Swyddi ar lein
Swyddog TG (Dadansoddwr Trawsnewid Digidol a TG)
£35,411 - £37,261 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 22-24856
- Teitl swydd:
- Swyddog TG (Dadansoddwr Trawsnewid Digidol a TG)
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Twnelau a Technoleg
- Dyddiad cau:
- 27/04/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £35,411 - £37,261 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS1
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Swyddog TG (Dadansoddwr Trawsnewid Digidol a TG)
CYFLOG: PS1 (SCP 29-31) (£35,411 – £37,261)
LLEOLIAD: - 1 o’r lleoliadau isod;
Conwy Traffic Management Centre, Parc Menai, Llandrindod Wells, Halkyn
Mae gan NMWTRA gyfle cyffrous i ymgeisydd brwdfrydig ymuno â'n tîm TGCh deinamig.Mae'r swydd barhaol hon yn addas iawn i unigolyn sy'n edrych i ddatblygu ei yrfa ym maes trawsnewid digidol.
Bydd y swydd yn gofyn am sgiliau dadansoddi, datrys problemau, ffurfio barn a chreadigrwydd. Mae darparu datrysiadau yn rhan greiddiol o'r swyddogaeth hon, a rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu dehongli data yn gywir gan ddefnyddio teclynnau dadansoddi data megis PowerBI i gynorthwyo â'r broses o wneud penderfyniadau.
Bydd y swyddogaeth a'r cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys defnyddio eich sgiliau technegol a sgiliau busnes i ddewis yr ateb mwyaf priodol i gyflwyno'r allbynnau gorau i'r busnes. Bydd angen i chi fod â'r gallu i ddeall anghenion y busnes er mwyn darparu'r fframweithiau technoleg mwyaf addas i arwain at y datrysiad gorau.
Mae tystiolaeth a dealltwriaeth o gysyniadau a methodoleg rheoli newid ynghyd â sylw i fanylion, sgiliau cyfathrebu da a thueddfryd technegol i ddeall y busnes yn gyflym i drawsnewid trwy ddefnyddio technolegau perthnasol hefyd yn allweddol i'r rôl hon.
Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o weithio mewn amgylchedd cefnogol, gallu mynd at broblemau yn rhesymegol a defnyddio tystiolaeth i gyrraedd atebion neu argymhellion, bod yn gyffyrddus yn defnyddio ystod o feddalwedd, a dysgu'n gyflym sut i ddefnyddio systemau a rhyngwynebau newydd.
Byddai profiad a dealltwriaeth o dechnolegau Microsoft, AI, AR, Dysgu Peiriant, IoT a Synwyryddion yn fanteisiol ond nid yn hanfodol.
Manteision eraill gweithio gyda ni yw pensiwn sector cyhoeddus, oriau gwaith hyblyg, gweithio hybrid, gwyliau â thâl a gostyngiadau staff eraill.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swyddi uchod, cysylltwch â Christopher Pratt ar 01286 685 187.
Dyddiad Cau: 10.00 AM, Dydd Iau, 27 o Ebrill 2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu gweithio fel rhan o dîm neu yn unigol heb lawer o gyfarwyddyd, a gwybod pryd i ofyn am gymorth.
Sgiliau trefnu gwych er mwyn rheoli nifer o dasgau ar yr un pryd.
Gallu ysgogi ei hun yn dda ac yn gwbl ymroddedig i gyrraedd targedau.
Gallu i ymdrin â sefyllfaoedd a allai fod yn gynhennus mewn modd proffesiynol.
Sgiliau datrys problemau a methodoleg ystadegol
Gallu ymgymryd â gwaith o natur gymhleth ac amrywiol.
Gallu gweithio o dan bwysau a chwrdd â therfynau amser.
Sgiliau rhyngbersonol gwych.
Sgiliau rhagorol ar lafar i ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant ar faterion technegol yn effeithiol gyda staff a defnyddwyr eraill.
Gallu egluro problemau a datrysiadau i staff nad ydynt yn dechnegol.
Brwdfrydedd i ddysgu, gyda meddwl creadigol ac arloesol.
Parodrwydd i ddatblygu ei (g)wybodaeth o TGCh i ddiwallu anghenion y busnes.
Parodrwydd i deithio i swyddfeydd neu safleoedd eraill sy'n berthnasol i ofynion y busnes.
Ymagwedd gynnes, gyfeillgar a phroffesiynol wrth ymdrin â staff a rhanddeiliaid.
Gallu deall anghenion y busnes yn gywir i ddarparu'r pensaernïaeth dechnolegol mwyaf addas i gyflawni’r datrysiad gorau.
Rhoi sylw i fanylion, sgiliau cyfathrebu da a dawn dechnegol.
