Swyddi ar lein
Swyddog Cefnogi Busnes - Cyf: 22-24785
£22,369 - £24,054 y flwyddyn | Parhaol
- Teitl swydd:
- Swyddog Cefnogi Busnes
- Adran:
- GwE - Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol
- Dyddiad cau:
- 06/04/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £22,369 - £24,054 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- GS4
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
SWYDDOG CEFNOGI BUSNES
Swydd barhaol
CYFLOG: GS4 (£22,369 -£ 24,054)
Oriau gwaith: 37awr yr wythnos
Lleoliad: yn un o’r 3 swyddfa rhanbarthol GwE (Caernarfon, Bae Colwyn, Yr Wyddgrug)
GwE yw’r gwasanaeth Gwella Ysgolion dros ogledd Cymru. Mae’n wasanaeth a gydrennir ar draws chwe Awdurdod Lleol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion. Craidd ein gwaith yw uchelgais gwirioneddol i weld yr ysgolion a’r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gefnogi meysydd neu fentrau penodol o fewn y gwasanaeth gan ddarparu cefnogaeth fusnes gyffredinol. Bydd dyletswyddau yn cynnwys yr holl drefniadau cefnogi busnes, h.y. cefnogi rhaglenni, cadw cofnodion i safon uchel, ymgymryd â gweinyddu ariannol, tracio a chofnodi gwariant, casglu data, bod yn brif pwynt cyswllt i’r holl randdeiliaid.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd Telerau ac Amodau Llywodraeth Leol yn berthnasol.
DYDDIAD CAU: 10.00yb, Dydd Iau, 6 Ebrill 2023
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Grenet ar 07580 711022 neu 01286 685044, neu e-bost anngrenet@GwEGogledd.Cymru
Am ragor o fanylion a ffurflen gais, ewch i www.gwynedd.gov.uk ‘Swyddi a Gyrfaoedd' neu ffonio 01286 679076.
Manylion Person
Manyleb Person: Swyddog Cefnogi Busnes GwE
MEINI PRAWF | HANFODOL | DYMUNOL | DULL ASESU |
ADDYSG a CHYMWYSTERAU | NVQ lefel 3 neu gymhwyster cyfwerth | Cymhwyster cydnabyddedig mewn busnes neu weinyddu | Ffurflen gais |
Cymhwyster cydnabyddedig mewn TG gydag elfen prosesu geiriau | Cymhwyster cydnabyddedig mewn prosesu geiriau a theipio | ||
PROFIAD | Peth profiad o weinyddiaeth busnes mewn amgylchedd swyddfa brysur | Profiad o ddefnyddio system rheoli cynnwys i gynnal gwefan | Ffurflen gais |
Profiad o drefnu cyfarfodydd a seminarau | Profiad o brosesu archebion ac anfonebau | ||
Profiad o gadw cofnodion mewn cyfarfodydd | |||
JOB RELATED KNOWLEDGE AND SKILLS | Defnydd effeithiol o becynnau TGCh.
Defnydd o offer/adnoddau perthnasol.
Sgiliau Cyfathrebu Da
Sgiliau Allweddell Da
Lefel uchel o gymhwysedd mewn prosesu geiriau (cyflymder a chywirdeb) | Ymwybyddiaeth o’r Ddeddf Ddiogelu Data a’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
| Ffurflen gais
Ymarfer
Cyfweliad
|
Defnydd helaeth o raglenni Microsoft | Defnydd dyfeisgar o daenlenni a meddalwedd cyflwyno | ||
Yn gallu bod yn greadigol wrth gynhyrchu a chyflwyno dogfennau | Deall polisïau, gweithdrefnau a safonau’r gwasanaeth. | ||
RHINWEDDAU PERSONOL | Sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol â phobl ar bob lefel o fewn y gwasanaeth |
| Ffurflen gais
Cyfweliad |
Gallu delio’n dringar a diplomataidd â phobl ar bob lefel | |||
Gallu gweithio ar ei liwt ei hun | |||
Hynod drefnus |
| ||
Gallu gweithio dan bwysau ac i derfynau amser tyn
| |||
Brwdfrydig a chydwybodol, gan edrych ar heriau gydag agwedd gadarnhaol
| |||
Gallu cadw cyfrinachedd ar bob achlysur
| |||
GOFYNION ERAILL | Gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm, gan ddeall eich rolau, eich cyfrifoldebau a’ch safle eich hun o fewn hyn.
