Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Hybu a chefnogi ffordd iach o fyw i’r sawl sy’n defnyddio’r Canolfannau a’r gymuned ehangach.
•Sicrhau bod y sawl sy’n ymweld â’r Ganolfan yn gallu ei ddefnyddio’n ddiogel, tra’n cynnig gofal cwsmer o safon uchel.
•Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau yn y maes Chwaraeon a Hamdden.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Paratoi offer a chyfleusterau trwy ei osod a chwblhau tasgau cynnal a chadw rhesymol.
•Trin arian a stoc yn unol a threfniadau’r cwmni.
Prif ddyletswyddau
•Cynllunio ac arwain gweithgareddau chwaraeon a ffitrwydd mewn dull ysgogiad ôl ac ysbrydoledig.
•Ymgysylltu gyda chwsmeriaid er mwyn adnabod eu hamcanion a’u dyheadau ynglŷn â dilyn ffordd iach o fyw.
•Hybu gwasanaethau a chynnyrch y Ganolfan i gwsmeriaid a darpar gwsmeriaid.
•Ymgymryd â dyletswyddau’r dderbynfa fel bo’r angen.
•Darparu safon uchel o ofal cwsmer.
•Ymgymryd â thasgau glanhau a sicrhau safonau glendid uchel.
•Sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu goruchwylio’n ddiogel mewn ffordd gwrtais a boneddigaidd gan gynnwys cyfrifoldebau goruchwylio pwll mewn canolfannau gwlyb.
•Gosod offer a’i dynnu lawr yn ôl gofynion y rhaglen.
•Hyrwyddo’r iaith Gymraeg o fewn y Ganolfan gan ddefnyddio’r iaith fel prif iaith y gweithle.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad gan gynnwys cwblhau modiwlau perthnasol y cymhwyster Prentisiaeth yn ogystal â mynychu a chwblhau unrhyw hyfforddiant ychwanegol sydd yn cael ei drefnu.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cwmni.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cwmni yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cwmni. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymo i leihau allyriadau carbon y Cwmni yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cwmni.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau arbennig
•Dylai d’eilydd y swydd fod yn hyblyg ynghylch patrwm/shifftiau gwaith a hefyd lleoliadau gwaith.
•Bydd angen gweithio shifftiau yn cynnwys gwaith gyda’r nos ac ar ben wythnosau.