Swyddi ar lein
Rheolwr Asedau Twneli a Chydymffurfiaeth
£39,571 - £41,591 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 22-22656
- Teitl swydd:
- Rheolwr Asedau Twneli a Chydymffurfiaeth
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Twnelau a Technoleg
- Dyddiad cau:
- 16/06/2022 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £39,571 - £41,591 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS4
- Lleoliad(au):
- Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru (CRhTGC/NWTMC), Conwy
Manylion
Hysbyseb Swydd
Rheolwr Asedau Twneli a Chydymffurfiaeth
CYFLOG: PS4 (SCP 35-37) (£40,760 – £42,840)
LLEOLIAD: - Conwy a Gweithio'n hybridMae gan ACGCHC gyfle cyffrous ar gyfer ymgeisydd brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Technoleg deinamig.
Swydd barhaol yw hon, fydd yn gweddu i unigolyn sy'n bwriadu ehangu ei (g)yrfa ym maes rheolaeth dechnegol, trydanol ac asedau yn gweithio ar dwneli ffordd yr A55 sy'n ffurfio rhan bwysig o isadeiledd trafnidiaeth Cymru.
Byddai'r swydd yn addas i ymgeisydd sydd â sgiliau dadansoddi a datrys problemau cryf, sy'n medru ysgogi ei hun ac yn medru gweithredu ar ei liwt ei hun i reoli tîm bychan. Elfen allweddol o'r rôl hon yw sicrhau bod Twneli'r A55 yn parhau i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r safonau cyfredol. Efallai y bydd hyn yn golygu y bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol.
Dylai'r ymgeisydd delfrydol fod ag angerdd am dechnoleg ac arloesedd. Bydd yn cefnogi cyflawni prosiectau cynnal a chadw a phrosiectau yn ymwneud â thwneli'r A55 sy'n cynnwys datblygu nwyddau a gwasanaethau arloesol, rheoli adnoddau, cyllidebau a chyd-gysylltu gyda'r cleient /rhanddeiliad.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfleoedd i arwain ar yr arferion a safonau gorau cyfredol a newydd yn ymwneud â gweithredu'r twneli a gweithdrefnau diogelwch.
Rhaid iddynt gael sgiliau cyfathrebu ardderchog, ar lafar ac yn ysgrifenedig, â'r gallu i addasu eu harddull i gyd-fynd â'r gynulleidfa. Byddai profiad o ysgrifennu adroddiadau mewn rôl dechnegol debyg yn fanteisiol.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid ac aelodau eraill o'r tîm proffesiynol gan ddarparu rôl hanfodol wrth ddatblygu datrysiadau sy'n mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau ein cleientiaid.
Dylai'r ymgeiswyr fod â phrofiad o weithio mewn amgylchedd gefnogol, yn gallu ymdrin â problemau mewn modd resymegol a defnyddio tystiolaeth i ganfod atebion neu argymhellion, yn gyffyrddus wrth ddefnyddio amrediad o feddalwedd ac yn gallu dysgu sut i ddefnyddio systemau a rhyngwynebau newydd yn gyflym.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad a dealltwriaeth o'r systemau rheoli asedau, gosodiadau mecanyddol a thrydanol a Thechnolegau Microsoft megis Word, Excel a PowerBI.
Wrth weithio i ACGCHC byddwch yn profi amgylchedd gweithio cynhwysol, cyfeillgar a hyblyg lle mae cydweithwyr yn cael eu hannog i dyfu a datblygu. Mae hwn yn gyfle gyrfa ystyrlon a gwobrwyol lle byddwch yn helpu i drawsffurfio cymdeithas. Manteision eraill o weithio gyda ni yw pensiwn sector cyhoeddus, gwyliau â thâl a chynllun disgownt staff.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol am y swyddi uchod, cysylltwch, os gwelwch yn dda, gydag Andrew Roberts ar 01492 564750.
Dyddiad Cau: 10yb Dydd Iau 16/06/22Os byddwch yn llwyddo i gyrraedd y rhestr fer am gyfweliad, byddwn mewn cysylltiad â chi ar E-BOST gan ddefnyddio'r cyfeiriad a ddarperir ar eich ffurflen gais. Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu gweithio dan bwysau.
Gallu gweithio mewn amgylchedd tîm.