Gallu ymdrin â phroblemau mewn modd resymegol a defnyddio tystiolaeth i ganfod datrysiadau neu argymhellion
Yn gyffyrddus wrth ddefnyddio meddalwedd amrywiol, a dysgu'n gyflym sut i ddefnyddio systemau a rhyngwynebau newydd.
Dymunol
Sgiliau ysgogi.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
HNC mewn pwnc perthnasol
Tystiolaeth o ddysgu a datblygu proffesiynol parhaus.
Dymunol
Datblygwr Datrysiadau Ardystiedig Microsoft (MCSD) mewn Rhaglenni SharePoint.
Datblygiad Microsoft Power Platform.
JavaScript, C#, HTML, .NET
Dylunio gwe.
Cymhwyster neu hyfforddiant rheoli e.e.ILM3.
Profiad a dealltwriaeth o dechnolegau Microsoft, AI, AR, dysgu drwy beiriant, y
rhyngrwyd pethau (IoT) a synwyryddion.
Profiad perthnasol
Hanfodol
O leiaf 5 mlynedd o brofiad mewn dylunio a/neu gynnal systemau TG.
Dylunio a chynnal systemau'n ar y safle a’r cwmwl.
Datblygu a defnyddio SQL, systemau a chymwysiadau Gwybodaeth Busnes.
Rheoli prosiectau TG a rheoli data.
Rhyngweithio â staff a chontractwyr i sicrhau bod gwybodaeth briodol yn cael ei chasglu, ei choladu a'i phrosesu.
Profiad o ddylunio, gosod, cynnal a chefnogi systemau a chymwysiadau busnes e.e. SharePoint (OOTB), seilwaith SQL a phrosesau dylunio UI/UX.
Datblygu a gweinyddu systemau Microsoft SharePoint.
Rheoli mynediad defnyddwyr a grwpiau diogelwch.
O leiaf 3 blynedd o brofiad mewn amgylchedd TGCh proffesiynol.
Profiad o weithio mewn amgylchedd gefnogol i ddarparu cefnogaeth TGCh i gwsmeriaid.
Datblygu a rheoli prosiectau systemau TGCh.
Profiad a dealltwriaeth o gysyniadau a methodoleg cysyniadau rheoli newid.
Dymunol
Profiad o ddylunio, cynnal a chadw priffyrdd a gweithrediadau cysylltiol.
Arferion gorau dylunio gwe.
Profiad o reoli asedau.
Profiad o systemau rheoli ansawdd.
Codio a rhaglennu.
Profiad o ryngweithio gyda swyddogion o'r Llywodraeth, staff, ymgynghorwyr a phartïon eraill â diddordeb.
Profiad o'r technolegau a ganlyn:
•Rheoli Asedau WDM
•Gweinyddu Microsoft SharePoint
•ShareGate
•Visual Studio
•PowerShell
•Topoleg Rhwydwaith IP
•Gweinyddu SQL
•Dilysiad Ail Ffactor
•SharePoint Designer
•Gweinyddu Tensor
•Gweinyddu Microsoft Azure
•Ffurfweddu mur gwarchod (firewall)
•Technolegau Rheoli Mynediad i Adeiladau a Diogelwch
Profiad o gysylltu â chleientiaid, staff ac ymgynghorwyr mewn modd
broffesiynol.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Sgiliau dadansoddi, datrys problemau, ffurfio barn a chreadigrwydd cryf.
Y gallu i hyfforddi staff i ddefnyddio offer, meddalwedd a systemau.
Sgiliau cyflwyno effeithiol.
Dealltwriaeth o sut i adeiladu a rheoli llyfrgelloedd dogfennau mawr
Dealltwriaeth dda o faterion TGCh technegol i alluogi trafodaethau gydag arbenigwyr technegol mewnol ac allanol.
Profiad o ddylunio a chyflunio caledwedd, meddalwedd a systemau TGCh ynghyd â'u rhoi ar waith
Sgiliau datrys problemau da i gynorthwyo â dylunio a gweithredu systemau.
Dealltwriaeth o bwysigrwydd awtomeiddio prosesau busnes.
Sgiliau technegol a busnes gwych er mwyn canfod a dewis yr allbynnau mwyaf addas i gyflwyno'r deilliannau gorau i'r busnes ac i ddatrys problemau.
Trwydded yrru lawn a glân.
Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch gan gynnwys codi a thrin, diogelwch trydanol a phwysigrwydd asesu Cyfarpar Sgrîn Arddangos (DSE).
Dealltwriaeth drylwyr o ddiogelwch data
Dymunol
Datblygu systemau a chymwysiadau sy'n seiliedig ar y rhyngrwyd.
