Swyddi ar lein
Cydlynydd Digartrefedd Ieuenctid - Cyf: 22-24826
£15,075 - £16,010 y flwyddyn | Dros dro (gweler hysbyseb swydd)
- Teitl swydd:
- Cydlynydd Digartrefedd Ieuenctid
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Ieuenctid
- Dyddiad cau:
- 06/04/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro (gweler hysbyseb swydd) | 18.5 Awr
- Cyflog:
- £15,075 - £16,010 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S3
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Swydd dros dro yw hon hyd at diwedd Mawrth, 2025
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Steffan Williams ar 07702479672
Dyddiad cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 6 EBRILL, 2023.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
•Gallu i ddatblygu perthnasau positif ac effeithiol gyda pobl ifanc, yn enwedig rheiny sydd ‘dan risg neu yn wynebu digartrefedd
•Gallu i hunan-reoli a blaenoriaethu gwaith
•Gallu i wneud penderfyniadau a bod yn heriol, mentrus a parod i weithredu.
•Gallu i weithio fel rhan o dim a sefydlu a chynnal perthnasau cefnogol gyda cydweithwyr a phartneriaid.
•Gallu i fod yn hyblyg a creadigol yn eu ffordd o weithio ac wrth ddarparu cefnogaeth i bobl ifanc
•Gallu i weithio oddi fewn i ffiniau proffesiynol
•Gallu i arddangos empathi a gallu i wrando ar anghenion unigolion a gweithredu i ymateb.
•Gallu i negyddu ar ran unigolion bregus.
•Gallu i weithio yn unigol ac fel rhan o dîm
•Gallu i weithio ‘dan bwysau
•Ymrwymiad cryf i ofal cwsmer.
Dymunol
•Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau, ac o dan gyfarwyddyd mwy nag un Arweinydd / Tîm darparu
•Gallu datrys problemau mewn ffordd greadigol
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
•Addysg dda hyd at Lefel A neu
•Cymhwyster Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned (neu gyfystyr fel sy’n cael ei gydnabod gan ETS Cymru) neu
•Cymhwyster Lefel 3 mewn Astudiaethau Tai (neu gyfystyr fel sy’n cael ei gydnabod gan CIH).
Dymunol
•Cymhwyster Lefel 4 neu uwch mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned (neu gyfystyr fel sy’n cael ei gydnabod gan ETS Cymru)neu
•Cymhwyster Lefel 4 neu uwch mewn Astudiaethau Tai (neu gyfystyr fel sy’n cael ei gydnabod gan CIH).
Profiad perthnasol
Hanfodol
•Profiad eang o weithio gyda pobl ifanc bregus, wedi dadrithio, heb eu hysgogi, sy’n wynebu rhwystrau cymhleth
•Profiad yn y maes Tai neu unrhyw faes ymylol
•Profiad o ddefnyddio technegau cymhelliant i weithio / cefnogi pobl ifanc
•Profiad o rwydweithio, negyddu gyda ystod eang o bartneriaid a gwasanaethau arbenigol yn y maes ymgysylltiad pobl ifanc.
•Profiad o weithio mewn tîm / tîm aml-ddisgyblaethol
Dymunol
•Profiad o weithio gyda rheini / gofalwyr i bobl ifanc fregus.
•Profiad o gyflawni gwaith ymestyn allan yn y gymuned
Profiad o dracio gynnydd ac adrodd ar ganlyniadau
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Dealltwriaeth a gweithredu oddi fewn i weithdrefnau diogelu
•Gallu cynnal a gwarchod cyfrinachedd unigolion a delio’n briodol gyda gwybodaeth sensitif a bersonol.
•Dealltwriaeth o faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad.
•Dealltwriaeth o anghenion y grŵp cleient
•Sgiliau TG
•Sgiliau Cyfathrebu a cyflwyno da
•Y gallu i ysgogi eich hun ac eraill
•Meddiant ar drwydded yrru lawn a mynediad i gerbyd.
