Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Chwarae rôl ganolog ym mhob agwedd o’r gwaith sydd yn gysylltiedig a rhedeg prosiectau blaenoriaeth yr Adran Economi a Chymuned, gan arwain, cyflawni, rheoli a pherchnogi prosiectau sydd yn rhan o Fframwaith Adfywio Gwynedd a’r Cynlluniau Ardal. Hynny trwy ystyriaeth lawn o adnoddau, polisïau a blaenoriaethau’r Cyngor a datblygiadau perthnasol ar y lefel ranbarthol, genedlaethol ac Phrydain.
•Byd y swydd yn ymateb i Fframwaith Adfywio Gwynedd presennol – bydd y Fframwaith a’r Cynlluniau Ardal yn gynlluniau byw a fydd yn newid yn rheolaidd. Nid yw’r prosiectau felly yn gyfyngedig i’r hyn a gynhwysir yn y cynlluniau presennol;
•Mae’r cynlluniau yn amrywio yn eu natur yn strategol, ariannol a thechnegol ac fe’i rhennir yn ôl arbenigedd, sgiliau a phrofiad aelodau’r tim.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Staff - Cyfrifoldebau staff sydd yn gweithio ar weithredu cynlluniau o fewn y Gwasanaeth
•Cyllid – Cyfrifoldeb gweithredol am reoli ac adrodd ar gyllidebau prosiectau yn ogystal a monitro gwaith prosiectau gan wahanol bartneriaid.
Prif ddyletswyddau
•Gweithio ar brosiectau allweddol yr Adran, yn gyfrifol am reolaeth prosiect o ddydd-i-ddydd, yn atebol i’r Reolwr Rhaglenni Adfywio .
•Comisiynu a rheoli contractau sydd yn gysylltiedig a’r phrosiectau blaenoriaeth yr Adran.
•Cyflawni’r rôl rheolaeth prosiect gan lunio dogfennau o safon uchel, gan gynnwys ond ddim yn gyfyngedig i: y Ddogfen Cychwyn Prosiect, cynlluniau prosiect, y log risgiau a materion ac adroddiadau cynnydd. Bydd angen sicrhau bod yr holl ddogfennau yn parhau’n gyfredol gydol y prosiect.
•Arwain a rheoli gwahanol agweddau gwaith yn gysylltiedig â phrosiectau’r Fframwaith Adfywio a’r Cynlluniau Ardal. Bydd hyn yn cynnwys datblygu perthynas weithio agos traws-adrannol a gyda phartneriaid allannol
•Gweithredu’n rhagweithiol i yrru’r prosiect a’r cytundebau yn eu blaen, drwy fod yn gyfrifol am reoli holl elfennau ac adnoddau cysylltiedig.
•Cyflawni’r holl dasgau gwaith perthnasol i sicrhau fod prosiectau a chomisiynnau yn cael eu cwblhau’n llwyddiannus gan anelu i gyflawni amcanion y prosiect mor effeithiol ac effeithlon a sy’n bosib.
•Arwain, rheoli, monitro ac adrodd ar adnoddau a chyllid prosiectau.
•Cynorthwyo, cyfrannu, arwain, rheoli a chydlynu gwaith i gwblhau achosion busnes.
•Cyfarwyddo ac ysgogi timau prosiect, yn drawsadrannol a gyda partneriaid allanol, a monitro eu gwaith.
•Sicrhau bod prosiectau yn cyrraedd at yr holl allbynnau a chanlyniadau angenrheidiol, a hynny o fewn terfynau cost, amser ac ansawdd.
•Llunio ac arwain ar weithrediad strategaeth gyfathrebu gynhwysfawr ar gyfer budd-ddeiliaid y prosiect ar gyfer rheoli eu disgwyliadau.
•Defnyddio dulliau a thechnegau rheoli newid i gefnogi cyflawni yn effeithiol ac yn effeithlon, gan feddwl am ddatrysiadau creadigol ac arloesol i rwystrau, a’u gweithredu’n llwyddiannus.
•Cydweithio’n agos gyda’r budd-ddeiliaid perthnasol, gan feithrin perthynas effeithiol a dylanwadol gyda phrif swyddogion y Cyngor, y Cabinet, aelodau etholedig a budd-ddeiliaid allanol fel sy’n ofynnol.
•Rheoli unrhyw gyfraniadau allanol / trydydd parti i’r gwaith yn y prosiect.
•Rheoli a monitro’r risgiau o fewn y prosiect, gan ddatrys problemau a materion sy’n codi, a chymryd camau adferol, neu uchafu materion o bwys.
•Adrodd ar gynnydd y prosiect i Fyrddau Rhaglen, byrddau prosiect, Cyfarfodydd Herio Perfformiad, y Cabinet ac unrhyw bwyllgor/grwp mewnol arall neu gyrff allanol perthnasol yn ôl y gofyn,
•Gwirio a rheoli ansawdd cynhyrchion ac allbynnau’r prosiect– gan sicrhau cysondeb, eu bod yn gydnaws â strategaethau eraill y Cyngor, a’u bod yn bodloni unrhyw safonau corfforaethol technegol ac arbenigol eraill.
•Cydweithio gydag aelodau eraill y tîm, swyddogion Cyfadrannau’r Cyngor a budd-ddeiliaid allanol fel Gweision Sifil Llywodraeth Cymru yn unol â gofynion y prosiectau.
•Ymateb i ohebiaeth ac ymholiadau yn gysylltiedig â phrosiectau unai ar lafar, dros ffon, ar e-bost neu drwy lythyr.
•Cyfrannu i adnabod, ymchwilio ac asesu dichonoldeb prosiectau newydd ar gyfer ymestyn ein Fframwaith Adfywio a Chynlluniau Adral i’r dyfodol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Trwydded yrru gyfredol ddilys ac yswiriant busnes car.
•Bydd angen gweithio ar ben eich hun tu allan i oriau swyddfa arferol yn ôl y gofyn.
•Bydd angen i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio drwy Wynedd gyfan ar adegau.