Pwrpas y swydd
•Adennill costau sy’n deillio o ddifrod gan drydydd parti i eiddo Llywodraeth Cymru ar y Rhwydwaith Cefnffyrdd.
•I gynorthwyo a chefnogi’r Rheolwr Rheoli Datblygiad a Hawliadau Trydydd Parti mewn perthynas â hawliadau ar gyfer ac yn erbyn Llywodraeth Cymru, a gweinyddu’r drefn Cyngor Rheoli Datblygu.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am wybodaeth bersonol sensitif, offer TG - gliniadur a sustemau basdata sydd eu hangen i gyflawni dyletswyddau’r swydd.
Prif ddyletswyddau
•I alluogi a sicrhau adennill costau sy’n deillio o ddifrod i eiddo Llywodraeth Cymru ar y Rhwydwaith Cefnffyrdd.
•Cysylltu gydag Awdurdodau’r Bartneriaeth, cyrff eraill a staff yr Asiantaeth i adnabod rhai sydd yn achosi difrod i eiddo Llywodraeth Cymru.
•Adnabod unigolion drwy ymchwilio rhagweithiol ble mae’r wybodaeth a ddarparwyd gan yr awdurdodau partneriaid yn anghyflawn neu’n gyfyngedig. Hefyd, i ddatblygu prosesau i gynorthwyo’r Asiantaeth gyda’r broses adennill dyledion.
•I gasglu a chadarnhau priodoldeb holl gostau gellir eu hadennill ac i godi anfonebau dyledwyr ar gyfer costau adennill gan y partïon cyfrifol neu eu cynrychiolwyr.
•I gasglu a chadarnhau priodoldeb holl gostau gellir eu hadennill ac i godi anfonebau dyledwyr ar gyfer costau adennill gan y partion cyfrifol neu eu cynrychiolwyr.
•I gysylltu â phartïon cyfrifol a / neu eu cynrychiolwyr i hyrwyddo’r broses adennill dyledion.
•I fonitro adferiad ariannol y dyledwr o fewn Cyfriflyfr Cyngor Gwynedd (Cedar Efinancials).
•I gynghori ar ddatblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer rheoli adennill costau am ddifrod i eiddo Llywodraeth Cymru.
•Paratoi adroddiadau rheoli perfformiad rheolaidd ar adennill costau a’u gwerth, yn unol â gofynion Rheolwyr yr Asiantaeth a Llywodraeth Cymru.
•Cysylltu â Llywodraeth Cymru, Awdurdodau’r Partneriaeth, y Cyhoedd yn gyffredinol, Yswirwyr, ac unrhyw fudd-ddeiliad eraill ar holl faterion sy’n ymwneud â hawliadau yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
•Ymateb i ymholiadau gan Lywodraeth Cymru, y Cyhoedd, Yswirwyr, Aseswyr Colledion a Chyfreithwyr fel bo angen.
•Monitro ac adrodd cynnydd ar holl hawliadau.
•Paratoi gwybodaeth ac adroddiadau rheoli perfformiad rheolaidd i’r Rheolwr Busnes ac Ansawdd mewn perthynas ag adennill hawliadau trydydd parti.
•I fynychu cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr o Awdurdodau’r Bartneriaeth a staff mewnol i wella cyfraddau adennill.
•Sicrhau bod targedau a osodwyd gan y Rheolwr Caffael a Pherfformiad yn cael ei chyflawni a chymryd camau priodol i unioni unrhyw lithrant.
•Yn ôl yr angen, cynorthwyo’r Rheolwr Rheoli Datblygiad a Hawliadau Trydydd Parti wrth ddelio a phrosesu hawliadau trydydd parti yn erbyn Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys gweithio’n agos gyda swyddogion yr Asiantaeth, Uned Archwilio Hawliadau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau eraill.
•Yn ôl yr angen, cynorthwyo’r Rheolwr Rheoli Datblygiad a Hawliadau Trydydd Parti mewn gweinyddu gweithdrefn rheolaeth datblygu’r Asiantaeth. Bydd hyn yn golygu gweithio’n agos gyda swyddogion yr Asiantaeth, swyddogion Llywodraeth Cymru, awdurdodau cynllunio perthnasol ac ymgynghorwyr allanol.
•Unrhyw ddyletswyddau eraill sydd eu hangen wrth reoli a gweithredu proses Hawliadau Trydydd Parti Llywodraeth Cymru sy’n gymesur â graddfa’r swydd.
•I gyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru, a sefydliadau a chyrff allanol.
•I gydweithredu a chysylltu gyda staff Adrannau eraill o’r Cyngor ac Awdurdodau’r Bartneriaeth er mwyn hyrwyddo rheolaeth effeithiol o’r Asiantaeth.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Bod yn ymwybodol o ofynion Deddfau Iechyd a Diogelwch a chydweithio gyda Swyddog Iechyd a Diogelwch a Sicrwydd Ansawdd y Gyfadran i sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda’r gofynion Iechyd a Diogelwch perthnasol.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Rhestr ddarluniol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn rhan o’r broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd a gweithredu ar unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â natur y swydd a’i graddfa yn unol â chais y Pennaeth Gwasanaeth/Rheolwr neu’r Cyfarwyddwr Strategol.
•Y gallu i ddelio gyda chwsmeriaid / sefyllfaoedd sensitif.
•Y parodrwydd i weithio tu allan i oriau gwaith arferol yn ôl yr angen.
•Y gallu i gymryd camau priodol mewn achos o ddarganfod twyll, ac i gyfathrebu gyda’r heddlu a chyflwyno tystiolaeth yn ôl yr angen.
Amgylchiadau arbennig
•Y parodrwydd i weithio tu allan i oriau gwaith arferol yn ôl yr angen.
•Y gallu i gymryd camau priodol mewn achos o ddarganfod twyll, ac i gyfathrebu gyda’r heddlu a chyflwyno tystiolaeth yn ôl yr angen.