Pwrpas y Swydd
• Hybu a chefnogi datblygiad athroniaeth Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol ( CYC) Postive Behaviour Support (PBS) (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Positive Behaviour Support ). Arddel dull gwaith sy'n canolbwyntio ar gryfder y person yng ngwasanaethau Anabledd Dysgu yng Ngwynedd.
• Darparu asesiadau holistaidd sy'n rhoi’r person yn ganolig i’r holl rydym yn wneud.
• Mentora a chefnogi rheolwyr, staff, gofalwyr a’r unigolion rydym yn cefnogi i sicrhau bod model (PBS) yn cael ei weithredu o fewn gwasanaethau i wella ansawdd bywyd, hyrwyddo a pharchu hawliau ag hawliau dynol unigolion gydag Anabledd Dysgu.
• Hyfforddi a mentora’u er mwyn darparu gwell cefnogaeth drwy fodelu arfer da, darparu adborth, cwblhau asesiadau a chynnig cefnogaeth i’r tîm ehangach.
• Cydweithio’n agos gyda thimoedd aml-ddigyblaethol,teuluoedd darparwyr mewnol, darparwyr allanol a'r trydydd sector i hyrwyddo ethos fframwaith PBS .
Cyfrifoldeb am Adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau .
1. Arwain a Mentora - Ysgogi, annog a grymuso rheolwyr a staff i weithredu PBS drwy gydweithio mewn partneriaeth. Creu diwylliant o barch er mwyn sicrhau ansawdd bywyd da i’r unigolion a wasanaethir. Rhoi arweiniad ac adborth i staff trwy drosglwyddo gweledigaeth ag ethos PBS.
2. Rheoli Adnoddau - Cynllunio a monitro i sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel a gwelliant parhaus. Cynnig gwerth am arian wrth flaenoriaethu, rheoli a monitro defnydd effeithiol o adnoddau; a chydnabod fod gwybodaeth, gallu a sgiliau hefyd yn adnoddau. Sicrhau bod cynlluniau yn canolbwyntio ar ganlyniad o werth ag ymarfer ar sail y dystiolaeth.
3. Perfformio a Datblygu - Adnabod cryfderau staff a'u meysydd datblygu. Canolbwyntio ar wella perfformiad, monitro a gwerthuso drwy ddefnyddio’r dull hyfforddi tri cham.
4. Datrys Problemau – Gweithio mewn partneriaeth i wneud penderfyniadau o werth ac ymateb yn effeithiol i flaenoriaethau wrth iddynt newid.
5. Cyfathrebu - Rhannu a gwrando ar wybodaeth, barn a syniadau. Defnyddio dulliau cyfathrebu priodol. Rhannu'r hyn yr ydych yn gwybod er mwyn cynyddu cymhelliant eraill.
6. Ymwybyddiaeth o'r cyd-destun - Gweithio'n effeithiol a chael dealltwriaeth o fewn fframwaith gwleidyddol y Cyngor, ac ymwybyddiaeth o'r materion sy'n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaeth ar wahanol lefelau. Meithrin cysylltiadau gydag eraill i elwa o arfer da er mwyn gwella darpariaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth.
7. Hunan reoli - gosod esiampl i eraill trwy fod yn rhagweithiol, yn onest ac yn gyson a thrwy gymryd cyfrifoldeb am yr hyn yr ydych yn ei wneud. Sicrhau cydymffurfiaeth gyda safonau proffesiynol. Gweithredu yn unol â gofynion y ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014 a chanllawiau a pholisïau’r gwasanaeth a Chyngor Gwynedd (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru <https://socialcare.wales/hub/sswbact>).
Cyfrifoldebau penodol
8. Cwblhau amrediad o asesiadau holistaidd e.e. strategaethau haen 1, synhwyraidd, hawliau dynol, ansawdd bywyd, amgylcheddol, deall ymddygiad sy’n peri pryder, meithrin cydberthynas, sydd i gyd yn cefnogi’r broses tuag at asesiad cynhwysfawr.
9. Gweithio mewn partneriaeth gyda'r sawl sy’n derbyn y gefnogaeth, rheolwyr, staff cefnogol, teuluoedd a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i lunio cynllun sy'n seiliedig ar asesiadau ag i gynorthwyo wrth weithredu’r cynllun.
10. Hyrwyddo egwyddorion PBS sy'n rhoi'r person yn ganolig, mentora timau i wneud hyn yn rhan annatod o arferion gwaith. Hyrwyddo profiadau staff yn gadarnhaol wrth weithio mewn amgylchedd heriol.
11. Datblygu canlyniadau perfformiad allweddol fydd yn mesur llwyddiant y cynlluniau PBS.
12. Cynnig cyngor ac arweiniad ar gynllunio PBS o fewn gweithrediad dyddiol y gwasanaethau.
13. Canfod ffyrdd i unigolion i gael canlyniadau ymddygiad cadarnhaol - gwella cyfleoedd ac uchafu eu potensial trwy greu ffyrdd o gymryd rhan mewn gweithgareddau a chyfleoedd yn eu cymunedau. Dangos lleihad mewn ymddygiad sy'n peri pryder, yn arbennig arferion sy'n cyfyngu; a hyrwyddo rheoli risg cadarnhaol a rhagweithiol fel bod unigolion yn medru byw bywydau prysur a llawn a gwerthfawr heb gyfyngiadau diangen.
14. Sicrhau bod hyfforddiant o safon uchel yn cael ei adnabod a'i ddarparu i wella sgiliau a chodi hyder staff.
15. Monitro a chynnig mentora uniongyrchol i reolwyr a staff cefnogol sy'n gweithio'n agos gyda defnyddwyr gwasanaeth i sicrhau bod arferion y gwasanaeth yn gwella'n effeithiol.
16. Mynychu cyfarfodydd tîm ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel bo’r angen ac a ystyrir yn addas gan y Rheolwr.
17. Cynnal ac ysgrifennu asesiadau PBS. Casglu a dadansoddi data a chyflwyno adroddiadau fel ystyri’r yn addas gan y eich rheolwr
18. Bod yn ffynhonnell gwybodaeth ac arbenigedd ymgynghorol parthed strategaethau ymddygiad cadarnhaol ble bo'r angen.
19. Er bydd goruchwyliaeth, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gymryd yr awenau, a chymryd cyfrifoldeb a pherchnogaeth dros reoli'r gwaith a diwallu cyfyngiadau amser angenrheidiol gyda lefel uchel o gyfrifoldeb personol.
20. Cyfrifoldebau Eraill
a. Ymrwymo i ddarparu gofal cwsmer o safon uchel ac i helpu pobl yn unol ag egwyddorion Ffordd Gwynedd.
b. Bod yn gyfrifol am hunanddatblygiad.
c. Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
d. Gweithio o fewn polisïau a threfniadau’r Cyngor.
e. Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor.
f. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei drin mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
g. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, ac ati
-