Swyddi ar lein
Cyfrifydd Grwp x2 - Cyf: 22-23461
£43,516 - £45,495 y flwyddyn | Parhaol
- Teitl swydd:
- Cyfrifydd Grwp x2
- Adran:
- Cyllid
- Gwasanaeth:
- Cyfrifeg ac Ariannol
- Dyddiad cau:
- 01/12/2022 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £43,516 - £45,495 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS5
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Ffion Madog Evans, Uwch Reolwr Cyllid ar 01286 679133
Dyddiad cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 01/12/2022
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Agwedd ymroddgar a chydwybodol tuag at waith.
Y gallu i weithio dan bwysau ac i amserlen benodol.
Y gallu i ysgogi eraill a chydweithio mewn tîm.
Y gallu i ddefnyddio doethineb.
Cyfathrebu materion cymhleth yn glir a chryno.
Yn fodlon cymryd perchnogaeth o faes llafur.
Yn hyblyg gan gydweithio yn effeithiol ag eraill.DYMUNOL
Gallu i gymryd arweiniad.
Y gallu i ddefnyddio doethineb.CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cyfrifydd cymwysedig neu rannol gymwysedig neu gyfatebol.DYMUNOL
Cymhwyster Cyfrifeg cydnabyddedig llawn.
Gradd.PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o ddarparu cefnogaeth gyllidol i wasanaethau.
Profiad o fonitro rhaglenni gwariant a rheolaeth gyllidebol.
Profiad o baratoi cyfrifon refeniw o fewn amserlen.
Profiad o ymdrin â systemau ariannol.
Profiad o ddefnyddio technoleg er mwyn darparu tafluniadau ariannol.DYMUNOL
Profiad o ddarparu cefnogaeth gyllidol i wasanaeth(au) mewn corff cyhoeddus.
Profiad o oruchwylio staff.
Profiad o adnabod anghenion rheolwyr (i reoli eu cyllidebau) a darparu
gwasanaethau defnyddiol ar eu cyfer.SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gwybodaeth am ddatblygiadau diweddaraf ym maes cyfrifeg a’u perthnasedd i Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Sgiliau defnyddiwr systemau cyfrifiadurol.
Sgiliau cyfathrebu effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Gwybodaeth drylwyr o egwyddorion rheolaeth cyllidebau.DYMUNOL
Gwybodaeth am gyfarwyddiadau CIPFA parthed cyfrifo.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Arwain tîm sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth Cyllid a Chyfrifeg i Adran / Adrannau’r Cyngor yn y modd mwyaf effeithlon ac effeithiol a chyfrannu at alluogi’r Adran / Adrannau i gyflawni ei nod a’i amcanion.Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Rheoli tri aelod o’r tîm cyfrifeg o ddydd i ddydd a chyfrifoldeb cyffredinol am yr offer a ddefnyddir o fewn maes y swydd.Prif Ddyletswyddau. .
Disgwylir i’r deilydd arwain y Tîm sydd yn darparu gwasanaeth cefnogol cyfrifeg ariannol a chyfrifeg rheolaethol i’r Adran / Adrannau fel a ganlyn:• Sicrhau y cyflawnir y targedau a osodir gan yr Uwch Reolwr Cyllid a chymryd camau i gywiro unrhyw lithriad neu ostyngiad mewn ansawdd.
• Gweithredu fel rheolwr llinell i’r staff cyllid sy’n gweithredu gyda chyllidebau’r Adran / Adrannau perthnasol ac annog y staff i weithio i’w llawn botensial, gan fesur perfformiad yn erbyn targedau.
• Sicrhau fod gofynion y Pennaeth / Penaethiaid Adran a’r rheolwyr yn cael eu cyflawni yn unol ag unrhyw ofynion â osodir mewn cytundeb lefel gwasanaeth.
• Cyflawni gwaith ar gyllidebau a chyfrifon yr Adran / Adrannau perthnasol, sy’n cydymffurfio gyda safonau proffesiynol priodol, gyda chyfarwyddiadau’r Uwch Reolwr Cyllid neu’r Pennaeth Cyllid ac yn unol ag unrhyw bolisïau corfforaethol perthnasol.
• Paratoi cyllidebau a chyfrifon terfynol yr Adran / Adrannau dan sylw, yn unol â chanllawiau a osodir gan yr Uwch Reolwr Cyllid neu’r Pennaeth Cyllid.
• Cyflawni swyddogaethau cyllidebol sy’n arbennig i feysydd yr Adran / Adrannau dan sylw, yn unol â’r gofynion statudol perthnasol, a chymryd cyfrifoldeb personol am gyllidebau cymhleth lle mae angen mewnbwn lefel uchel.
• Monitro cyllidebau refeniw a chyfalaf yr Adran / Adrannau dan sylw gan baratoi adroddiadau fel bo’n berthnasol ar gyfer y Pennaeth / Penaethiaid Adran a’r rheolwyr, yr Uwch Reolwr Cyllid a/neu’r Pennaeth Cyllid.
• Sefydlu ac adolygu systemau casglu gwybodaeth ariannol, gan ymgynghori gyda’r Pennaeth / Penaethiaid Adran a’r rheolwyr lle bo’r angen er mwyn sicrhau y gellir ymarfer rheolaeth gyllidol gadarn.
• Sicrhau fod ceisiadau grant cywir yn cael eu cyflwyno ar amser i gyrff allanol a bod trefniadau monitro grantiau priodol yn bodoli.
• Cynorthwyo’r Uwch Reolwr Cyllid i ystyried unrhyw ddatblygiadau cyfrifyddol ym maes y gwasanaethau dan sylw, a chynorthwyo i ddatblygu trefniadau i gydymffurfio â hwynt drwy gadw’n ymwybodol o ddatblygiadau perthnasol.
• Mynychu cyfarfodydd, pwyllgorau, gweithgorau neu baneli perthnasol yn ôl gofynion yr Uwch Reolwr Cyllid a chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu strategaeth ariannol yr Adran / Adrannau dan sylw.
• Darparu cyngor, gwybodaeth neu adroddiadau ariannol i’r Pennaeth / Penaethiaid Adran a’r rheolwyr fel bo’r angen.
• Darparu ac adolygu ystadegau y gwasanaethau perthnasol yn unol â gofynion statudol a safonau cyfrifeg cydnabyddedig.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.b.
• Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol yn achlysurolDim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.