaith sydd yn cynnwys dogfennau hanfodol ar gyfer adrodd ar berfformiad ailgylchu’r Cyngor.
• Cyfrifoldeb am sicrhau diogelwch eich hun, cydweithwyr ac aelodau’r cyhoedd ar y safle.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Mae’r Gwasanaeth Safleoedd yn agored ar Wyliau’r Banc a bydd angen gweithio ar y diwrnodau hyn.