Hyder i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Empathi gyda’r Gymraeg a diwylliant Cymru
Trwydded yrru lawn a defnydd o gerbyd |
| Ffurflen gais Cyfweliad |
Swydd Ddisgrifiad
DIBEN Y SWYDD
Darparu cefnogaeth fusnes gyffredinol i GwE, dan gyfarwyddyd/arweiniad uwch staff, gan ddefnyddio amrywiaeth o becynnau TGCh.
PRIF GYFRIFOLDEBAU
- Darparu cefnogaeth fusnes cyffredinol e.e. llungopïo, ffeilio, cwblhau ffurflenni safonol, ymateb i ohebiaeth arferol gan Awdurdodau Addysg, Llywodraeth Cymru, Ysgolion, Llywodraethwyr, Cynghorwyr, Rhieni/Gwarcheidwaid a rhanddeiliaid eraill.
- Dilysu a chynnal cofnodion/systemau rheoli gwybodaeth a gedwir â llaw ac yn gyfrifiadurol.
- Defnyddio pecynnau TGCh (e.e. Office 365, Outlook, Word, Excel, Access, TEAMS, Zoom, Wordpress, Padlet, Jamboard, Hwb) a chynhyrchu rhestrau/gwybodaeth/data yn unol â’r gofyn.
- Trefnu cyfarfodydd, cyrsiau hyfforddi a digwyddiadau (wyneb yn wyneb a rhithiol) – gan gynnwys y broses gofrestru, cadw cofnod o’r mynychwyr.
- Trefnu rhaglenni cyfarfodydd a chymryd cofnodion.
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ynghyd â datblygiad perfformiad yn unol â’r gofyn.
- Cyflenwi ar ran cydweithwyr ar yr un raddfa (neu uwch) yn ystod cyfnodau gwyliau, salwch ac adegau na ellir eu rhagweld.
- Ymgymryd â dyletswyddau derbynfa, ateb ymholiadau cyffredinol ar y ffôn ac wyneb yn wyneb.
- Ymgymryd â gweinyddu ariannol gan gynnwys archebu nwyddau / gwasanaethau, prosesu anfonebau ar gyfer eu talu a chofnodi archebion / gwariant.
- Bod yn gyfrifol am weinyddu a chefnogi meysydd neu fentrau penodol o fewn y gwasanaeth. Bydd y dyletswyddau’n cynnwys yr holl drefniadau busnes, h.y. casglu data, cynnal yr holl gofnodion i safon uchel, olrhain a chofnodi gwariant, prif bwynt cyswllt ar gyfer yr holl randdeiliaid.
- Diweddaru gwefan GwE pan fo angen.
- Fel aelod o dîm, cynghori ar faterion busnes er mwyn sicrhau trefn fusnes effeithlon y gwasanaeth.
- Bydd angen i’r deilydd swydd gymryd cyfrifoldeb ac arwain ar waith penodol o fewn y gwasanaeth.
- Cysylltu â’r holl staff yn GwE, gan gynnwys uwch swyddogion, a chyda gwasanaethau allanol yn ôl yr angen i sicrhau y darperir gwasanaeth effeithiol.
- Cynorthwyo â chydgysylltu prosiectau penodol yn unol â’r gofyn.
- Cynnal safonau uchel o ran sgiliau TGCh er mwyn darparu gwasanaeth effeithlon.
- Defnyddio pecynnau meddalwedd er mwyn gallu cwblhau gwaith brys penodol yn gyflym, pan fo angen.
CYFFREDINOL
- Cyfrifoldeb am hunanddatblygiad.
- Cyfrifoldeb cyffredinol i gyfrannu i weithrediad llwyddiannus GwE trwy gydnabod mai diben y gwasanaeth yw hwyluso a chefnogi dysgu yn y chwe Awdurdod Lleol. Mae hyn yn ei gwneud hi’n ofynnol i staff weithio gyda’i gilydd mewn timau ac i dderbyn hyblygrwydd rolau er mwyn bodloni gofynion ac amgylchiadau sy’n newid.
- Bydd deilydd y swydd yn arddel ac yn arddangos y safonau uchaf o ymddygiadau a gwerthoedd y gwasanaeth.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Diogelwch y gwasanaeth.
- Gweithredu o fewn polisïau’r gwasanaeth yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y gwasanaeth. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amlinelliad o’r dyletswyddau yn unig yw’r uchod. Disgwylir i ddeilydd y swydd ymgymryd â chyfrifoldebau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.