Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Aelod allweddol o’r Gwasanaeth Dysgu a Datblygu’r Sefydliad sy’n
•Darparu cefnogaeth ddatblygol i holl staff ac Aelodau y Cyngor
•Cyfrannu at gynllunio gweithlu’r Cyngor drwy gynlluniau Talent, Prentisiaethau a Chynlluniau Yfory
•Cyfrannu at ddatblygu diwylliant sefydliadol e.e Ffordd Gwynedd, a hyrwyddo amgylchedd waith sy’n caniatáu i’r sefydliad a’i staff fod ar eu gorau
•Cyfrannu’n helaeth at drefniadau recriwtio ar draws y Gwasanaeth
•Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am
•‘Redeg’ elfennau gweithredol dysgu a datblygu y Gwasanaeth h.y. rhaglenni dysgu
•Ddarparu cefnogaeth weinyddiol ac ymarferol briodol ar gyfer pob elfen o waith y Gwasanaeth
•Sicrhau bod trefniadau a gweithdrefnau cadarn mewn lle i alluogi’r Gwasanaeth weithredu’n effeithiol ac effeithlon a darparu cyfleoedd datblygol priodol
•Aelod o dim Arweinyddiaeth y Gwasanaeth sy’n penderfynu ar faterion strategol
•Cyflawni rôl arbenigol o ran tefniadau gwaith ac egwyddorion busnes
•Mentor ar gyfer staff llai profiadol
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am ddatblygu a chynnal systemau dysgu e.e. Modiwl Datblygu Staff (MoDS), a sicrhau ansawdd cofnodion.
•Cyfrifoldeb am flaenoriaethu a rheoli a pryniant Adnoddau a deunyddiau dysgu megis ffeiliau dysgwyr a gwerslyfrau ar gyfer amrediad o raglenni e.e, IOSH, ILM, i-Act. Mae hyn yn golygu rheoli stoc – archebu, talu, storio a monitro lefel stoc.
Prif ddyletswyddau
DYSGU A DATBLYGU
•Sicrhau bod trefniadau a gweithdrefnau cadarn yn eu lle sy’n galluogi’r Gwasanaeth i weithredu’n effeithiol ac effeithlon, a darparu cyfleoedd datblygol priodol
•Cymryd trosolwg o’r ddarpariaeth ddysgu er mwyn gwneud penderfyniadau busnes gwrthrychol
•Adnabod anghenion datblygol y sefydliad
•Defnyddio’r adnoddau dysgu (hyfforddwyr ac offer) yn y modd mwyaf effeithiol
•Cydgordio a chydlynnu holl drefniadau dysgu a datblygu i sicrhau proffesiynoldeb, cysondeb ac ansawdd
•Prif gyswllt gyda darparwyr hyfforddiant allanol
•Cyfrannu’n ymarferol at raglenni dysgu e.e. Hwyluso
CEFNOGOL
•Arwain ar drefnu bod cefnogaeth weinyddiol ac ymarferiol ar gyfer pob elfen o waith y Gwasanaeth
•Arwain ar drefniadau hyfforddiant y gwasanaeth, gan gynnwys:
•Hysbysebu digwyddiadau
•Trefnu hyfforddwyr/darparwyr
•Trefnu ystafelloedd neu sesiynau rhithiol
•Sicrhau ansawdd deunyddiau dysgu
•Cylchredeg deunyddiau dysgu ayyb
•Cofnodi rhaglenni hyfforddi a gwybodaeth allweddol
•Arwain ar ddatblygu a chynnal systemau gweinyddol e.e. Modiwl Datblygu Staff (MoDS)
•Gweithio ar draws pob Adran o’r Cyngor i adnabod a blaenoriaethu anghenion datblygol
•Gweithio gyda datblygwyr TG i ddatblygu nodweddion newydd yn ogystal ag addasu rhai presennol
•Sicrhau cywirdeb ac ansawdd y wybodaeth ar MoDS yn ogystal â chywirdeb adroddiadau
BUSNES
•Chwilio am gyfleoedd busnes newydd a’u datblygu os yn briodol
•Dadansoddi gwybodaeth er mwyn adnabod a blaenoriaethu anghenion hyfforddiant
•Creu strategaeth fusnes /masnachol ar gyfer y Gwasanaeth Dysgu a Datblygu
•Arwain ar drefniadau caffael a chytundebu, yn unol â gweithdrefnau ariannol y Cyngor wrth brynu darpariaeth allanol yn ogystal ag offer/adnoddau/deunyddiau
•Cyfrifoldeb am weinyddu cyllideb
•Creu a gweinyddu contractau
•Datblygu, gweithredu a gweinyddu’r elfen fasnachol o ddarparu hyfforddiant i sefydliadau tu allan i’r Cyngor
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-