Defnyddio K2, Alloy a systemau gweithredu.
Gwybodaeth gadarn am ofynion a systemau rheoli Llywodraeth Cymru, gan gynnwys RMMS, TRMM a WHIS.
Paratoi siartiau llif a gweithdrefnau.
Gwybodaeth neu brofiad o systemau, polisïau a gweithdrefnau awdurdodau lleol.
Gwybodaeth neu brofiad o gamau neu egwyddorion ITIL.
Gwybodaeth a phrofiad o ddefnyddio K2; Egress; Ezytreev; Mayrise; Lighting Reality; KeySoft Suite; Tensor; Power BI.
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth priffyrdd yn gyffredinol.
Gallu creu ac ysgrifennu adroddiadau a chyflwyniadau cryno.
Anghenion ieithyddol
Cymraeg yn ddymunol
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Diben y swydd yw gwella effeithlonrwydd parhaus yr holl wasanaethau trwy ddadansoddi, dylunio a gweithredu datrysiadau technolegol, gan gynnwys rhai ffisegol a rhai a gedwir mewn cwmwl, i sicrhau y darperir rhwydwaith cefnffyrdd dibynadwy yng ngogledd a chanolbarth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru (LlC).
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Cyfrifoldebau Allweddol:
•Cyfrifol am ddylunio, datblygu, profi, gweithredu, cynnal a dogfennu systemau rheoli data ar gyfer yr Asiant, gan gynnwys systemau rheoli cyllid a TG gweithredol, a chaffael gwasanaethau ac offer cysylltiedig ble fo'n berthnasol.
•Cynhyrchu adroddiadau cysylltiedig drwy archwilio gwybodaeth yn gywir drwy ddefnyddio teclynnau dadansoddi data megis PowerBI, a chyflwyno'r wybodaeth i uwch reolwyr yr Asiant i'w cynorthwyo â'r broses o wneud penderfyniadau.
•Creu datrysiadau gan ddefnyddio arfer gorau a chynnal gwybodaeth am arferion gorau cyfredol.
•Dylunio a gweithredu systemau TG, offer a'r data a gedwir arnynt, gan sicrhau bod datrysiadau yn cael eu datblygu mewn modd sy'n ddiogel rhag y dyfodol.
•Diogelwch data masnachol sensitif ac offer TG ffisegol.
•Rheoli timau o staff wrth weithredu meddalwedd.
•Rheoli contractwyr, ymgynghorwyr a chyflenwyr allanol.
•Arwain timau dylunio wrth ddatblygu datrysiadau TG.
•Cyflawni prosiectau TG o fewn amserlenni a chyllidebau cytunedig.
•Cyfrifoldeb am offer TG arbenigol a thrwyddedu'r feddalwedd.
•Datblygu a chynnal unrhyw systemau rheoli cyfredol neu yn y dyfodol.
•Cyfrifol am reoli prosiectau systemau, gan gynnwys cynhyrchu ac adolygu'r manylebau technegol.
•Cyfrifol am greu polisïau a gweithdrefnau am systemau newydd a'u gweithrediad, a'u rhoi ar waith.
•Creu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer datrysiadau a weithredir, a'u rhoi ar waith
•Hyfforddi staff ACGCC a defnyddwyr eraill i ddefnyddio systemau TG a systemau rheoli data, gan gynnwys mewn amgylchedd ystafell ddosbarth.
Prif ddyletswyddau
Sgôp, Datblygu a Dylunio
Datblygu a gweithredu systemau dadansoddi/busnes arloesol a chreadigol o fewn yr Asiant drwy ddefnyddio arbenigedd i gefnogi rhaglenni datblygu busnes llwyddiannus, gan ddefnyddio gwahanol ddisgyblaethau arbenigol, fydd yn cynnwys (nid yw'n rhestr gynhwysfawr):
•Meddalwedd rheoli prosesau busnes,
•Systemau rheoli cronfeydd data perthynol,
•Meddalwedd deallusrwydd Microsoft Business
•Meddalwedd datblygu amgylcheddol integredig
Mabwysiadu a chynnal meddylfryd aroesol a dychmygus wrth ddatblygu datrysiadau, gan gynnwys adroddiadau rheoli.
Datblygu, gweithredu, cynnal a hyrwyddo systemau'n seiliedig ar gyfrifiaduron (TG) ar gyfer yr Asiant, gan gynnwys cefnogaeth dechnegol.
Datblygu systemau gweinyddol a rheolaethol ar gyfer yr Asiant, wedi'u gyrru gan anghenion busnes cyfredol a rhai sy'n esblygu, yn unol â gofynion Cytundeb Asiant Rheoli Llywodraeth Cymru (WGMA).