Yn ymroddgar ac â’r gallu i gymell ei hun
Parodrwydd i gymryd cyfrifoldeb am ei weithredoedd ei hun o fewn paramedrau diffiniedig.
Gallu derbyn, cymhathu a gwerthuso gwybodaeth o amryfal ffynonellau.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig a meddu ar y gallu i weithio gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosibCYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOLGradd neu gymhwyster cyffelyb yn un o'r isod:
• Systemau Technoleg / Gwybodaeth
• Peirianneg Mecanyddol a Thrydanol
• Peirianneg Trydanol ac Electronig
• Rheoli Prosiectau Adeiladuneu
HNC neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil a Pheirianneg Trydanol neu ddisgyblaeth briodol a phrofiad perthnasol sylweddol.
DYMUNOL
Aelodaeth Siartredig o gorff proffesiynol priodol.
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
Hyfforddiant Rheoli ac Arwain.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad perthnasol yn rheoli a chyflawni cynlluniau gwella isadeiledd neu gynnal asedau ar sawl modd megis twneli neu beiriannau gweithgynhyrchu.
Profiad o gydlynu a rheoli rhaglenni gwaith.
Profiad o weinyddu contractau a chaffael prosiectauDYMUNOL
Profiad o reoli contractau fframwaith.
Profiad o gyd-gysylltu gyda llu o randdeiliaid.
Profiad blaenorol o reoli a chynnal asedau technoleg priffyrdd neu isadeiledd diwydiannol eraill.
Profiad o sicrhau bod cydymffurfiaeth gyda rheoliadau yn cael ei gynnal e.e. Rheoliadau Diogelwch Twneli Ffyrdd, Rheoliadau Trydan yn y Gwaith.
Profiad o systemau rheoli asedau mecanyddol a thrydanol.
Profiad o reoli a chynnal systemau mecanyddol a thrydanol.
Profiad o reoli adnoddau i gyflawni rhaglenni gwaith aml-ddisgyblaethol.SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith yn brydlon gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib.
Y gallu i gydlynu a rheoli’n effeithiol y broses o gyflawni rhaglenni gwaith drwy ddarparwyr gwasanaeth i derfynau amser penodedig.
Ymgymryd â dyletswyddau’n hyderus ac yn broffesiynol, gyda’r gallu i ddangos arloesedd a chreadigedd.
Gallu derbyn, cymhathu a gwerthuso gwybodaeth o amryw o ffynonellau, a darparu argymhellion manwl
Profiad o ddefnyddio systemau rheoli asedau
Gwybodaeth fanwl am reoli prosiectau ac asedau a'r prosesau allweddol wrth gyflwyno prosiectau unigol mewn amgylchedd peirianyddol neu adeiladu.
Trwydded yrru gyfredol.DYMUNOL
Sgiliau rhyngbersonol da a sgiliau dadansoddi cryf, a’r gallu i ysgrifennu adroddiadau’n fanwl, ynghyd â sgiliau cyflwyno effeithiol.
Sgiliau dadansoddi a rheolaeth ariannol.
Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth, safonau a pholisïau eraill sy’n ymwneud â Rheoli Prosiect.
Gwybodaeth o weithrediadau rheoli traffig ar ffyrdd cyflymder uchel.
Gwybodaeth weithredol o reoliadau CDM.
Gwybodaeth o safonau a deddfwriaethau cyfredol yn ymwneud â phriffyrdd.
Gwybodaeth fanwl o weinyddu prosiectau adeiladu drwy ddulliau caffael modern e.e. Trefniant Contractau NEC.
Gwybodaeth am gyflwyno prosiectau adeiladu gan ddefnyddio cytundebau fframwaith.GOFYNION IAITH
Gwrando a Siarad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.
Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.
Darllen a Deall
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.Ysgrifennu
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu’n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.Dylid disgrifio'r nodweddion hynny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Dylid defnyddio’r rhain fel meini prawf asesu ar gyfer pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
1. Bod yn gyfrifol am oruchwylio a chydlynu holl brosiectau technoleg gwaith cynnal a chadw mecanyddol a thrydanol twneli'r Asiant a'r prosiectau cyfalaf o ran sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion costau, amser ac ansawdd.
