Swyddi ar lein
Uwch Syrfewr Meintiau Dros Dro
£37,261 - £39,493 y flwyddyn | Dros dro
- Cyfeirnod personel:
- 22-24769
- Teitl swydd:
- Uwch Syrfewr Meintiau Dros Dro
- Adran:
- Priffyrdd, Peirianneg a YGC
- Gwasanaeth:
- YGC
- Dyddiad cau:
- 23/03/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro blwyddyn | 37 Awr
- Cyflog:
- £37,261 - £39,493 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS5
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth]
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gareth Lloyd Wright ar 01758 704 045
Swydd dros-dro yn y lle cyntaf, gyda’r posibilrwydd o benodi’n barhaol maes o law.
Lleoliad - Caernarfon / Pwllheli
Rhagwelir cynnal cyfweliadau, dyddiadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 23.03.2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
•Gallu gweithio dan bwysau ac fel rhan o dîm.
•Cynorthwyo a mentora staff iau.
Dymunol
•Y gallu i reoli maes gwaith
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
•Profiad mewn Archwilio Meintiau
•Profiad perthnasol mewn diwydiant.
•Gradd mewn pwnc amgylchedd adeiledig neu cymhwyster proffesiynol perthnasol megis MRICS/AssocRICS neu gyfwerth
Dymunol
•Gradd mewn Archwilio Meintiau.
•Cymhwyster proffesiynol perthnasol megis MRICS/Assoc RICS neu gyfwerth.
Profiad perthnasol
Hanfodol
•Gwybodaeth am faterion archwilio meintiau sy'n ymwneud â'r amgylchedd adeiledig.
•Wedi cymeryd y blaen i ddatblygu amcangyfrif costau ar gynlluniau
Dymunol
•Profiad o gynorthwyo gyda rheolaeth ariannol prosiectau.
•Profiad o gynorthwyo gyda rheoli prosiectau.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Gwybodaeth am dechnegau amcangyfrif.
•Sgiliau TG.
•Profiad o weithio fel rhan o dîm.
•Dealltwriaeth o gontractau NEC a/neu JCT
Dymunol
•Profiad o weithio o fewn deddfwriaeth berthnasol.
•Adnabod blaenoriaethau o fewn rhaglenni gwaith.
•Gwybodaeth am ddyletswyddau a chyfrifoldebau CDM.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Rheoli prosiectau, yn unol â chyfarwyddyd y Prif Beiriannydd / Rheolwr yr Uned, er mwyn sicrhau bod gofynion penodol y briff, a ddarperir gan y Cleient o ran costau, amser ac ansawdd, yn cael eu cyflwyno’n llwyddiannus.
•Bod yn weithredol yn natblygiad a gweithrediad technegau a systemau rheoli prosiect (e.e. Gweithdrefn Rheoli Prosiect YGC, PRINCE2, Llawlyfr Rheoli Prosiect y Cyngor ac ati) i sicrhau bod YGC yn ymrwymo’n llawn i fodloni anghenion Cleientiaid i ddarparu gwerth am arian gan weithredu ar sail fasnachol ac addasu’i hun i gystadlu’n effeithiol.
•Bod yn gyfrifol am reoli timau prosiect hyblyg, o fewn yr Uned a’r Gwasanaeth yn gyffredinol, a rhoi arweiniad i aelodau’r tîm.
•Rhoi sylw i’r holl ofynion yng nghyd-destun rheolaeth ariannol prosiectau a rhoi adborth ariannol i'r Prif Beiriannydd / Rheolwyr yr Unedau ar faterion prosiect a llwyth gwaith yn rheolaidd.
•Perfformio ymrwymiadau'r contract ar brosiectau adeiladu.
•Datrys materion cytundebol gyda sefydliadau megis contractwyr ac ymgynghorwyr.
•Adolygu a datblygu gweithdrefnau newydd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor, ynghyd â datblygiadau cenedlaethol.
•Ymdrin â phob menter wella Genedlaethol a'r UE.
•Cyflawni gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
•Datblygu a chynnal y sgiliau a'r wybodaeth dechnegol sydd ei hangen i gynnal a chyflawni gwasanaethau craidd YGC.
•Datblygu rôl Syrfëwr Meintiau o fewn yr Adran
•Darparu rôl arbenigol Syrfeo Meintiau i weddill adrannau YGC.
•Cynnal safonau yr arbenigedd a gweithredu i safonau perthnasol a phroffesiynol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Canfod a chynnal y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â:-
•dull caffael ar gyfer prosiectau isadeiledd
•safonau a datblygiadau technegol (gan gynnwys technoleg gyfredol)
•cyfrifoldebau proffesiynol a statudol (yn cynnwys e.e. y rhai dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, Deddf Adeiladu 1984, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1982, Rheoliadau Cynefinoedd 1994 a Rheoliadau addas e.e. rheoliadau CDM) a’u cymhwysiad i’r gwaith a’r swyddogaethau sy’n cael eu gweithredu.