Cynghori a chysylltu â sefydliadau partner mewn perthynas â materion rheoli gwybodaeth, i geisio gwneud y defnydd gorau a mwyaf addas o wybodaeth ar draws yr Asiant a'i oll weithredoedd a gweithgareddau. Bydd hyn yn cefnogi systemau rheoli perfformiad a'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer uwch reolwyr yr Asiant.
Gweithio gyda pherchnogion systemau allanol, Rheoli Data a Chymorth TGCh i ddarparu rhyng-gysylltedd data rhwng systemau.
Gweithredu
Sefydlu, blaenoriaethu a hyrwyddo rhaglenni i ddatblygu a gweithredu'r systemau technoleg gwybodaeth sydd eu hangen ar yr Asiant. Mae llawer o'r gwaith hwn yn ymwneud â chyflwyno systemau meddalwedd newydd, ac mae'n ofynnol felly i weithio mewn amgylchiadau lle na cheir llawer o ganllawiau ar ffurf polisi, gweithdrefnau a safonau gweithio. Mae hefyd yn bwysig i ddeall a rheoli beth fyddai effeithiau unrhyw fethiant yn y systemau ar y sefydliad yn ei gyfanrwydd.
Ymgymryd â phrofi cadarn ar y systemau a ddatblygir i leihau unrhyw risgiau dilynol gyda'r gwasanaethau a ddarperir gan ACGCC ar ran y cyhoedd/LlC, megis Gweithrediadau'r A55, Gweithrediadau Twneli'r A55 a systemau Rheoli Traffig.
Sicrhau bod y wybodaeth angenrheidiol ar gael i adolygu dangosyddion perfformiad, ffioedd a chostau uned ar gyfer yr Asiant a LlC.
Defnyddio doethineb, sgiliau perswadio a sensitifrwydd, darparu hyfforddiant i staff ac Awdurdodau Partner ar y systemau cyfredol, rhai newydd eu dylunio neu wedi'u huwchraddio.
Cyfrannu at y strategaeth ceisiadau trwy gymhwyso gwybodaeth am dechnoleg/cynnyrch a darparu cyngor ar rai meysydd penodol ar gyfer y cais er mwyn cwrdd ag anghenion busnes.
Cyflawni gweithgareddau gofynnol i ganiatáu symud o unrhyw system bresennol i'r lefel nesaf y cytunwyd, gan ddefnyddio offer mudo sydd yn addas.
Ymgymryd â gwiriadau ansawdd o'r feddalwedd a ddatblygir yn unol ag achrediad ISO 9001 yr asiant.
Arwain timau drwy newidiadau i brosesau busnes drwy weithredu gwelliannau i feddalwedd, a allai arwain at faterion cynhennus neu gymhleth. Bydd hyn yn gofyn am droedio gofalus, drwy berswadio a bod yn sensitif i gyflawni'r deilliant busnes.
Cynnal a chadw
Cynnal systemau'n seiliedig ar gyfrifiaduron (TG) ar gyfer yr Asiant, gan gynnwys cadw cofnodion rhwydwaith a rhestrau offer cywir.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am sicrhau bod argaeledd a diogelwch o amgylchedd a sefydliad systemau SharePoint.
Canfod a chadw'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â:
•Safonau, datblygiadau technegol a chymwysiadau cyfrifiadurol
•Dyletswyddau proffesiynol a statudol
•Methodoleg a thechnolegau rheoli data
•Deddfwriaeth Diogelu Data
Cyffredinol
Sicrhau bod materion Iechyd a Diogelwch yn cael eu hystyried a’u rheoli’n llawn ym mhob agwedd o waith yr Asiantaeth, a cydymffurfiaeth â rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arferion gorau pan fo hynny’n briodol.
Dirprwyo ar ran y Rheolwr yn ei absenoldeb.
Gweithio gyda staff yr Asiant i gyflawni eu dyletswyddau technegol, ariannol a gweinyddol.
Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion y Cynulliad yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill.
Cydlynu a chysylltu â staff o Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac Awdurdodau sy’n Bartneriaid er mwyn hyrwyddo rheoli’r Asiant yn effeithiol.
Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a ymgymerir gan gontractwyr ac ymgynghorwyr (wyth o ymgynghorwyr, deg o gontractwyr fframwaith technoleg)
•Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau.Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd y swydd wedi'i lleoli yn bennaf mewn amgylchedd swyddfa, ond mae'n ofynnol i ddeilydd y swydd fod ar gael i ymgymryd â gwaith ar safle, yn ogystal ag ymgymryd â thasgau y tu allan i oriau gwaith arferol i gynorthwyo'r Asiant gyda gweithredu systemau newydd a diweddariadau.