2. Rheoli tîm cynnal a chadw'r twneli gan gynnwys ymgymryd â'r cyfrifoldebau perfformiad ac awdit.
3. Cynorthwyo i gydlynu a rhaglennu cynlluniau adnewyddu, uwchraddio a chynlluniau diogelwch blynyddol a phob pum mlynedd yr Asiant.
4. Monitro cydymffurfiaeth a datblygiad parhaus y Dogfennaeth Diogelwch Twneli yn unol â'r adborth gweithredu a'r gofynion deddfwriaethol.
5. Cefnogi'r Rheolwr Gweithrediadau Twneli gyda datblygu a chyflawni'r rhaglen gyffredinol o brosiectau cyfalaf a gweithgareddau refeniw.
6. Gweithredu fel arbenigwr prosiectau twneli a chynnal a chadw yr Asiant gan gynghori ar faterion diogelwch y twneli gan gynnwys gofynion cynnal a chadw ac archwilio i offer twneli.
7. Cynorthwyo Rheolwr Gweithrediadau'r Twneli i gadw Ffeil Iechyd a Diogelwch ar gyfer twneli'r A55.
8. Rheoli a gweinyddu system rheoli asedau'r twneli (AMX).
9. Sicrhau bod y gwaith o weinyddu contractau ar gyfer prosiectau a gweithgareddau cynnal a chadw'r twneli ar y rhwydwaith yn cydymffurfio â gofynion LlC.
10. Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisïau diogelwch twneli a gweithdrefnau gan gynnwys rheoli, datblygu a gweithredu’r Dogfennaeth Diogelwch RTSR.
11. Cynorthwyo yng nghyswllt agweddau technegol a chytundebol y sefydliad, monitro ac adnewyddu contractau fframwaith yr Asiant a'r contractau cyfnod gwasanaeth.
12. Gweithredu fel Noddwr Prosiect a Chleient CDM ar brosiectau a gwaith cynnal a chadw pan fo angen cau, fel bo'r angen.
13. Caffael a bod yn rheolwr prosiect ar wasanaethau contractwyr arbenigol a gwasanaethau ymgynghorwyr yn unol â gweithdrefnau’r Asiant, gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion perfformiad.
Cyfrifoldeb am swyddogaethau . e.e. staff, cyllidebau, offer
• Rheoli darparwyr gwasanaethau allanol (darparwyr gwasanaethau LlC, Awdurdodau Partner ac ymgynghorwyr a chontractwyr sector preifat).
• Rheoli holl gyllidebau prosiectau cyfalaf a refeniw perthnasol y Twneli.
• Rheoli’r holl systemau diogelwch peirianyddol bywyd y twneli.
• Rheolaeth o systemau rheoli data a bas data y Twneli a Thechnoleg,Prif Ddyletswyddau .
Rheoli ProsiectYmgymryd â rôl oruchwylio a chydlynu ar gyfer holl weithgareddau twneli yr Asiant (archwilio/cynnal a chadw a phrosiectau cyfalaf) o ran sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion costau, amser ac ansawdd, gan gynnwys:
• Cynnal a monitro’r brif raglen ar gyfer holl weithgareddau prosiectau a chynnal a chadw twneli'r Asiant (prosiectau, archwilio a cynnal a chadw), gyda phwyslais benodol ar sicrhau y cânt eu cyflawni.
• Ymgymryd â gwaith i baratoi briffiau prosiectau, gweithdrefnau tendro cystadleuaeth fach, rhaglenni/cynlluniau rheoli prosiect a chyflawni’r prosiect.
• Defnyddio egwyddorion system rheoli prosiect PRINCE2.
• Paratoi a threfnu gweithredu Gorchmynion Traffig parhaol ble bo’r angen. Darparu cyngor i Reolwyr Llwybrau ynghylch paratoi Gorchmynion / Rhybuddion Traffig dros dro.
• Rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â diogelwch twneli o ran cynlluniau gwelliant mawr fel bo’r gofyn.
• Ymchwilio i ddamweiniau agos, damweiniau a dadansoddi data asedau twneli i adnabod patrymau, a chymryd y camau priodol fel bo angen gan ddefnyddio cronfeydd data LlC a basau data eraill.
• Rheoli darparwyr yr Awdurdodau Partner a'r sector preifat o ran prosiectau, gan gynnwys darparu Dangosyddion Perfformiad Allweddol a delio gydag unrhyw broblemau perfformiad.
