Swyddi ar lein
Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel
£54,585 - £57,580 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-25054
- Teitl swydd:
- Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel
- Adran:
- Uchelgais Gogledd Cymru
- Dyddiad cau:
- 23/06/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £54,585 - £57,580 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Hedd Vaughan-Evans neu Nia Medi Williams ar swyddi@uchelgaisgogledd.cymru
Rhagwelir cynnal cyfweliadau 11/07/2023 neu 13/07/2023.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD GWENER, 23/06/2023.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
•Dibynadwy
•Yn meddwl yn arloesol
•Yn hyblyg yng nghyswllt meysydd cyfrifoldeb, blaenoriaethau sy'n newid ac yn addasu i newid
•Sgiliau trefnu ardderchog
•Yn gallu gweithio ar ei liwt ei hun ac fel rhan o dîm
•Yn gallu gweithio dan bwysau ac yn meddu ar strategaethau ymdopi i weithio mewn amgylchedd sydd yn gweithredu ar gyflymder
•Gallu wedi'i brofi i gwrdd â therfynau amser a thargedau
•Y gallu i symbylu ac ysbrydoli eraill i weithredu
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
•Gradd/ôl-radd mewn maes perthnasol (neu gyfatebol)
Dymunol
•Aelod o Sefydliad Proffesiynol
Profiad perthnasol
Hanfodol
•Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
•Profiad blaenorol o reoli cyllidebau
•Profiad blaenorol o reoli staff
•Profiad mewn cyflawni prosiectau, datrysiadau a rhaglenni ynni
•Profiad o flaenoriaethu cyfleoedd strategol a sicrhau consensws ar gyfer dethol prosiectau
•Profiad o gyflawni rhaglenni a/neu prosiectau'n llwyddiannus ar amser ac o fewn y gyllideb
Dymunol
-
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Sgiliau arweinyddiaeth, sgiliau rhyngberthnasol a sgiliau cyfathrebu effeithiol
•Gwybodaeth dda o ddulliau rheoli rhaglenni a phrosiectau
•Gwybodaeth dda o dechnegau cynllunio, monitro a rheoli rhaglenni
•Gwybodaeth am bwnc y rhaglenni penodol
•Dealltwriaeth o'r broses caffael
•Dealltwriaeth o arferion rheolaeth ariannol
•Digon o awdurdod a hygrededd i fedru cynghori timau prosiect am eu prosiectau o ran eu perthynas â’r rhaglen
•Llythrennog mewn TGCh, yn gyfforddus gyda Word, PowerPoint, Excel a chronfeydd data a chyfryngau cymdeithasol perthnasol
•Ymwybyddiaeth o dechnolegau cyfredol a rhai newydd yn y diwydiannau cyflenwi a chynhyrchu ynni
•Sgiliau negodi lefel uchel yn cynnwys sicrhau cymeradwyaeth o fewn trefniadau llywodraethu cymhleth
Dymunol
•Profiad o ymgysylltu gyda'r cyhoedd/rhanddeiliaid yn effeithiol
•Gwybodaeth am fuddion pynciau rhaglenni penodol i dwf economaidd
•Profiad o ddatblygu achosion busnes
•Profiad o weithio gydag Aelodau Etholedig ac ymdrin â materion sy'n wleidyddol sensitif
Anghenion ieithyddol
DYMUNOL
Gwrando a Siarad
Yn gallu ymdrin â holl agweddau’r swydd yn llafar mewn modd hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall
Yn gallu defnyddio a dehongli unrhyw wybodaeth yn gywir o amrywiaeth eang o ffynonellau, yn y Gymraeg ac yn Saesneg, er mwyn gallu ymdrin â phob agwedd o’r swydd.
Ysgrifennu
Yn gallu cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig yn hollol hyderus yn y Gymraeg ac yn Saesneg gan ddefnyddio'r ieithwedd a'r arddull fwyaf priodol i gwrdd ag anghenion y darllenydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
- Arwain y Rhaglen Ynni Carbon Isel gan gynnwys dylunio, negodi a chynllunio;
- Rheoli, cydlynnu a gweithredu'r rhaglen Ynni Carbon Isel;
- Datblygu, negodi a chytuno'r achosion busnes ar gyfer yr holl brosiectau o fewn sgôp y rhaglen(ni);
- Trosolwg o weithredu’r prosiectau ar draws y rhaglen gan gynnwys dyluniad a chynllunio, gweithredu a chasgliadau'r prosiectau unigol;
- Cyflawni deilliannau a thargedau'r prosiectau unigol a'r rhaglen gronnus ar amser ac o fewn yr adnoddau sydd wedi'u neilltuo;
- Cydlynu, cynllunio a gweithredu rhaglenni ar y cyd a rhyngddibynnol o fewn y Cynllun Twf a’r Weledigaeth gan gynnwys rheoli risg a gwireddu buddion;
- Cyfrannu at weithredu'r Weledigaeth Twf ranbarthol, y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol a'r Strategaeth Ynni Ranbarthol gan gynnwys Cynlluniau Ynni Ardaloedd Lleol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
- Rheoli cyllideb y rhaglen o hyd at £100m, monitro’r gwariant a’r costau yn erbyn y buddion a ddarparwyd a’r buddion a wireddwyd wrth i’r rhaglen fynd yn ei blaen.