Dymunol
•Gwybodaeth o ddarpariaethau ar gyfer y grŵp cleient.
•Gwybodaeth o systemau lles / budd-daliadau y Ganolfan Byd Gwaith
•Profiad o ddarparu hyfforddiant.
•Sgiliau casglu, dadansoddi a chyflwyno data a gwybodaeth.
•Sgiliau cymodi
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
Prif amcan y swydd yw cyfrannu at ymdrechion i ddileu digartrefedd ymysg pobl ifanc. Bydd y swydd yn gyfrifol am arwain dull partneriaethol i fapio, cyd-lynu, monitro a gwella systemau a llwybrau i bobl ifanc 11-25 oed sydd ‘dan risg o wynebu digartrefedd neu sydd yn ddigartref.
•Datblygu llwybrau addas i bobl ifanc sydd wedi ei adeiladu ar fethodoleg gwaith ieuenctid a dull sy’n canolbwyntio ar y person ifanc.
•Gweithio’n agos gyda’r Arweinydd Tîm Cymorth Ieuenctid 16-25 oed ac Arweinydd Tîm Digartrefedd i sicrhau bod y gwaith hwn yn cyrraedd gofynion y Grant Atal Digartrefedd Pobl Ifanc ac yn adlewychu dull cyfredol o ddarparu Fframwaith Ymgysylltu a Datblygiad Ieuenctid yng Ngwynedd.
•Cydweithio gyda gweddill Tîm y Gwasanaeth Ieuenctid a’r Gwasanaeth Tai yn ogystal â phartneriaid/sefydliadau allweddol i gyflawni deilliannau llwyddiannus i bobl ifanc o fewn y grŵp targed
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am arolygaeth a threfniadaeth y prosiectau.
•Mynediad i gyllideb ar gyfer prosiectau/adnoddau penodol.
•Offer Personol (offer TGCh, ffôn symudol ac ati).
•Cyfrifol am sicrhau bod ei g/chostau teithio ei hun yn ddilys ac yn briodol.
Prif ddyletswyddau
•Cefnogi’r Cyd-lynydd Ymgysylltiad a Datblygiad Pobl Ifanc i adnabod ac asesu dangosyddion o ddigartrefedd a datblygu teclyn adnabod cynnar sy’n gallu adnabod pobl ifanc sydd mewn pergyl o ddod yn ddigartref.
•Cefnogi’r Cyd-lynydd Ymgysylltiad a Datblygiad Pobl Ifanc i fonitro ac asesu’r cydberthynas rhwng pobl ifanc sydd ‘dan fwyaf o perygl o ddod yn ddigartref a pobl ifanc sydd ‘dan fwyaf o risg o beidio ymgysylltu efo addysg, hyfforddiant neu waith.
•Cefnogi’r Cyd-lynydd Ymgysylltiad a Datblygiad Pobl Ifanc i weithio gyda partneriaid i sicrhau bod nifer y bobl ifanc sy’n dod yn ddigartref yn hysbys, a gweithio tuag at ostyngiad mewn digartrefedd ymhlith pobl ifanc.
•Gweithio gyda phartneriaid a gwasanaethau allweddol, gan gynnwys Tai, Iechyd, Addysg, Gofal Cymdeithasol, Cyfiawnder Ieuenctid a’r Trydydd Sector, i ddatblygu dull cydweithredol a chydlynol i sicrhau bod y bobl ifanc hynny sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn cael eu cynorthwyo i gael y gefnogaeth a’r llety sy’n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw.
•Ymgysylltu a chefnogi pobl ifanc sydd wedi eu hadnabod ‘dan risg o ddigartrefedd NEU gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed, yn enwedig pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET, y rhai sy’n NEET ac sydd mewn gofal / ôl ofal a cyflwyno ymyriadau gyda’r nod o adnabod rhwystrau unigolion a cyd-lynu pecyn cefnogaeth i leihau’r risg o ddigartrefedd.
•Gweithredu fel eiriolwr dros y bobl ifanc, gan gynrychioli eu barn a’u hawliau lle bo hynny’n briodol.