• Cyd-gysylltu gyda Uned Fusnes y Tîm Masnachol yng nghyswllt rheoli perfformiad prosiectau.
• Cynorthwyo gyda chau prosiectau gan gynnwys comisiynu, cofnodion ‘fel yr adeiladwyd’ a diweddaru’r rhestr eiddo.
• Cynorthwyo swyddog diogelwch y twneli gyda rheoli a gweithredu ymarferion argyfwng rheoleiddio'r twneli.
• Adolygu a diweddaru rhestrau cynnal a chadw ac archwilio'r twneli yn unol ag argymhellion gwneuthurwyr yr offer.Cynorthwyo'r Asiant gyda gweinyddu contractau a chaffael prosiect i brosiectau twneli a gweithgareddau cynnal a chadw.
Sicrhau bod y gwaith o weinyddu contractau ar gyfer prosiectau ar y rhwydwaith yn cydymffurfio â gofynion LlC.
Gweithredu fel Noddwr Prosiect ar brosiectau fel y cytunwyd. Yn rhinwedd y swydd hon, ymgymryd â’r swyddogaethau a ganlyn: -
• adnabod anghenion prosiect, sicrhau cyllid prosiect a pharatoi briff prosiect.
• sicrhau y caiff pob comisiwn ei ddyrannu yn unol â Phrotocol Gwasanaeth Ymgynghorol yr Awdurdod Partner.
• cytuno ar raglen a brîff y prosiect.
• cymeradwyo ffioedd ymgynghori a chynigion y tîm cyflawni.
• cyd-gysylltu â staff perthnasol LlC.
• bod yn gyfrifol am gyflawni’r prosiect yn ei gyfanrwydd a rheoli’r gyllideb.
• cytuno ar digwyddiadau iawndal a'u cymeradwyo;
• adolygu a chytuno ar gyflwyno taliadau’n fisol.
• derbyn, adolygu, addasu a chymeradwyo Dangosyddion Perfformiad Allweddol y prosiect.
• cychwyn prosesau diffyg perfformiad.
• adrodd ar y gwariant hyd yma, a phroffil gwariant y dyfodol i Uned Fusnes yr Asiant.
• trefnu a chadeirio cyfarfodydd cynnydd prosiect.
• adolygu a chadarnhau cyflwyniadau sy’n gysylltiedig â'r prosiect cyn eu cyflwyno i LlC.
• sicrhau y caiff prosiectau eu terfynu'n briodol ac yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.Gweithredu fel Cleient CDM ar brosiectau fel bo angen.
Rheoli’r holl gyllidebau perthnasol gyda cynnal a chadw'r twneli sy'n gysylltiedig gyda twneli'r A55, yn cynnwys prosiectau ble fo deilydd y swydd yn gweithredu fel noddwr y prosiect.Rheoli'r Rhaglen
Cynorthwyo i gydlynu’r broses o adnabod, hyrwyddo a blaenoriaethu rhaglenni blynyddol a rhaglenni pum mlynedd yr Asiant o gynlluniau adnewyddu, uwchraddio a chynlluniau diogelwch.
Rheoli atodlenni rheolaeth cau'r twneli, gweithio gyda ITS ACGCC a'r Rheolwr Trydanol i gytuno ar bresenoldeb ar gyfer y gwaith rheoli cau.
Cefnogi'r Rheolwr Uned Twneli a Thechnoleg yn natblygiad cyffredinol a chyflawni'r rhaglen o brosiectau refeniw a chyfalaf ar draws rhwydwaith Cefnffyrdd yng ngogledd a chanolbarth Cymru yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru (LlC).Galluogi cyflawni’r rhaglenni o brosiectau drwy gaffael gwasanaethau ymgynghorol cefnffyrdd a gwaith adeiladu yn unol â gweithdrefnau’r Asiant.
Dyletswyddau Technegol EraillCynorthwyo yng nghyswllt agweddau technegol a chytundebol y sefydliad, monitro ac adnewyddu contractau fframwaith yr Asiant.
Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisi caffael prosiectau a gweithdrefnau.
Datblygu a gweithredu dogfennaeth diogelwch twneli.