•Rheoli staff eilaidd.
•Dirprwyo i’r rheolwr.
•Sicrhau bod YGC yn ateb gofynion y Cyngor.
•Cymryd cyfrifoldeb llawn am reolaeth ariannol eu prosiectau.
•Sicrhau y caiff holl daflenni amser a chymeradwyaeth staff eu cwblhau yn unol â gweithdrefnau YGC.
•Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch a chydweithredu â chynrychiolydd Iechyd a Diogelwch YGC.
Prif ddyletswyddau
Click here to enter text.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
•datblygu a chynnal canolfan weinyddol ymarferol a phroffesiynol gyda chleientiaid.
•cyfrifol am oruchwylio a rheoli gweithgareddau ymgynghorwyr arbenigol ac isgontractwyr.
•ymgymryd â rôl y “tyst arbenigol” yn ôl yr angen.
•sicrhau fod Cynllun Busnes YGC yn cael ei ddatblygu a'i gynnal i sicrhau fod yr Uned yn perfformio i'r eithaf.
•cynorthwyo wrth ddatblygu a chynnal holl dempledi dogfennau a gweithdrefnau YGC.
•Paratoi cynlluniau iechyd a diogelwch cyn tendro.
•marchnata gwaith a galluoedd yr uned i gleientiaid presennol a chleientiaid posib y dyfodol.
•rheoli prosiectau Lefel 2+3
•cynorthwyo i reoli prosiectau Lefel 1
•bod yn rheolwr prosiect ar gynlluniau a chynnal astudiaethau dichonoldeb, casglu data, ymchwiliadau cychwynnol, asesiadau technegol, a gweithdrefnau dylunio, gweinyddol, ansawdd ac ariannol ar gyfer gwaith fydd yn cael ei wneud ar ran y Cleient a’r holl weithgareddau sy’n ofynnol gan y Cleient yn y rôl honno.
•Sicrhau bod prosiectau yn cydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
•Paratoi rhaglenni a rhagolygon gwariant ar gyfer prosiectau. Monitro ac adrodd i’r Cyfarwyddwr Prosiect (Prif Beiriannydd / Rheolwr Uned) ar gynnydd a chostau gwirioneddol ac argymell a chymryd camau cywiro pan fo angen.
•goruchwylio rheolaeth ariannol, weinyddol a thechnegol gwaith adeiladu, ymchwilio, asesu neu waith cynnal a chadw a wneir ar ran y Cleient. Cynorthwyo wrth ddatrys materion cytundebol ar ran cleientiaid.
•ymgymryd â'r dyletswyddau sy'n ofynnol dan Reoliadau CDM.
•ymgysylltu gyda Goruchwylwyr Safle drwy gydol oes y prosiect.
•sicrhau bod systemau a meddalwedd cyfrifiadurol ar gael a’u bod yn addas i’r uned allu perfformio ar ei gorau. Cysylltu â'r Tîm Systemau.
•Cysylltu â gwasanaethau eraill, cyfadrannau eraill, Aelodau’r Cyngor, ymgymerwyr statudol, awdurdodau eraill, sefydliadau allanol, ac unigolion sy’n ymwneud â holl agweddau’r gwaith.
•goruchwylio ac arwain gwaith a datblygiad staff eilaidd.
•adrodd i uwch staff, a derbyn cyfarwyddiadau ganddynt.
•dyletswyddau gweinyddol a phroffesiynol eraill sy’n berthnasol, ac yn gymesur ag awdurdod y swydd.
Amgylchiadau arbennig
•profiad helaeth o reoli prosiectau, ymdrin â hawliadau, materion dyfarnu neu gymodi.
•Ennill a chynnal cymwysterau proffesiynol, hyfforddiant a phrofiad sy’n angenrheidiol i gyflwyno gwasanaeth proffesiynol i bob cleient (e.e. MRICS/AssocRICS, C.Eng/I.Eng MICE, MIStructE ac ati).
•y gallu i reoli staff a’r gwasanaeth mewn swydd uwch ac o fewn cyfyngiadau ariannol a chyfreithiol.
•y gallu i weithio dan bwysau. Gallu ysgogi staff er mwyn sicrhau llwyddiant YGC.
•Yr angen i weithio tu allan i oriau swyddfa mewn Ymchwiliadau Cyhoeddus, ymgynghoriadau, arddangosiadau a chyfarfodydd y Cyngor a phan fyddwch yn cael eich galw allan i sefyllfaoedd argyfwng.