Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cyfrannu at waith y tîm sy’n darparu gwasanaeth cyfieithu i’r Cyngor a’i bwyllgorau.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer cyfieithu ar y pryd symudol (Sibrwd) yn ôl y galw
Prif ddyletswyddau
•Cyfieithu gwaith ysgrifenedig sydd i’w gyflwyno i bwyllgorau’r Cyngor ac i adrannau’r Cyngor gan ddarparu’r cyfieithiad yn newis arddull neu ffurf comisiynydd y gwaith.
•Gwirio eich gwaith eich hun a gwaith aelodau eraill y tîm er mwyn sicrhau cysondeb o ran arddull, geirfa ac ati.
•Prawf ddarllen dogfennau sy’n cael eu hanfon i’r Uned Gyfieithu er mwyn sicrhau arddull addas, cywirdeb iaith, geirfa gywir ac ati.
•Mynychu cyfarfodydd yn ystod a thu allan i oriau swyddfa arferol gan ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn y cyfarfodydd hynny.
•Cludo a gosod offer cyfieithu’r Cyngor (Sibrwd) yn ôl yr angen pan nad yw’r Technegydd Offer Cyfieithu ar gael i osod offer cyfieithu mawr neu pan nad yw’r lleoliad yn addas i ddefnyddio’r offer cyfieithu mawr.
•Ymateb i ymholiadau gan gynghori swyddogion a defnyddwyr eraill y gwasanaeth ar gyfieithiadau ac ati.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Mae gan yr Adran weinyddiaeth yn y canol a’r ardaloedd; un tîm sy’n gweinyddu’r ddau a disgwylir i ddeiliaid holl swyddi’r adain amlygu hyblygrwydd yn eu gwaith gan gofio’r dimensiwn hwn.