- Bod yn rheolwr llinell ar hyd at 5 aelod o staff
- Bod yn gyfrifol am offer perthnasol yn cynnwys gliniaduron a ffonau symudol
Prif ddyletswyddau
Rheoli Rhaglenni
- Cynnal a gwella systemau a disgyblaethau rheoli rhaglenni i safon diwydiant;
- Goruchwylio materion dylunio, negodi, cytuno a chynllunio o fewn y rhaglen;
- Cydlynu a gweithredu’r rhaglen Ynni Carbon Isel;
- Cydlynu a rheoli ar y cyd y rhyng-ddibyniaethau ar draws rhaglenni a phrosiectau gan gynnwys rheoli risg a gwireddu buddion.
Rheoli Prosiectau
- Cynnal a gwella systemau a disgyblaethau rheoli prosiect i safon diwydiant;
- Goruchwylio prosiectau lluosog trwy ddylunio a chwblhau achosion busnes gan gynnwys negodi a chytuno gyda noddwyr prosiectau;
- Goruchwylio cyflawni a gweithredu prosiectau lluosog o fewn y rhaglen;
- Sicrhau ansawdd yr holl waith prosiect.
Llywodraethu Rhaglenni a Chontractau
- creu a rheoli cerbydau cyflawni newydd fel sydd angen
- negodi a rheoli contractau
Rheoli Adnoddau
- rheoli cyllidebau a grantiau rhaglenni refeniw a chyfalaf
- cyflawni unrhyw dargedau incwm a masnachol sydd wedi'u gosod
Rheoli Perfformiad
- rheoli perfformiad ac atebolrwydd ar lefelau allbynnau rhaglenni a phrosiectau
- rheoli risg ac atebolrwydd ar lefelau allbynnau rhaglenni a phrosiectau
- rheoli timau a phobl - cefnogi a datblygu adroddiadau uniongyrchol i lwyddo yn eu rolau a chefnogi datblygiad ehangach y tîm fel rhan o’r tîm rheoli.
Adrodd ac Atebolrwydd
- Adrodd ar gynllunio a rheoli rhaglenni, prosiectau ac adnoddau ar lefel Bwrdd ac i'r Llywodraethau, y partneriaid a'r rhanddeiliaid sy'n ariannu;
- Sicrhau ansawdd yr holl adroddiadau data a pherfformiad;
- Gweithredu fel ymgynghorydd arbenigol y mae ymddiriedaeth ynddo/ynddi.
Llysgenhadol
- Gweithredu fel lladmerydd ar gyfer partneriaeth Uchelgais Gogledd Cymru, y Cynllun Twf a’r rhanbarth;
- Datblygu, rheoli a chynnal perthnasau allanol effeithiol ar bob lefel;
- Rrheoli cyfathrebu allanol a chysylltiadau cyhoeddus.
Strategol
- Strategaeth hir-dymor ar y cyd - datblygu a chynllunio.
Cydymffurfiaeth ac Ymddygiad
- Gweithio i'r holl bolisïau a gweithdrefnau sydd wedi'u gosod a'r gyfraith e.e. adnoddau dynol, ariannol, cydraddoldeb ac iechyd a diogelwch;
- Arddangos y safonau uchaf o ymddygiadau a gwerthoedd proffesiynol.
Ynni
- Trosolwg o gyflawni Strategaeth a Chynllun Gweithredu Ynni Rhanbarthol a’r Cynlluniau Ynni Ardal Lleol mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru;
- Bod â chyfrifoldeb cyffredinol am gyflawni’r rhaglen Ynni Carbon Isel o fewn Cynllun Twf Gogledd Cymru, gan sicrhau fod y prosiectau yn cyflawni ei targedau;
- Arwain ar negodi gyda noddwyr prosiect, buddsoddwyr a rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, gan ddarparu'r wybodaeth a'r arbenigedd angenrheidiol i gefnogi'r achos busnes i fuddsoddi mewn prosiectau;
- Sefydlu partneriaethau cryf gyda chanolbwyntiau a rhaglenni trawsffiniol i gefnogi nodau strategol yn y Strategaeth Ynni Rhanbarthol ac ymelwa ar gyfleoedd cyd-fuddsoddi.
- Arwain a rheoli y tîm rhaglen Ynni Carbon Isel a’r Tîm Ynni Strategol a fydd yn cefnogi cyflawni’r canlyniadau a’r buddion sy’n gysylltiedig â’r prosiectau a’r ffrydiau gwaith;
- Rheoli gwaith ynni Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i gynnwys darparu cefnogaeth ac arweiniad i uwch aelodau a swyddogion er mwyn llywio penderfyniadau;
- Gweithio gyda datblygwyr prosiectau, grwpiau cymunedol, darparwyr ynni a chyflenwyr rhwydwaith a phartneriaid eraill i sicrhau bod Gogledd Cymru mewn sefyllfa dda i elwa ar y chwyldro ynni, mentrau sero net a datgarboneiddio a chyfleoedd ariannu.
Amgylchiadau arbennig
-