Bydd hyn yn cynnwys materion hyfforddi a datblygu staff o fewn yr Asiant a gyda darparwyr gwasanaeth.Sicrhau bod egwyddorion 'Rethinking Construction' yn cael eu hyrwyddo gan yr Asiant yn ei weithdrefnau caffael.
Datblygu ac adolygu prosesau fel rhan o raglen wella barhaus i sicrhau bod dyraniadau cyllidebol yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon, ac y cwblheir gwaith ar amser ac yn unol â gofynion costau ac ansawdd, heb ymateb diangen gan y cyhoedd neu’r cyfryngau.
Cynorthwyo yn rheolaeth, casglu, paratoi a chyflwyno amcangyfrifon cost a rhaglennu i'r gweithgareddau prosiect a cynnal a chadw i LlG.
Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion deddfwriaethol sy’n berthnasol i’r swydd gan gynnwys: -
• Canllaw Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd
• Manyleb ar gyfer Gwaith ar Briffyrdd
• Dull Mesur Gwaith ar Briffyrdd
• Pennod 8, Canllaw Arwyddion Traffig
• Canllaw Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC
• NEC3 contractau cyfnod gwasanaeth a NEC4 contractau opsiwn A ac E.
• Rheolau Sefydlog Cyngor Gwynedd
• Rheoliadau Trydan yn y Gwaith (EAWR)
• Rheoliadau Diogelwch Twneli Ffyrdd (RTSR)
• Rheoliadau CDM
• Dogfennau perthnasol eraill y cyfeirir atynt yn y cytundeb WGMAA.
• Dogfennaeth berthnasol mewn perthynas â cynnal a chadw ac archwilio offer sy'n gysylltiedig â thwneli'r A55.Sicrhau bod darparwyr gwasanaeth yr Asiant, yr Awdurdodau Partner a’r Fframwaith yn cydymffurfio â pholisïau a safonau y DU / LlC.
Rheoli Perfformiad
Cynorthwyo’r Rheolwr Busnes ac Ansawdd a staff perthnasol i ddatblygu systemau a gweithdrefnau ar gyfer System Rheoli Busnes yr Asiant.
Sicrhau y gweithredir systemau a gweithdrefnau er mwyn archwilio, monitro a rheoli perfformiad y gadwyn gyflenwi wrth gyflawni’r prosiectau.
Gweithredu dulliau o adolygu perfformiad a gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu gwelliant parhaus.
Mynd i’r afael â meysydd lle ceir diffyg perfformiad ar ran y darparwr gwasanaeth.Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
Mae’n gyfrifoldeb ar bob gweithiwr yr Asiant i gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiant.
Sicrhau y glynir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
Cynorthwyo tîm archwilio iechyd a diogelwch ACGCC gyda mynediad pan fo'r twneli wedi eu cau i gynnal archwiliadau gan wedyn adolygu i weithredu datrysiadau i unrhyw faterion a nodwyd sydd ddim yn cydymffurfio.Cyffredinol
Cyd-gysylltu, fel bo’n briodol, â swyddogion yr Asiant, Swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.
Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol, cytundebol a datblygiadau eraill yn y diwydiant, gan gynnwys dulliau newydd, gyda’r nod o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
Cynorthwyo a chefnogi'r Uned Twneli a Thechnoleg. Darparu cefnogaeth i swyddogion eraill yr Asiant wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
Cynrychioli buddiannau’r Asiant yn gyffredinol mewn cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid.
Dyletswyddau rheolaethol, gweinyddu contractau, technegol a phroffesiynol sy’n gymesur ag awdurdod y swydd.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Cyfrifoldeb am hunan-ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeilydd y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
Amgylchiadau Arbennig . e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
• Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol (dros nos ac ar benwythnosau) i fodloni gofynion y Gwasanaeth.
• Bod yn bresennol pan fo'r twneli yn cau dros nos, efallai ar fyr rybudd pe byddai unrhyw ddigwyddiad yn y twneli.
• Ymgymryd â rôl peiriannydd technoleg ar-alwad ar sail system rotaDim ond amlinelliad o’r dyletswyddau yw'r uchod i roi syniad o lefel y cyfrifoldeb sydd ynghlwm â’r swydd. Nid yw’r swydd ddisgrifiad yn gyflawn o ran y manylion, a gall dyletswyddau’r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid natur a lefel cyfrifoldeb sylfaenol y swydd.