•Cydweithio â phartneriaid allweddol i ddadansoddi llety a chefnogaeth ar draws yr Awdurdod fel bod darlun clir o ba mor dda y mae’r ddarpariaeth yn diwallu anghenion pobl ifanc y Sir.
•Cynnal a datblygu panel aml-asiantaethol (Fforwm Digartrefedd Ieuenctid) i nodi, olrhain a darparu cefnogaeth biriodol i bobl ifanc sydd wedi eu nodi mewn perygl o ddod yn ddigartref neu sy’n ddigartref ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cynnwys datblygu polisiau, protocolau a gweithdrefnau i gefnogi gwaith y panel.
•Cyflwyno Hyfforddiant i bartneriaid perthnasol fel eu bod yn gallu datblygu ymwybyddiaeth o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc a deall sut y gallent gefnogi pobl ifanc yn effeithiol.
•Cydweithio â’r holl bartneriaid mewnol ac allanol perthnasol i godi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd mewn ysgolion/sefydliadau addysg ôl 16.
•Paratoi, trefnu, cynllunio, gwerthuso, a rheoli adnoddau ar gyfer pob prosiect/rhaglen.
•Darparu'r swyddogaeth froceriaeth ac eiriolwr allweddol ar gyfer pobl ifanc a adnabyddir.
•Gweithio'n agos gyda phartneriaid/sefydliadau a chyfeirio pobl ifanc at gefnogaeth bersonol ychwanegol fel bo angen.
•Cysylltu â rhieni/gwarcheidwaid pobl ifanc i alluogi iddynt gynnig cefnogaeth ddeallus
•Paratoi a chefnogi pobl ifanc yn ystod cyfnodau trosglwyddo allweddol
•Cefnogi’r Arweinydd Tîm Cymorth 16-25/Arweinydd Tîm Digartrefedd i sefydlu mesurau perfformiad addas i alluogi’r Gwasanaeth Ieuenctid i fesur effaith y gefnogaeth a ddarperir i bobl ifanc
•Paratoi adroddiadau cynnydd yn cynnwys monitro a thracio cynnydd a deilliannau pobl ifanc.
•Sicrhau bod cofnod clir a chywir o’r gwaith yn cael ei fwydo i fewn i system reoli gwybodaeth, yn unol â’r systemau cofnodi a monitro y Gwasanaeth Ieuenctid.
•Sicrhau bod holl ddata personol yn cael ei warchod a'i drin yn effeithiol, yn unol â Phrotocol Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid cytunedig.
•Mynychu a chyfrannu at cyfarfodydd cynllunio’r Gwasanaeth Ieuenctid, cyfarfodydd Tîm, Panel Ymgysylltu Ôl 16 /cynadleddau achos/cyfarfodydd Llywodraeth Cymru/cyfarfodydd eraill fel bo angen.
•Cydymffurfio gyda unrhyw weithdrefnau a systemau y Gwasanaeth Ieuenctid.
•Gweithredu a glynu at weithdrefnau diogelu wrth weithio gyda phobl ifanc.
•Cydlynu at y Safonau Galwedigaethol i Waith Ieuenctid a Hawliau’r Plentyn.
•Sicrhau bod Llais person ifanc yn cael ei glywed trwy bopeth sydd yn cael ei gynnig a’i ddatblygu
•Mynychu hyfforddiant i weithwyr ieuenctid a drefnir gan, neu ar ran, y Cyngor
•Cyflawni tasgau a chyfrifoldebau eraill o natur debyg fel sy'n ofynnol o dro i dro gan Arweinydd Tîm Cymorth Ieuenctid 16-25 oed ac Arweinydd Tîm Digartrefedd parthed rhediad esmwyth y gwasanaeth.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Dylai ddeilydd y swydd feddu ar drwydded yrru llawn a bod yn berchen ar gar.
•Bydd angen i chi weithio ar draws y Sir
•Byddwn yn ail edrych ar y swydd ddisgrifiad ymhen blwyddyn i’r apwyntiad