NODWEDDION PERSONOL   
HANFODOL 
Dangos ymddygiad ac agwedd cywir 
- Bod yn deg a gallu trin pobl gyda pharch  
- I fod yn gwrtais ac yn bositif 
 
Dangos ymrwymiad i waith neu brosiect 
- I fod yn gyfrifol am wneud y dyletswyddau a chyfrifoldebau rôl prentis i’r lefel uchaf bosib  
- I gyflawni pob dyletswydd sy’n ofynnol  
 
Gweithio fel rhan o dîm  
- Gallu gweithio mewn tîm  
- I gyfrannu at gyfarfodydd tîm a chyfathrebu'n rheolaidd ac yn effeithiol gydag aelodau eraill y tîm  
 
Cyfathrebu gyda hyder  
- Y gallu i gyfathrebu gyda hyder yn y Gymraeg a’r Saesneg  
- Y gallu i ddangos y sgiliau cywir i allu cyfathrebu yn gywir ar gyfer unrhyw gynulleidfa  
 
Bod yn barod i ddysgu  
- I ymrwymo i’th ddatblygiad i gyflawni dy swydd a’r brentisiaeth  
- Adnabod anghenion datblygu personol yn barhaus a gweithredu arnyn nhw  
 
Deall beth sydd ei angen i weithio i’r Cyngor 
- Deall y sialensiau sydd yn ein wynebu fel Cyngor  
- Manteisio ar gyfleoedd i fod yn greadigol   
- Sicrhau dy fod yn rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr wyt yn ei wneud 
DYMUNOL
----
 
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL  
HANFODOL 
Wedi cymhwyso i lefel 3 (o leiaf) gan gyrraedd y gofynion isod:  
 
Un ai: ·  
 
3 Lefel A gradd C neu Uwch · Cymhwyster galwedigaethol Lefel 3 cyfatebol (e.e. BTEC Cenedlaethol Lefel 3 Diploma, Teilyngdod neu uwch)  
 
Er gwybodaeth, bydd unrhyw gyfuniad o gymwysterau gyda gradd gyfatebol yn dderbyniol. 
DYMUNOL 
----
 
PROFIAD PERTHNASOL   
HANFODOL 
----
DYMUNOL 
----
 
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL 
HANFODOL 
----
DYMUNOL 
----
 
ANGHENION IEITHYDDOL 
 
Gwrando ac siarad 
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith. 
Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd.  Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau. 
 
Darllen a deall 
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. 
Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.) 
 
Ysgrifennu 
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).